Hen dai'n apelio
Mae yna gymaint o brynu wedi bod ar y llyfr Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru mae'n rhaid i'r argraffu rhagor ar gyfer y siopau cyn y Nadolig.
Cyhoeddir Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru / Introducing Houses of the Welsh Countryside gan Y Lolfa mewn cydweithrediad efo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Yr awduron ydi Richard Suggett o'r Comisiwn Brenhinol a'r hanesydd Dr Greg Stevenson.
![Clawr y llyfr](/staticarchive/1a58b1aa4119a5907fb8a229215957e100f8c71e.jpg)
"Mae'r ymateb i'r gyfrol wedi bod yn wych. Gyda chyfuniad o luniau trawiadol ac ysgrifennu awdurdodol Gregg Stevenson a Richard Suggett mae wedi taro deuddeg ac yn gwerthu'n dda ym mhob rhan o Gymru," meddai Pennaeth Golygyddol y Lolfa, Lefi Gruffudd.
Cafodd ei hadolygu ar ein gwefan ni gan John Stevenson.