Brecwast, piano a chân
Newydd fod am frecwast yng Nghaffi Mr Urdd.
Ac un cerddorol iawn oedd o hefyd - a dydw i ddim yn sôn am y bîns chwaith.
![Ymarfer yng Nghaffi Mr Urdd](/staticarchive/ac0b83b49245b25e00b91f1dae993fa9958365d9.jpg)
Cafwyd tri neu bedwar dehongliad o Y Cynganeddwr gan Robat Arwyn a'r geiriau gan Robin Llwyd ab Owain.
Wrth i un côr ddilyn un arall o gwmpas y piano - wnâi mo'u henwi - clywais aelod ail gôr yn dweud wrth aelod arall am y côr blaenorol, "Maen nhw'n lot gwell na ni."
Oedd o'n iawn tybed?
Cystadleuaeth imi gadw golwg arni y pnawn ma.
Ond pwy bynnag fydd orau yng ngolwg y beirniaid, mi wnaetho nhw i gyd blesio'r brecwastwr hwn a gwneud pryd cyntaf y dydd yn un gwerth chweil . . .
Ac mi rtydw i wedi dysgu geiriau cerdd newydd o'i chlywed gymaint o weithiau.