麻豆官网首页入口

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Geiriau dethol - dyfyniadau

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 15:05, Dydd Gwener, 13 Ionawr 2012

Detholiad arall o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos.

A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw . . .

  • Pe byddai castell Y Fflint yn rhywle fel Swydd Hertford byddai heidiau o ymwelwyr yno a鈥檙 dref yn llawn o siopau anrhegion ac atyniadau twristaidd 鈥 Dave Heggarty, pennaeth adfywio Sir y Fflint sy鈥檔 gobeithio ennyn diddordeb newydd yng ngastell cudd tref Y Fflint. 鈥淎r hyn o bryd, allwch chi ddim hyd yn oed weld y castell pan ydych yn teithio trwy鈥檙 dref,鈥 meddai.

  • Mae gogledd Cymru yn colli ei llais yn San Steffan 鈥 Albert Owen AC Ynys M么n yn ymatebi adrefnu ffiniau etholaethau seneddol yng Nghymru.

  • 1,385 鈥 nifer y bobl a ymgeisiodd am 16 o swyddi yn siop newydd DFS sydd ar fin agor yn Llandudno. Dim rhyfedd i lefarydd o鈥檙 cwmni fedru dweud iddynt lwyddo i gael 鈥渁 great bunch of people鈥.

  • Yr oeddwn yn rhyfeddu, wedi鈥檙 holl flynyddoedd bod yna o hyd rannau o Ffordd A lle na allwch basio beic heb s么nfws neu lori Mansel Davis 鈥 P Dawson o Gricieth yn cael yr A470 yn eisiau mewn llythyr yn y 鈥楧aiy Post鈥 heddiw.

  • Ych, dwi鈥檓 isio bod yn hanner cant na phumdeg na 50 鈥 Bethan Gwanas yn teimlo鈥檌 hoed yn atodiad 鈥榊r Herald Cymraeg鈥 yn y 鈥楧aily Post鈥.

  • Mae gan Richard Burton lu o ddilynwyr ar draws y byd 鈥 Y Cynghorydd Ali Thomas o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn tynnu sylw at wefan newydd .
    听听听听听听听听
  • Doedd yr un o'n chwaraewyr ni yn agos at y golwr. Rwyf wedi edrych ar y digwyddiad sawl gwaith - Malky Mackay, rheolwr t卯m p锚l-droed Caerdydd yn credu i鈥檙 dyfarnwr Mike Dean wneud cam 芒鈥檌 d卯m.

  • Petai'r alwad ff么n yn dod, yna'n amlwg byddwn i'n hapus i'w derbyn - Chris Coleman yn mynegi ei ddiddordebyn olynu Gary Speed gan ddweud, 鈥淥s ydych chi'n cael cais i hyfforddi neu reoli'ch gwlad, yna mae'n anrhydedd.鈥

  • Gwlith 鈥 Ceri Wyn Jones, Meuryn newydd y Talwrn yn dewis ei hoff air yn 鈥楪olwg鈥.

  • I fi, Dafydd Iwan ydi dechrau canu pop Cymraeg 鈥 Dyl Mei yn 鈥楪olwg鈥.

  • Dywedodd nad oedd eu heisiau [ei anrhegion Nadolig] am i Santa roi鈥檙t欧 ar d芒n 鈥 Victoria, Mam Thomas Smith pedair oed, y llosgwyd eu t欧 drannoeth y Nadolig. Dywedodd wrth y 鈥楧aily Post鈥 ei fod yn meddwl mai Santa achosodd y t芒n.

  • Wedi鈥檙 cyfan mae yna fwy o bandas mawr yn yr Alban nag o aelodau seneddol Tor茂aidd 鈥 Alun Pugh yn y 鈥楧aily Post鈥 yn ymuno a鈥檙 nifer gynyddol o bobl sydd wedi sylwi ar hyn.

  • Diflas a niweidiol - Disgrifiad Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, o'r cwricwlwm technoleg gwybodaeth presennol a fydd yn cael ei newid yn Lloegr; ond nid yng Nghymru ar hyn o bryd.

  • Rhoddais fy llaw i mewn a theimlo organ ac fe鈥檌 tynnais 鈥 Y Dr Adam Carter yn rhoi tystiolaeth mewn cwest yng Nghasnewydd i farwolaeth dynes a fu farw wedi iddo geisio tynnu ei iau yn hytrach na鈥檌 haren yn ystod llawdriniaeth. Disgrifiodd teulu鈥檙 wraig y digwyddiad fel 鈥渃amgymeriad gonest鈥.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.