Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd ar Batagonia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:03, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011

Mae yna ddiddordeb mawr yn y ffilm newydd, Patagonia - gyda Matthew Rhys a Duffy!

Ac er mai cymysg fu ymateb yr adolygwyr iddi canmoliaeth sydd i'w glywed ar lawr gwlad.

A daeth neges y bore 'ma fod y tocynnau ar gyfer dangosiad wyth o'r gloch nos Iau, Mawrth 31 yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, i gyd wedi mynd ac mai ond 16 tocyn oedd ar ôl ar gyfer dangosiad pump o'r gloch yr un diwrnod.

Oherwydd y galw, mae'r theatr yn trefnu dangosiad ychwanegol am ddau o'r gloch yr un diwrnod a'r tocynnau yn awr ar werth.

Hefyd bydd dangosiad arall am wyth o'r gloch. nos Fercher, Mehefin 8.

Rhif ffôn swyddfa docynnau Clwyd Theatr Cymru yw: 0845 330 3565

Cangen newydd
Hefyd yn y theatr am saith y nos Iau bydd criw o aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin yn cyfarfod i lansio cangen leol o'r Gymdeithas yng Nghlwyd.

Yn barod mae gan Gymdeithas Cymru Ariannin gangen leol de Cymru a changen leol Môn/Arfon sy'n cyfarfod yn rheolaidd.

Bydd cyfarfod cangen newydd Clwyd yn Ystafell Haydn Rees, Clwyd Theatr Cymru am saith, cyn dangosiad wyth o'r gloch Patagonia.

Bwriad y gangen yw cyfarfod dwy neu dair gwaith y flwyddyn er mwyn hybu ymwybyddiaeth o'r Wladfa, bod yn gyswllt rhwng y Wladfa ac ardal Clwyd, cefnogi gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin yn ganolog a chynnal cyfarfod cymdeithasol yn ymwneud â Phatagonia.

"Gyda 2015 a dathlu 150 mlynedd ers glaniad y Mimosa ar y gorwel, credwn mai rŵan yw'r amser i gael trefn ar bethau yng Nghlwyd," meddai Richard Snelson, y cadeirydd dros dro mewn e-bost chydig yn ôl

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.