Y rhai fydd yn prysur bwyso . . .
![John Fisher](/staticarchive/0c1f9a782ea9603744ee5d00da2a90abf0dec441.jpg)
John Fisher o Opera Cenedlaethol Cymru yw cadeirydd beirniaid y ddwy gystadleuaeth ac yn ymuno â beirniaid y brif gystadleuaeth am y tro cyntaf eleni bydd y soprano fyd-enwog o Bontnewynydd, Gwent, Y Fonesig Gwyneth Jones.
Camp fawr fydd dod o hyd i docyn ar gyfer y brif gystadleuaeth. Mae'n arferiad gan nifer o'r ffyddloniaid i archebu eu tocynnau ar gyfer y gystadleuaeth nesaf yn union ar derfyn yr un gyfredol.
Mae mwy o obaith am docyn i gystadleuaeth y Datganiad, yn arbennig y rowndiau hynny a gynhelir yn y Theatr Newydd ar brynhawniau Sul, Llun a Mawrth.
Byddai'n werth ymholi am rownd derfynol y gystadleuaeth hon, hefyd, yn Neuadd Dewi Sant, nos Wener, Mehefin 12.
O fethu hynny, bydd digon o gyfle i weld a chlywed y cystadlu ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2 Wales, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Two, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Four, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio 3, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales ac arlein.