Adolygiad Blynyddol Cymru: Y ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa teledu yng nghymru ond ceir pryderon o hyd am y portread o fywyd yng nghymru
Gwelwyd y ffigurau uchaf mewn degawd o ran cynulleidfa ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú One Wales a Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Two Wales yn 2013/14, yn ôl Adroddiad Blynyddol y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac adolygiad blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru o'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú a gyhoeddwyd heddiw. Ìý Ìý Ìý
Gwelwyd hefyd y niferoedd uchaf erioed yn gwylio Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales Today, y bwletin newyddion fin nos, gyda 305,000 o bobl yn ei wylio ar gyfartaledd.
Croesawodd Cyngor Cynulleidfa Cymru, corff cynghori Ymddiriedolaeth y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, lwyddiannau'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yng Nghymru a'r uchafbwyntiau eleni o ran rhaglenni.Ìý Ymhlith y rhain roedd Y Gwyll/Hinterland, a ddarlledwyd mewn tri fersiwn mewn partneriaeth â'r S4C – Cymraeg, dwyieithog a Saesneg – am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yna ledled y DU.
Cyrhaeddodd tymor rhaglenni Live Longer Wales ar y teledu, radio ac ar-lein bron 40 y cant o oedolion yng Nghymru. Ìý
Parhaodd Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales i gyfrannu'n gadarn at raglenni i gynulleidfaoedd ledled y DU, gyda bron 12 miliwn o bobl, ar gyfartaledd, yn gwylio'r gyfres ddiweddaraf o Sherlock. Mae hyn yn golygu mai hon yw'r gyfres ddrama a gafodd y nifer fwyaf o wylwyr ar y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú mewn dros ddegawd yn ogystal â'r ffaith mai hon yw'r ddrama fwyaf poblogaidd erioed ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iPlayer.Ìý
Cafodd y bennod arbennig o Doctor Who a oedd yn dathlu hanner canmlwyddiant y gyfres, a gynhyrchwyd hefyd yng Nghaerdydd, ei darlledu ar yr un pryd i 98 o wledydd ledled y byd. ÌýÌý
Parhaodd Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales i berfformio'n gadarn gyda 468,000 o bobl, ar gyfartaledd, yn gwrando bob wythnos. ÌýCynyddodd Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru gyrhaeddiad ei gynulleidfa 13 y cant, lansiodd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ymhlith ei wrandawyr ac yn dilyn hynny ail-lansiodd ei amserlen yn ystod yr wythnos.
Croesawodd y Cyngor Cynulleidfa lansiad Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú One Wales HD ynghyd â'r gwelliannau diweddar i ddarpariaeth DAB o Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales a Radio Cymru, a gynyddodd o 41 y cant i 61 y cant. Ìý
Mae'r Cyngor, a gynhaliodd 18 o ddigwyddiadau eleni i gasglu barn cynulleidfaoedd, wedi pwysleisio'r ffaith bod angen gwella darpariaeth DAB ac FM o Radio Wales a mynegodd bryder nad yw newyddion rhwydwaith Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ledled y DU yn adlewyrchu'r DU ar ôl datganoli o hyd. Er i'r Cyngor ddod i'r casgliad bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, dywedodd fod cymariaethau annigonol yn cael eu gwneud o hyd o ran swyddi cyfreithiol ac o ran polisi yng ngwledydd gwahanol y DU. Pwysleisiodd y Cyngor hefyd bryderon y gynulleidfa am y gostyngiad parhaus yn nifer y rhaglenni teledu Saesneg nad ydynt yn ymwneud â'r newyddion a gynhyrchir gan Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales i gynulleidfaoedd yng Nghymru, sydd wedi gostwng 21 y cant ers 2007/8.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú:
"Gyda'r ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa, mae'n amlwg bod Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru Wales yn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ac mae'r rhaglenni eithriadol a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yn brawf o hynny. ÌýÌýYn ogystal â hyn, mae'r dramâu a wnaed yng Nghymru ar gyfer y DU gyfan yn mynd o nerth i nerth ac mae Radio Cymru wedi denu mwy o wrandawyr.Ìý
"Fodd bynnag, mae'n peri pryder bod y Cyngor Cynulleidfa wedi nodi materion parhaus o ran y ffordd y mae rhwydwaith y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn adlewyrchu Cymru, a'r ffaith bod prinder rhaglenni teledu Saesneg, yn arbennig comedi a drama, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru i Gymru.Ìý Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i weithio gyda'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn ystod y flwyddyn i ddod".
Nodiadau i OlygyddionÌý
1. Mae Adolygiad Blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gyfer 2013/14 ar gael yn
2. Mae Adolygiad Blynyddol a Chyfrifon y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ar gyfer 2013/14 ar gael yn
3. Mae Adolygiad Blynyddol Rheolwyr y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ar gael yn
Search the site
Can't find what you need? Search here