Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cochdar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:10, Dydd Gwener, 14 Hydref 2011

Gydag un papur newydd am wneud heddiw "yn fôr o goch", un arall yn cyhoeddi "ein bod ni i gyd yn Gymry yn awr" ac un arall am inni wisgo mwgwd Sam Warburton does yna ddim prinder dyfyniadau yr wythnos hon.

Ein detholiad arferol o sylwadau a wnaed yn ystod yr wythnos.

  • Y person diwethaf i ganmol y ffordd rydw i'n edrych oedd fy modryb a'm galwodd yn "brydweddol" y Dolig diwethaf - Rhys Priestland yn mynegi syndod iddo fod ar frig rhestr y 'Western Mail' o'r hanner cant o ddynion mwyaf secsi yng Nghymru. Dywedodd iddo feddwl mai Jamie Roberts oedd yn tynnu ei goes pan glywed gyntaf am y peth. Yr oedd Jame yn ddegfed ar y rhestr gyda llaw.
  • Ymhlith eu harfau a'u hiwmor ma'r tric o adael burgers a kebabs ar do cerbydau a thynnu weipars ceir allan i edrych fel peiriannau o'u planed brodorol - Levi Gruffudd yn y 'Western Mail' yn rhannu ei brofiadau am ymweliad brodorion o blaned arall ag Aberystwyth - myfyrwyr. Cymaint a 13,735 ohonynt meddai mewn tref o 11,865 o bobl.
  • Rhaid inni eu cadw yn agored - y Cynghorydd Jeff Evans, Maer Caergybi, sy'n arwain ymgyrch i gadw tai bach yn agored ar Ynys Môn trwy addo gwirfoddoli gyda'r glanhau.
  • Yr ydw i, felly, yn galw ar gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er lles y sefydliad a Chymru - Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg, yn galw am ymddiswyddiad D Hugh Thomas.
  • Cynta'n byd y bydd addysg uwch yng Nghymru yn cael sgwd iawn gorau'n byd - Rob Davies, colofnydd yn y 'Daily Post' ddydd Mawrth.
  • Pan fyddaf i'n meddwl am Gymru fy ngwlad yr ydw i yn meddwl am ei harfordir hardd, ei mynyddoedd gwych a'r mannau lledrithiol dilychwin sy'n gwneud ein gwlad yn un arbennig - Ioan Gruffudd wrth gefnogi ymgyrch gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu fferm "eiconig" Llyndy Isaf ger Beddgelert yn Eryri.

