Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn gair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:54, Dydd Gwener, 6 Mai 2011

Ein casgliad diweddaraf o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


  • Heddiw yw'r diwrnod pwysicaf i ddemocratiaeth Gymreig ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol 12 mlynedd yn ôl - Dalen flaen y 'Western Mail' ddoe.
  • Ar ôl cyfnod llwyddiannus mewn llywodraeth mae'r Blaid mewn perygl gwirioneddol o ddioddef un o'r canlyniadau etholiad mwyaf siomedig yn ei hanes - Richard Wyn Jones , yn sgrifennu cyn canlyniad yr etholiad, yn .
  • Ffactor neu Ecs Ffactor - y geiriau dan lun cartŵn 'Marc' o Ieuan Wyn Jones yn .
  • Esgidiau fflat - Ateb Elliw Gwawr, gohebydd seneddol Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru, i gwestiwn y 'Western Mail', pa un peth allai hi ddim fod wedi gwenud hebddo yn ystod yr ymgyrch etholiadadol. Oherwydd bod angen teithio a rhedeg o gwmpas gymaint.
  • Ymosodiadau gan gŵn yn gorfodi swyddfa bleidleisio i gau - Pennawd yn y 'Western Mail' heddiw.
  • Rhaid crôlo cyn wâco - pennawd colofn farddol Twm Morys yn 'Y Cymro' heddiw.

  • Does yna ddim yn rhoi mwy o foddhad na bwyta bwyd sydd wedi ei gynhyrchu filltir o ble'r ydych chi - Gilli Davies, awdur llyfr newydd, 'Flavours of Wales' i'w gyhoeddi Mehefin 15 gan Graffeg.
  • Wedi oes fel newyddiadurwr a beirniad llenyddol darganfod fod gen i lais mwy personol, yn enwedig wrth ysgrifennu yn Gymraeg - Ned Thomas yn egluro beth a'i hysgododd i sgrifennu ei hunangofiant, 'Bydoedd' sydd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn.


  • Bydd y chwaraewyr yn iawn efo Gavin. Fe wna nhw bopeth allan nhw i'w helpu o gael yr hyn mae o'i angen a'i haeddu allan o hyn - Johnny Wilkinson am Gavin Henson yn dilyn helyntion yn Toulon.
  • Mae nhw wedi bod yn dipyn o destun siarad yma - Mike Hurford o Ysbyty Maelor, Wrecsam, lle mae teulu o hwyaid wedi eu hachub rhag marw o syched gan aelodau o'r staff sydd wedi enwi'r adar ar ôl chwaraewyr pêl-droed Lerpwl.
  • Mo'yn gweld yn well oedd hi ond aeth hi'n sownd rhwng y to a'r wal.....dywedodd rhywun wrtha'i, Eifion dere'n gloi mae yna lun i ti i Clonc... es i rownd a dyna lle roedd pâr o goesau pert ar ben ysgol - sy'n ceisio darganfod pwy oedd dynes yn gwisgo hotpants pinc aeth yn sownd yn wal Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan yn 1984.
  • Mae tynged un o gymunedau Cymraeg gwledig cryfaf Gwynedd yn eich dwylo - Ffred Ffransis wrth gynghorwyr Gwynedd gan ddweud y bydd yn mynd heb fwyd na diod fel rhan o ymgyrch dros Ysgol y Parc, Y Bala.
  • Tybed nad yw hi'n bryd i ni erbyn hyn - a ninnau'n gweld fod yna ddim gobaith i eciwmeniaeth a chydweithio efo'r enwadau eraill - droi'n 6ol at yr Eglwys a gofyn am gael dod yn ôl yn rhan ohoni, ond ein bod yn cadw ein traddodiadau ni'n hunain - Y Parchedig Elfed ap Nefydd, colofnydd colofn Ysgol Sul 'Y Cymro' yng nghynhadledd Undeb Athrofa'r Bala.
  • Bellach, aeth 'newyddiaduraeth' yn gyfystyr â rhaffu brawddegau at ei gilydd mewn blogiau a chyfraniadau codog ar Facebook a Twitter. Mae'r cyfan yn fyfiol a hunandybus, yn bwydo ar sïon, yn hesb o ffeithiau a chyfrifoldeb, yn beryglus o ar-y-funud ac enllibiol. Nid sylwebaeth ydi newyddiaduraeth go iawn - Karen Owen, gohebydd Y Cymro a chyn olygydd 'Golwg' yn 'Barn'.
  • Rhaid imi gyfaddef fy mod i'n teimlo dipyn bach yn sigledig achos allan o'r 40 o ddynion oedd gan Owain Glyndwr crogwyd a chwarterwyd wyth ohonyn nhw. Sut y gallem ni fod wedi ailgreu hynny ar sgwâr y dref heb ypsetio llawer o bobl? - Sara Allardice o Siambr Fasnach Conwy yn dilyn penderfyniad CADW i beidio a chaniatau ailgreu meddiannu'r castell gan luoedd Lloegr.
  • O leiaf chwaraeodd DJ'r Cae Ras 'Don't go breaking my heart' a'i dilyn yn sydyn gydag 'I Will Survive" yn ystod yr egwyl - Andy Gilpin yn y 'Daily Post' yn dilyn y gêm a gollodd Wrecsam 0-3 yn erbyn Luton ar y Cae Ras neithiwr.
  • Y chwaraewr nodedig yr ydw i wedi'i weld yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ydi Toby Faletau - Warren Gatland.

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.