Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pregethu'n hapus

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:25, Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2010

Gyda'r cwestiwn, "Sawl blaenor mae'n gymryd i newid bylb yn y festri?" y cyflwynodd John Roberts ar Bwrw Golwg Tachwedd 7 gyfrol am hiwmor pregethwyr sydd newydd ei chyhoeddi.

Awdur Hiwmor Pregethwr ydi'r Parchedig Goronwy Evans o Lambed a chyhoeddir y llyfr gan Y Lolfa yn y gyfres Ti'n Jocan.


Clawr y llyfr

Safbwynt Goronwy Evans yw bod lle i hiwmor a jôcs yn y pulpud a'r capel fel ag ym mhobman arall.

Mae tipyn o ddoniolwch yn help, meddai, i gael neges drosodd i gynulleidfa.

Ychwanegodd bod mwy o hiwmor yn y pulpud heddiw nag a fu.

"A da chi'n disgwyl y bydd y pregethwr yn rhoi rhyw stori neu'i gilydd fydd yn dod â gwên i'r wyneb a pheri ichi chwerthin," meddai.

Dywedodd nad oedd yn ystyried hyn fel dull o osgoi yr hyn a alwyd yn "neges galed" ond yn gymorth i gyflwyno y neges honno yn fwy effeithiol.

Ymhlith y pregethwyr gyda hiwmor y cyfeiriodd atyn nhw yr oedd y diweddar D Jacob Davies a oedd yn llais cyfarwydd ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru yn ei ddydd.

Dyfynnodd Goronwy Evans ef yn atgoffa ei gynulleidfa unwaith "mai bugail ydych h chi wedi ei gael - nid ci defaid!"

O ie, 'r ateb i gwestiwn John Roberts gyda llaw:

"Sawl blaenor mae'n gymryd i newid bylb yn y festri?"
"Newid?!"

A thra'r ydych yn disgwyl i gael gafael ar Hiwmor Pregethwr beth am gymryd golwg ar y ddalen hon o ddoniolwch y bedwaredd ganrif ar bymtheg - pe na byddai ond er mwyn gweld sut mae hiwmor wedi newid dros y blynyddoedd.

Nid yr un pethau oedd yn peri chwerthin gan mlynedd yn ôl - yn wir, fe dybiwn i bod yna lawer o ochneidio radeg honno!

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.