Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ac yn dwedyd . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:48, Dydd Gwener, 20 Awst 2010

Arholiadau, llwyddiant a choleg. Llwynogod tywysogaidd, CV a dychweliad Bellamy. Rhai o'r pynciau y bu gan bobl rywbeth i'w ddweud amdanyn nhw yn ystod yr wythnos.

Casgliad arall o ddyfyniadau sy'n adlewyrchiad o'r wythnos a fu.

  • Y can diwrnod cyntaf - y rheswm y tu ôl i ddegau o erthyglau, cyfweliadau, darllediadau a dadansoddi am y Glymblaid yn San Steffan.
  • Os na chewch chi le ar gwrs addysg uwch, peidiwch â digalonni nac ildio - Cyngor cadarnhaol gan Katie Dalton, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Nghymru wedi'r canlyniadau Safon Uwch.
  • Ro'n i'n edrych ar Whoopi Goldberg ac yn meddwl am y cwestiwn yn Gymraeg. Diolch byth ei fod o wedi dod allan yn Saesneg - Alex Jones yn dweud wrth am ei noson gyntaf yn cyflwyno 'The One Show'
  • Mae urddas yn rhan allweddol o ofal - Christine Thomas o Goleg Brenhinol y Nyrsus yn pwysleisio diogelu 'dignity' cleifion.
  • Mae pla o lwynogod ar ystad Tywysog Cymru wedi lladd dwsinau o'i ieir - adroddiad newyddion am lwynogod yn neidio dros ffens trydan bedair troedfedd yn Highgrove.
  • Erbyn y diwedd yr oeddem yn fandejus i gyd ac yn edrych fel rhywbeth allan o 'The Mummy' - Chris Miles a redodd 157 milltir o Gaerdydd i Gonwy mewn pedwar diwrnod gyda'i gyfaill Luke Bithell i godi arian at achosion da.
  • Gadewais gartref yn 15. Yr ydw i wedi bod eisiau dychwelyd adref drwy'r amser ond eisiau dod pan oeddwn ar binacl fy gêm - Graig Bellamy yn ymuno â thîm pêl-droed Caerdydd.
  • Yr ydw i yn credu bod Cymru . . . yn ddigon da i ennill Cwpan y Byd; fe fyddai'n berffaith onest efo chi - Shane Williams.
  • Gan ei bod hi mor hwyr mi wnes i guddio'r tocyn mewn hen focs CD tan y bore yn barod i ffonio Camelot - camau diogelwch Wayne Hughes o Gaergybi a fydd yn parhau i weithio yn siop Wilkinson yn y dref er iddo ennill £1,117,779 ar y Loteri.
  • Yr wyf wedi cael modd i fyw gydag un frawddeg arbennig yn y nofel 'Adenydd Glöyn Byw' . . . Tudalewn 133 mae'r nain Megan yn dweud, 'Difaru dwi, ar ddiwedd f'oes . . . na faswn i wedi . . . pechu mwy'. Faint ohonom sydd yn meddwl yr un fath?! - Hafina Clwyd yn ei cholofn Radio a Theledu yn 'Y Cymro'.
  • Yr ydym yn ymgyrchu i achub y Lido olaf yng Nghymru? Mae ym Mryn Aman ac mae'n FFANTASTIG. Angen codi $ gan fod yn well gan y cyngor adeiladu meysydd parcio yn hytach na'i gadw - Minnie Driver - y ganwyd ei thad mewn tÅ· teras yn Abertawe - yn Trydar dros Lido 80 oed Brynaman, Sir Gaerfyrddin.
  • Wedi cyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain fel golygydd rhaglenni materion cyfoes a newyddion megis Week in Week Out, Panorama a Newsnight fe apwyntiwyd Arwel yn Bennaeth Rhaglenni yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Gogledd Iwerddon ym 1985 - CV Arwel Ellis Owen ar wefan Cambrensis ddechrau'r wythnos.
  • Wedi cyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain fel un o olygyddion rhaglenni materion cyfoes a newyddion megis Week in Week Out, Panorama a Newsnight fe apwyntiwyd Arwel yn Bennaeth Rhaglenni yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Gogledd Iwerddon ym 1985 - CV Arwel Ellis Owen ar wefan ddiwedd yr wythnos.

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.