Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y ffordd mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn rheoli costau cynhyrchu dramâu parhaus

Date: 22.03.2011     Last updated: 23.09.2014 at 09.48
Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú adroddiad annibynnol heddiw a gomisiynodd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ar y ffordd mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn rheoli costau cynhyrchu dramâu parhaus.


Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú adroddiad annibynnol heddiw a gomisiynodd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ar y ffordd mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn rheoli costau cynhyrchu dramâu parhaus.

Yn 2009-10 gwariodd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú £102.5 miliwn (i lawr o £108.6 miliwn yn 2002-03) yn gwneud chwe drama barhaus neu opera sebon.

Roedd y diffyg amcanion perfformiad ffurfiol sy'n ymwneud â'r gynulleidfa ar gyfer dramâu unigol yn golygu na allai'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ddweud a oedd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn darparu gwerth am arian, serch hynny daeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i'r casgliad bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi cymryd camau pwysig tuag at gyflawni hyn.

Y chwe drama barhaus a adolygwyd oedd Casualty, Doctors, Eastenders a Holby City (a ddarlledir ledled y DU), River City (a ddarlledir yn yr Alban) a Pobol y Cwm (a gynhyrchir gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú i'w darlledu yng Nghymru ar S4C).

Canfu'r adolygiad fod costau cynhyrchu'r rhaglenni hyn yn cael eu rheoli'n dynn, a bod cost gyfartalog cynhyrchu awr o ddrama barhaus wedi disgyn 20 y cant mewn termau real dros yr wyth mlynedd diwethaf, gyda'r rhaglenni'n cael eu darparu'n brydlon ac, at ei gilydd, o fewn eu cyllideb.

Mae'r adroddiad yn argymell bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cryfhau ei ddull o gyflawni gwerth am arian mewn dramâu parhaus drwy fod yn fwy systematig wrth gymharu a herio costau a phrosesau cynhyrchu.

Dyma brif bwyntiau'r adroddiad ac ymateb yr Ymddiriedolaeth:

Mae cost gyfartalog fesul awr gwyliwr ar draws y chwe rhaglen wedi cynyddu 8.9 y cant mewn termau real dros yr wyth mlynedd diwethaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y gwylwyr. Fodd bynnag, mae'r gostyngiad hwn yn nifer y gwylwyr wedi cuddio gostyngiadau mewn cyfanswm costau cynhyrchu, sydd wedi disgyn 20 y cant dros yr un cyfnod. Mae cymeradwyaeth y gynulleidfa wedi cynyddu 6.5 y cant ar gyfartaledd dros y pedair blynedd diwethaf.

 Mae'r Ymddiriedolaeth yn fodlon ar ganfyddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi lleihau cost cynhyrchu'r dramâu hyn 20 y cant mewn termau real ar yr un pryd â chynyddu cymeradwyaeth y gynulleidfa.

Canfuwyd bod gan y chwe rhaglen fecanweithiau cryf ar gyfer gosod cyllideb fanwl ac wedyn monitro ac adrodd ar wariant yn erbyn y gyllideb honno. Serch hynny, nid yw'r timau sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r dramâu parhaus yn defnyddio dull gweithredu cyson. O'r cyfresi a gwblhawyd a archwiliwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, roedd 33 o'r 46 o fewn eu cyllideb neu oddi tani.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu datganiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol bod gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ddiwylliant cryf o fonitro perfformiad a mecanweithiau cryf ar waith i sefydlu a rheoli cyllidebau perfformiad..

Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn adolygu perfformiad rhaglenni'n rheolaidd drwy edrych ar nifer y gwylwyr a lefel cymeradwyaeth y gynulleidfa ond nid yw'n gosod amcanion ffurfiol ar gyfer yr hyn y mae disgwyl i'r rhaglenni ei gyflawni. Drwy osod amcanion o'r fath, byddai'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn llunio cyswllt amlwg rhwng yr adnoddau sy'n cael eu hymrwymo a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.

