PiCoS yw’r system fewnol newydd sbon sy’n cyfuno’r prosesau cynnig a chomisiynu cynnwys Radio a Theledu mewn un lle. Mae’r system wedi cael ei theilwra i wella cydweithio creadigol, i barhau i ddarparu cynnwys effeithiol i gynulleidfaoedd ac i wneud y broses o greu cynnwys yn fwy effeithlon a chydweithredol i bawb dan sylw o’r dechrau i’r diwedd.
Pryd fydd PiCoS yn fyw?
Mae PiCoS bellach yn fyw i ddefnyddwyr teledu. Nid yw Pitch ar gael ers dydd Gwener 8 Mawrth 2024 ac mae’r holl gyflwyniadau wedi cael eu trosglwyddo i System PiCoS.
Os ydych chi’n cynnig syniadau ar gyfer sain, bydd PiCoS yn fyw ar gyfer rowndiau sain newydd, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, ar sail rhwydwaith. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y briff comisiynu ar y wefan comisiynu radio ar gyfer pa system y dylech chi fod yn ei defnyddio. Gweler isod am y wybodaeth ddiweddaraf am rwydweithiau radio sydd wedi gorffen symud neu cysylltwch â picos.support@bbc.co.uk os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi am ddefnyddio Proteus neu PiCoS i gynnig syniad yn ystod y cyfnod hwn.
Symud Data
Teledu - Bydd yr holl gynigion sy’n cael eu cynnig cyn y dyddiad symud yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i PiCoS. Mae’r defnyddwyr a’r cyflenwyr gweithredol presennol wedi cael eu symud hefyd.
Radio – Mae cyflenwyr a defnyddwyr gweithredol presennol wedi cael eu symud. Mae rowndiau, briffiau a chynigion y rhwydweithiau canlynol wedi cael eu symud, felly dylech chi nawr ddefnyddio PiCoS ar gyfer pob cyflwyniad a chomisiynu:
• Radio 1
• Radio 4
Defnyddio PiCoS
Mae modd cyrraedd PiCoS drwy Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login. Os oes gennych chi gyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login yn barod, fydd ddim angen i chi ei osod eto a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut mae defnyddio’r system newydd. Efallai eich bod wedi defnyddio Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login i ddefnyddio systemau fel MyDevelopment neu’r Compliance Manager.
Os nad oes gennych chi gyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login eto, byddwch yn cael neges e-bost o no-reply.bbclogin@bbc.co.uk a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau i greu un. Mae’n werth taro golwg yn eich ffolderi sbam neu sothach os na fyddwch yn cael y neges hon. Ar ôl i chi gael yr e-bost hwn, mae gennych 14 diwrnod i weithredu arno. Ar ôl i chi greu cyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login byddwch yn cael neges e-bost arall pan fyddwch wedi cael mynediad at PiCoS. Os byddwch chi angen help i greu eich cyfrif Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Login gallwch lwytho rhagor o wybodaeth i lawr yma.
Fydd unrhyw gyfrif Pitch neu Proteus sydd heb gael ei ddefnyddio yn ystod y 2 flynedd diwethaf ddim yn cael ei symud i PiCoS yn awtomatig. Os nad oes e-bost yn dod i law a bod arnoch angen mynediad at PiCoS neu cysylltwch â picos.support@bbc.co.uk.
Hyfforddiant a Chymorth
Mae PiCoS yn reddfol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Bydd cardiau cymorth a fideo hyfforddi ar gael i’ch helpu wrth i chi ddechrau arni yn PiCoS.
Unrhyw gwestiynau?
Os gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu cysylltwch â ni yn picos.support@bbc.co.uk.