Un o egwyddorion craidd Prosiect 50:50 yw bod y cyfrannwr gorau’n cael ei ddefnyddio bob amser. Rydyn ni’n annog gwneuthurwyr cynnwys i barhau i chwilio am leisiau newydd a safbwyntiau gwahanol drwy'r amser.
Drwy Ddiwrnodau Agored 50:50 a gwaith allgymorth, mae’r 麻豆官网首页入口 wedi cynyddu ei rwydwaith o gyfranwyr arbenigol er mwyn adlewyrchu'r cynulleidfaoedd mae’n eu gwasanaethu, a chryfhau ei allbwn.
Bod yn gyfrannwr
Os hoffech chi fod yn rhan o鈥檔 cronfa ddata o gyfranwyr posibl, a helpu timau鈥檙 麻豆官网首页入口 i gynnwys lleisiau mwy amrywiol yn eu cynnwys, llenwch ein ffurflen we:
Bydd T卯m Prosiect 50:50 yn casglu eich gwybodaeth ac yn sicrhau ei bod ar gael i holl arlwy a thimau cynhyrchu鈥檙 麻豆官网首页入口. Y timau hynny fydd yn penderfynu a ydynt am gysylltu 芒 chi ai peidio, felly mae鈥檙 wybodaeth a roddwch chi yn y ffurflen we yn bwysig.
Nodwch eich meysydd arbenigedd a gwybodaeth, unrhyw brofiad blaenorol o gael cyfweliadau 芒鈥檙 cyfryngau (er nad yw hyn yn ofynnol), eich lleoliad, unrhyw ieithoedd rydych chi鈥檔 eu siarad yn rhugl (ar wah芒n i Saesneg), ac unrhyw wybodaeth arall a fydd yn helpu cynhyrchwyr i benderfynu a ydych chi鈥檔 addas ar gyfer eu cynnwys ai peidio.
Gan nad yw 50:50 yn argymell arbenigwyr na chyfranwyr, mae gwneuthurwyr cynnwys y 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am eu diwydrwydd dyladwy eu hunain pan fyddan nhw鈥檔 cysylltu, felly dydy bod ar y gronfa ddim yn golygu eich bod chi wedi cael eich cymeradwyo.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni鈥檔 prosesu eich data, edrychwch ar ein hysbysiad preifatrwydd ar waelod y ffurflen.
Os ydych chi wedi ychwanegu eich hun at y gronfa ddata Cyfranwyr o鈥檙 blaen ac eisiau diweddaru neu ddileu eich manylion, .
Y Tu Hwnt i Rywedd
Dechreuodd 50:50 drwy fonitro鈥檙 gynrychiolaeth o blith menywod, ac rydyn ni wedi gweld gwelliant enfawr yn y ffordd mae menywod yn cael eu cynrychioli yng nghynnwys y 麻豆官网首页入口, fel y gwelir yn ein Hadroddiad Effaith diweddaraf.
Rydyn ni鈥檔 ymestyn ein methodoleg lwyddiannus er mwyn cynyddu faint o gyfranwyr anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig sy鈥檔 cael eu cynrychioli.
Edrychwch sut rydyn ni wedi lansio ein hymlediad ac yn addasu鈥檙 metrigau 50:50.
Cyfweliadau: Beth i'w Ddisgwyl
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad gyda鈥檙 麻豆官网首页入口 mewn stiwdio deledu neu radio, rhaid i wneuthurwyr cynnwys ddilyn gweithdrefnau eithaf safonol. Mae鈥檙 fideo hwn yn amlinellu鈥檙 gweithdrefnau hynny mewn deg cam syml.
1. Y MANYLION.
Pan fyddwch yn cytuno i gyfweliad â’r 麻豆官网首页入口, cewch wybodaeth am y lleoliad a phryd fydd y cyfweliad yn dechrau.
‘LLEOLIAD’. ‘AMSER’. ‘Y CYFWELYDD’.
Cewch wybod hefyd os yw’r cyfweliad yn cael ei ddarlledu’n fyw neu’n cael ei recordio wyneb yn wyneb neu o bell.
‘WYNEB YN WYNEB’ neu ‘DOWN THE LINE’ ‘O BELL’.
2. ‘DIOGELWCH YN GYNTAF’
Ers Covid, rydyn ni’n addasu ein ffordd o weithio yn gyson er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
3. ‘HELO’
Byddwn yn cwrdd â chi pan fyddwch yn cyrraedd. Yn dibynnu ar faint yr adeilad, gallwch naill ai aros yn y dderbynfa neu fynd yn syth i’r stiwdio.
