麻豆官网首页入口

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dilyn y Dyfyniadau

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 11:53, Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012

Ydetholiad wythnosol diweddaraf o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos. A chroeso, fel arfer i ychwanegu at y sylwadau. Dyma nhw

  • Fe hoffwn i ddiolch i bawb sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Urdd am eu holl waith caled ac yr wyf yn dymuno鈥檔 gynnesy gorau i鈥檙 Urdd yn y dyfodol ar achlysur y garreg filltir bwysig hon 鈥 David Cameron AS, y Prif Weinidog, yn cyfarch yr Urdd ar ei phen-blwydd yn 90 oed.

  • Efallai y dylen ni fod yn edrych ar sefydlu mudiad o fewn yr Urdd neu i gydredeg a'r Urdd ar gyfer rhieni 鈥 Prys Edwards Llywydd Anrhydeddus yr Urdd.
  • Yr oedd y bwyd ym Mhencampwriaethau鈥檙 Byd yn Ne Korea yn ddychrynllyd. Yr oedd fel cinio ysgol ond yn waeth; prin yn gynnes, darnau s芒l o gig a鈥檙 bolognese yn ddim ond tomatos slwts . . . Ar 么l imi ennill y peth cyntaf wnes i oedd ordro pizza 鈥 nawr dyna beth yw bwyd pencampwyr 鈥 Dai Greeneyn yr 鈥極bserver Food Monthly鈥 ddydd Sul.

  • Un o鈥檙 syniadau gorau i ddod o鈥檙 byd celf dros yr wythnosau diwethaf yw hwnnw ynghylch gwobrwyo anifeiliaid am eu rhannau mewn ffilmiau 鈥 Cris Dafis yn 鈥楪olwg鈥.

  • Byddai鈥檔 braf cael clywed yn gymharol fuan beth ydy鈥檙 weledigaeth 鈥 Elain Price o Brifysgol Abertawe yn 鈥楪olwg鈥 ar derfyn wythnos gyntaf Prif Weithredwr newydd S4C, Ian Jones.

  • Cydweithio, Cyfathrebu, Uchelgais, Hyder a Beiddgarwch- Ian Jones, Prif Weithredwr newydd S4C, yn rhannu 鈥済eiriau'r misoedd a'r blynyddoedd nesa鈥 ar .听听

  • Os yw鈥檙 A470 angen enw; gan fod Llwybr Glyndwr yn bodoli鈥檔 barod fel llwybr cenedlaethol ar draws Cymru o鈥檙 dwyrain i鈥檙 gorllewin a allai awgrymu Llwybr Llywelyn ar 么l un o wir dywysogion Cymru? 鈥 Nona Evans mewn llythyr yn y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Llun.

  • Yfory dwi鈥檔 gwarchod babi bach fy chwaer, mae hi鈥檔 fam sy鈥檔 gorfod gweithio 鈥 dwi am fynd a fo i鈥檙 Amgueddfa Genedlaethol i ail-ymweld a chasgliad y chwiorydd Davies. Ac wrth bowlio鈥檙 goets heibio鈥檙 campweithiau celf fe fyddai鈥檔 meddwl am y merched, yn famau a modrybedd, yn neiniau a chwiorydd sy鈥檔 parhau i gynnal ein mamwlad 鈥 Lusa Glyn, beirniad teledu yn 鈥榊 Goleuad鈥, wedi ei hysbrydoli gan gyfres Ffion Hague, 鈥楳amwlad鈥, ar S4C 鈥 yn enwedig y bennod am y Chwiorydd Davies, Llandinam.

  • Yn ffodus mae gan fy nghariad job wirioneddol dda felly mi wna i edrych ar 么l y plant yn ystod y dydd pan mae hi yn ei gwaith ac wedyn mynd allan gyda鈥檙 nos i geisio gwneud dipyn o bres o fy miwsig 鈥 Alun Evans, gitarydd 鈥榊 Niwl鈥 yn y 鈥榃estern Mail鈥 ddydd Llun.

  • Nifer o bethau dibwynt megis cadw p锚l yn yr awyr (keepy-uppy), taflu pethau i鈥檙 bin o bellter a thorri gwynt gyda fy nwylo 鈥 Rhodri 鈥楻apsgaliwn鈥 Meilir yn rhannu 芒 鈥楪olwg鈥 bethau y mae鈥檔 鈥渄ipyn o arbenigwr ar eu gwneud鈥.

  • Os na dderbyniwch yr e-bost hwn dywedwch wrthym acfe鈥檌 hanfonwn eto 鈥 Y neges ar waelod e-bost a dderbyniodd Rhian Williams, un o golofnwyr y 鈥榃ales on Sunday鈥.

  • Ar y cychwyn yr oedd pobl yn meddwl iddyn nhw gael eu dwyn 鈥 Y Cynghorydd Aaron Shotton o Gei Connah yn y 鈥榃ales on Sunday鈥 yn trafod helynt yn Sir Y Fflint lle鈥檙 oeddloris sbwriel yn llyncu鈥檙 biniau yn hytrach na鈥檜 gwagio!

  • Yr ydw i wedi medru tynnu llun da erioed ond nid o safon David Bailey 鈥 Aneurin Barnard a chwaraeairan David Bailey yn y ffilm 鈥榃e鈥檒l Take Manhattan鈥 ar 麻豆官网首页入口 4 nos Iau.听听听

  • Llond trol o syniadau . . . Artistiaid di-ri gobeithio. Llwyfan i Gymru cyn yr Olympics 鈥 Bryn Terfyl yn trydar am Wyl y Faenol yn y Southbank, Llundain.

  • Siomedig 鈥 Ymateb Dafydd Iwan i symud Gwyl y Faenoli Lundain.

  • Rhaid inni gofio mai methu wnaethom ni yng Nghwpan y Byd; fe wnaethom, ni golli yn y rownd gynderfynol a rhaid inni ail gynnau y brwdfrydedd hwnnw oedd gennym ni cyn Cwpan y Byd 鈥 Rob Howley wedi i Gatland enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwald.

  • Maen nhw鈥檔 dweud bod dringo鈥檔 Rhif 1 y byd yn haws na chadw鈥檙 safle 鈥 ac oni wnaeth t卯m criced Lloegr gyfiawnder a鈥檙 ddamcaniaeth honno yn Dubai yr wythnos diwethaf 鈥 Delme Parfitt colofnydd chwaraeon yn y 鈥榃ales on Sunday鈥.

  • Dwi鈥檔 credu bod yna Gwpan y Byd arall ynof i 鈥 Adam Jones, prop Cymru, wrth ohebydd y 鈥榃ales on Sunday鈥.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.