 Er bod modd gosod rhai amcanion – er enghraifft cyllidebau – ar lefel rhaglenni unigol, mae'r Ymddiriedolaeth yn credu nad yw hi bob tro'n briodol i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú osod amcanion sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa ar gyfer rhaglenni unigol. Ar hyn o bryd mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gosod yr amcanion hyn ar lefel sianel neu genre; byddai gosod amcanion ar lefel rhaglen unigol yn gallu peri'r risg o greu canlyniadau gwrthnysig neu anfwriadol ynghyd â biwrocratiaeth ddiangen hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal yn ymrwymedig i sicrhau gwerth am arian gan raglenni ac mae'n ystyried bod ystod amrywiol o ddulliau mesur yn ôl sianel a genre yn declyn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Fodd bynnag, bydd yr Ymddiriedolaeth yn gwneud rhagor o waith i ddeall sut mae sefydliadau creadigol eraill yn mynd i'r afael â'r materion a godir gan yr argymhelliad hwn.

Dywedodd Anthony Fry, Ymddiriedolwr y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú sy'n bennaf gyfrifol am werth am arian:

"Mae'r adroddiad yn dangos bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi dod yn ei flaen yn dda o ran sicrhau gwerth am arian i'r rheini sy'n talu ffi'r drwydded: cyflawniad gwych y gall y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ymfalchïo ynddo. Mae dramâu poblogaidd sydd wedi hen ennill eu plwyf megis Eastenders yn ganolog yn amserlen y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. Maent yn ennyn teyrngarwch cynulleidfaoedd ac maent yn darparu cyd-destun ar gyfer meithrin doniau ysgrifennu, actio a chynhyrchu newydd hefyd. Maent yn costio llai i wylwyr nawr nag oeddent ddeng mlynedd yn ôl, ac mae cymeradwyaeth y gynulleidfa yn codi.

"Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ac eithrio'r awgrym y dylai'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú osod targedau ar lefel drama. Rydym yn credu y gallai hyn niweidio gallu'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú i gynhyrchu rhaglenni gwahanol drwy beidio â chymell y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú i fentro’n greadigol a thrwy greu biwrocratiaeth ddiangen."

Dywedodd Amyas Morse, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol:

"Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gwneud gwaith da drwy ddefnyddio rheolaethau ariannol sylfaenol a chyflawni gostyngiadau cyson mewn costau ar draws ei bortffolio o ddramâu parhaus. Fodd bynnag, dylai fod yn fwy cyfannol a chymharu cost y rhaglenni hyn â lefelau a barn y gynulleidfa, yn ôl targed a'r hyn a gyflawnir, gan eu bod yn fesurau hollbwysig o berfformiad darlledu, ac yn dangos a yw'r dramâu parhaus yn darparu gwerth am arian."

Nodiadau i Olygyddion

1. Y chwe drama barhaus gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú a archwiliwyd yn yr astudiaeth hon yw Casualty, Doctors, EastEnders, a Holby City, River City a Pobol y Cwm (caiff River City ei chynhyrchu gan Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Scotland a'i darlledu ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú One Scotland a chaiff Pobol y Cwm ei chynhyrchu gan Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru i'w darlledu ar S4C).

2. Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú sy'n gyfrifol, dan y Siarter Frenhinol, am sicrhau bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cyflawni gwerth am arian yn y ffordd y mae'n gwario ffi'r drwydded. Er mwyn cyflawni'r cyfrifoldeb hwn, mae'r Ymddiriedolaeth yn comisiynu ac yn cyhoeddi cyfres o adolygiadau gwerth am arian annibynnol bob blwyddyn drwy ymgynghori â'r Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol – pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Caiff yr adolygiadau eu cynnal gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol neu asiantaethau allanol eraill.

3. Mae hysbysiadau ac adroddiadau i'r wasg ar gael o'r dyddiad cyhoeddi ymlaen ar wefan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sef www.nao.org.uk neu wefan Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú sef www.bbc.co.uk/bbctrust. Mae copïau caled ar gael gan Y Llyfrfa ar 0845 702 3474.

4. Y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol, Amyas Morse, yw pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sy'n cyflogi oddeutu 900 o staff. Mae ef a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Mae'n ardystio cyfrifon holl adrannau'r Llywodraeth ac ystod eang o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus; ac mae ganddo'r awdurdod statudol i adrodd i'r Senedd ynghylch pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y mae adrannau a chyrff eraill wedi defnyddio eu hadnoddau.