4. ‘AR YR AWYR’
Bydd cyfweliad byw yn cael ei gynnal gan gyflwynydd neu ohebydd, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell, ac yn cael ei ddarlledu yn syth.
5. ‘ODDI AR YR AWYR’
Gall cyfweliadau sy’n cael eu recordio ymlaen llaw naill ai gael eu cynnal gan gyflwynydd neu ohebydd wyneb yn wyneb, neu o bell. Mae modd golygu’r ddau fath yma o gyfweliad.
6. ‘S糯N – YN Y STIWDIO’
Bydd gofyn i chi wisgo microffon bach. Ond, er mwyn osgoi problemau technegol, peidiwch â gwisgo dillad gwyrdd na streipiog.
7. S糯N: O BELL
Ar gyfer cyfweliadau o bell, bydd angen i chi wisgo clustffon yn y glust er mwyn i chi allu clywed y cyflwynydd. Bydd gofyn i chi eistedd o flaen meicroffon ac, o bosibl, wisgo clustffonau ar eich pen.
8. ‘Y CYFWELIAD’
Mae atebion sy’n para tua 30 – 40 eiliad yn gweithio’n dda ar gyfer y teledu.
9 'VISION'
Hoeliwch eich sylw ar y cyflwynydd ac anwybyddu popeth o’ch cwmpas. Os ydych chi’n cael eich cyfweld o bell, edrychwch i mewn i’r camera.
10. ‘HWYL FAWR’
Cofiwch ofyn ble a phryd y gallwch chi wylio’r cyfweliad. Dylech chi allu gwylio cyfweliadau byw yn ôl hefyd.
50:50 ‘Y PROSIECT CYDRADDOLDEB’
Ers y coronafeirws, mae鈥檙 麻豆官网首页入口 yn cynnal mwy o gyfweliadau dros alwadau fideo. Yn y fideo canlynol, mae Chanise Evans o鈥檙 麻豆官网首页入口 yn rhoi cyngor ar gyfer paratoi am gyfweliad dros alwad fideo.
Gall paratoi ar gyfer cyfweliad fideo fod yn broses eithaf brawychus, ond does dim rhaid iddi fod.
Dyma ambell awgrym i’ch helpu i dawelu eich meddwl a gwneud i’ch cyfweliad edrych yn wych.
Mae golau yn bwysig iawn.
Byddai’n syniad i chi eistedd wrth ffenestr, fel bod digon o olau ar gael.
Er dweud hynny, peidiwch ag eistedd gyda golau y tu ôl i chi, mae’n bosibl y byddwch yn edrych fel hyn.
Os na allwch chi eistedd yn wynebu ffenestr, mae cau y llenni bob amser yn syniad da.
Byddwch chi angen pâr o glustffonau â microffon.
Byddai pâr safonol sy’n dod gyda ffôn symudol yn gweithio’n iawn.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi glutffonnau, ond cofiwch ystyried unrhyw synau y gall eich gliniadur ei glywed yn y cefndir.
Wrth ddewis beth i’w wisgo, meddyliwch am y gynulleidfa a’r pwnc rydych chi’n siarad amdano.
Os oes logo ar eich dillad, gofynnwch i'ch hun ‘A yw’r logo yn berthnasol i'r hyn rydych chi'n siarad amdano?’
Mewn stiwdio, neu o flaen sgrin werdd, peidiwch â gwisgo dillad gwyrdd na streipiog.
Sicrhewch fod eich camera ar yr un uchder â’ch llygaid.
Gan fod modd newid ei uchder, byddai defnyddio bwrdd smwddio fel stand yn syniad da.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio pethau eraill sydd i’w cael o gwmpas y t欧, fel bocsys teganau, llyfrau, neu focsys esgidiau.
Yn olaf, gwnewch yn si诺r nad oes dim yn y cefndir a allai dynnu sylw’r gwylwyr.
Cer allan o’r ’stafell os gwelwch yn dda.
-
Impact Report 2022
The latest challenge results are out showing that data can effect change -
麻豆官网首页入口 stories
See how 麻豆官网首页入口 teams have increased representation in their content -
How it works
50:50's three core principles explained and how we tailor them -
Contact us
Want to support our efforts to increase representation? Get in touch