  • 131,000 - Nifer y di-waith yng Nghymru, cynnydd o 16,000 yn ôl ffigurau gyhoeddwyd ddydd Iau.
  • Mae'r cynllun yn gwella canolbwyntio yn ystod gwersi ac yn gymorth i ddatblygiad ac i welliant mewn sgiliau cymdeithasol. Y mae hefyd yn help mawr i rieni sydd dan bwysau oherwydd gwaith - Owen Hathway, Swyddog Polisi gyda'r Cynulliad yn canu clodydd cynllun brecwast ysgol y Llywodraeth.
  • Dwi ddim yn meindio cael fy nghymharu â Simon Cowell gan iddo fe gael cryn lwyddiant meithrin talent gerddorol - Aled Rees, beirniad newydd Fferm Ffactor S4C ac enillydd 2009 yn y Daily Post ddydd Iau.
  • Yr ydw i wedi cymryd drosodd fel cydlynydd yr holl gynllun - Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn ei gwneud yn glir pwy sy'n gofalu am gynllun 'Pontio' y ddinas yn dilyn cychwyn cecrus.
  • Bydd y labordy yn cynhyrchu mellt o dan reolaeth - Philip Leichauer, Rheolwr Labordy Mellt newydd Caerdydd.
  • Mae'n fy nhristau nad yw papurau a chylchgronau yn y Gymraeg yn cynnwys erthyglau gwyddonol yn rheolaidd - Neville Evans, enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
  • Mi fydd y ffordd osgoi yno am flynyddoedd lawer i ddod tra bydd yr iaith yn mynd i lawr y gwter. Fe ddylem wneud safiad yma - Y Cynghorydd Richard Williams yn cwyno nad oedd y gwahoddiad a gafodd Cyngor Tref Porthmadog i agoriad swyddogol ffordd osgoi newydd yn ddwyieithog. Penderfynwyd peidio ag anfon cynrychiolydd. Rhoddodd adran drafnidiaeth y Cynulliad y bai ar "gamgymeriad gan swyddog" meddai .
  • Mam a merch annwyl a allai ganu ychydig - Katherine Jenkins yn dewis ei beddargraff ei hun gan addo y bydd hi yn rhoi ei hamser i gyd i fod yn fam rywdro ar ôl priodi y flwyddyn nesaf. "Mae teulu mor bwysig i mi. Mae'n llawer pwysicach na'm gyrfa," meddai yn y 'Wester Mail' heddiw.
  • Creu deddfau gan gorff sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd yw patrwm gweithgarwch gwleidyddol, ac mae rhesymoldeb y penderfyniadau sy'n deillio o hynny yn anorfod yn fater o farn wleidyddol. Yn fy marn i, ni fyddai'n briodol yn gyfansoddiadol i lysoedd adolygu penderfyniadau tebyg ar sail afresymoldeb. Byddai adolygiad o'r fath ddim yn cydnabod bod gan lysoedd a chyrff deddfu rôl benodol o fewn ein cyfansoddiad, ac y dylai'r ddau fod yn ofalus i barchu cylch gweithredu ei gilydd - Yr Arglwydd Reed wrth i'r Goruchaf Lys gyhoeddi bod cyfreithiau Cymru gyfwerth a rhai'r Deyrnas Gufunol.
  • Allai ddim deall pam na roddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y swydd i Gary Speed yn gynharach yn ystod yr ymgyrch yn hytrach na disgwyl nes ein bod wedi'n lladd a'n claddu - John Hartson yn y 'Daily Post' yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Bwlgaria.
  • Y gêm

  • Rydym ni i gyd yn Gymry nawr - Pennawd Cymraeg yn yr Independent yn dilyn buddugoliaeth Cymru y Sadwrn diwethaf.
  • Dylai fod yn gêm wych - Marc Lievremont, hyfforddwr tîm rygbi Ffrainc, yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Cymru yfory.
  • Gadewch inni droi dydd Gwener yn fôr o goch - Golygyddol y 'Daily Post' yn cefnogi'r alwad i bawb wisgo coch yn y gwaith heddiw. (Dim ond gobeithio na fyddwn yn ein du, fore Llun.)
  • Mae lot o'n ffrindiau wedi cael sypreis fod Cymru wedi mynd mor bell, a dwi'n cael cyfle i ganu - Sharon Cotter, Cymraes a adawodd Gymru am Seland Newydd 15 mlynedd yn ôl fydd yn canu Hen wlad fy Nhadau ddydd Sadwrn. "Dwi heb gael lot o gwsg a heb fwyta lot ers Sadwrn diwethaf," meddai.
  • Byddai'n nodedig; dim byd llai na diwygiad crefyddol arall - Max Boyce yn rhoi buddugoliaeth bosibl yfory yn ei chyd-destun.
  • Y gêm ddydd Sadwrn fydd un o'r achlysuron mwyaf ers blynyddoedd i rygbi Cymru ond y peth olaf ydych chi eisiau yw ei gofio am y rhesymau anghywir - Phil Lord o'r Swyddfa Dramor yn rhybuddio pobl i yrru'n ofalus yn Seland Newydd gan fod dwywaith mwy o bobl ym mhob can mil yn cael eu lladd yno nag ym Mhrydain.
  • Torrwch ein mwgwd Sam a'i wisgo - Y Western Mail heddiw yn cynnig mwgwd Sam Warburton i'w dorri allan o'r papur a'i wisgo am eich wyneb.
  • Dros ben llestri - mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle wedi dweud hynny am yr holl halibalw!

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.