Sut mae trawsnewid si芒p
Www! Cylch hud! Dw i'n edrych mlaen am 'chydig o driciau!
Yh鈥 beth am aros gyda'r stwff syml i ddechrau?
Beth am drawsffurfiadau?
Os yw si芒p yn cael ei drawsffurfio mae ei olwg yn newid.
Gallwn wneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys trawsfudo, adlewyrchu a chylchdroi.
Yn gyntaf, trawsfudo, sef pan mae si芒p yn llithro o un lle i'r llall heb dro.
Fe elli di symud e i fyny neu i lawr neu o ochr i ochr鈥
鈥eu'n syth i mewn i dy geg farus!
Math arall o drawsffurfiad yw adlewyrchiad.
Mae'n debyg i ddefnyddio drych.
Mae'r adlewyrchiad yr un hyd o'r llinell ddrych ag yw'r si芒p gwreiddiol.
Sy'n digwydd bod y pellter i dy geg.
Dw i'n gweld ble mae hyn yn mynd.
Ac yna mae cylchdroi.
Pan wyt ti'n troi si芒p yn glocwedd neu'n wrthglocwedd o amgylch pwynt, sef 'y canol cylchdro', rhaid i'r si芒p aros yr un pellter o'r pwynt鈥
鈥aaa, ie, mae wedi mynd!
Teimlo'n llawn? Felly dyna ni!
Trawsffurfiadau ffantastig! Da iawn.
O-o鈥 amser diflannu dywedwn i!