Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mad Dog a'r Groeswen

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Mae'n ddydd Sadwrn ac mae'n dawel - diolch byth. Mae'n gyfle i mi wneud y gwaith cartref ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Yn anffodus dwi newydd gofio fy mod wedi torri fy ngair i Mad Dog.
Roeddwn yn ffilmio yn Abertridwr ddydd Iau ac yn gwneud hynny ar yr adeg fwyaf hunllefus i newyddiadurwyr teledu - y cyfnod pan mae'r ysgolion newydd droi mas. Yn ddieithriad ar yr adegau hyn mae pob un ymdrech i ffilmio yn dioddef wrth i'r "anwyliaid bach" chwifio at y camera neu waith. Penderfynodd Mad Dog ei fod am fod yn "feinder" i mi yn Abertridwr gan gadw ei fêts mas o'r ffordd a mynnu "this is the news butts..and we don't get much news in Abertridwr" Addawais y byddai ei lysenw yn ymddangos ar wefan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú fel arwydd o ddiolch. Felly diolch Mad Dog. Dwi'n dal i boeni am ei eiriau olaf "I've just swallowed a raw pig's eye for a bet". Lle ddiawl maen nhw'n cael llygaid moch yng Nghaerffili?
Mae Cwm Aber a Mynydd Meio wedi bod yn llefydd rhyfedd erioed. Yn fanna mae gwreiddiau fy nheulu ac i bobol sy'n ymddiddori mewn hanes mae 'na newyddion da iawn o'r ardal. Un o berlau ein treftadaeth a aeth yn angof yw , yr adeilad cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yng Nghymru. Yn y fynwent y mae beddau mawrion Fictoraidd fel Ieuan Gwynedd a Caledfryn.
Roedd fy hen dad-cu yn weinidog am ddegawdau lawer yn y Groes ac yno y priodwyd fy chwaer, Sian. Y disgwyl oedd mai priodas Sian fyddai’r briodas olaf yn y Capel, ac mai angladd fy Anti Marjorie, un o selogion y capel, fyddai'r cynhebrwng olaf.
Diolch i ymdrechion anhygoel gan Gymdeithas Hanes Caerffili, y Cynghorydd Lindsay Whittle a phenderfyniadau Alun Pugh fel gweinidog diwylliant nid felly y bu pethau. Mae adeiladwyr wrthi ar hyn o bryd yn cyflawni gwaith i adfer y capel ar gost o gannoedd o filoedd o bunnau ac mae 'na ddyfodol disglair i'r lle fel canolfan i fywyd ysbrydol a diwylliannol yr ardal. Serch hynny, dwi ddim yn gweld nhw'n denu Mad Dog i'r lle rywsut!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:55 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bettsy:

    Da clywed am ymdrechion llwyddianus Cymdeithas Hanes Caerffili gyda Capel Groeswen. Mynwent a adnabyddir fel 'Wales's Westminster Abbey'!

    Beth am weinidog gyntaf y capel, sef y Gweinidog William Edwards, adeiladwr y pont enwog na ym Mhontypridd? Plaque gan Sir Goscombe John i William Edwards to ol i'r pwlpud.

  • 2. Am 18:21 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cwbwl gywir Bettsy. Byswn wedi gallu mynd mlaen a mlaen. Er bod y ty gwreiddiol wedi ei ddymchwel, mae fy ngefnder Richard yn ffarmio tiroedd Ty Canol, cartref William Edwards.
    Roeddwn i lan yn y Groes ddydd Iau ac mae safon y gwaith adeiladu yn anhygoel gan ddefnyddio deunydd a dulliau traddodiadol. Fe fydd y rhaglen waith bressenol yn adfer y Capel ei hun yn gyfangwbwl ac yn creu Amgueddfa Fechan yn y Festri. Fe fydd angen rhiw gan mil yn ychwanegol i adfer y fynwent ond mae pawb yn ffyddiog y bydd yr arian ar gael.

  • 3. Am 18:52 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bettsy:

    Ironic gweld dau apel yng Nghaerffili yn mynd llaw yn llaw...un ar gyfer cerflun i Tommy Cooper ac y llall ar gyfer Capel Groeswen.

    Fe fydd fy arian i yn mynd tuag at Groeswen!

    Da clywed nad yw Abertridwr wedi newid...

  • 4. Am 21:03 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Neis clywed dy fod wedi bod yng Nghapel Groeswen, rwyf yn edrych ar oleuadau tu allan i'r capel nawr. Cytuno'n llwyr gyda Bettsy bydd fy arain i'n fwy debygol i fynd at Gapel Groeswen na tuag at Tommy Cooper.

    Wyt ti'n debygol o ddod i Gaerffili yn oriau man bore Dydd Gwener. Teimlaf fod y Cynghorydd Lindsay Whittle yn rhedeg y Blaid Lafur yn agos yn enwedig os all Ron Davies sicrhau 2,000 i 3,000 o bleidleisiau.

  • 5. Am 21:17 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Fe fyddai yn stiwdio Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú/S4C ar y noson ac hefyd yn blogio'n fyw. Dwy'n disgwyl i ganlyniad Caerffili fod yn un hynod ddiddorol a dwy'n tueddu cytuno a dy ddadansoddiad Dewi.

  • 6. Am 01:59 ar 29 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bettsy:

    Meddwl bydd Ron yn cael llawer mwy na 2-3,000 o bleidleisiau. Sicrhoadd 2169 o bleidleisiau yng Nghaerffili yn yr etholiad ewropiaidd. Yn yr etholiad cynulliad olaf, mi roedd 2 annibynwr yn sefyll yng Nghaerffili ac wedi llwyddo cael dros 2,000 o bleidleisiau.

    Dwi'n meddwl gall Ron sicrhau 5,000 heb drafferth.

    3 horse race rhwng Ron, Plaid a Llafur, a gall hyd yn oed 8,000 bod yn digon i ennill y sedd hon. Fe fydd yn canlyniad agos. Pobeth yn dibynnu faint o gwymp bydd y pleidlais Llafur. Os ydy i lawr i tua 9,000, yna mae i gafael PC a hyd yn oed Ron. Er hynny, mae Llafur yn dda o gael y 'troops' mas pan ydynt mewn trafferth yng Nghaerffili ac ennill yn hawdd!

  • 7. Am 08:38 ar 29 Ebrill 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Bettsy. Ydy Llafur yn sylweddoli eu bod nhw mewn trafferth yng Nghaerffili. Fe all y Blaid sicrhau 8,000 i 9,000 ac efallai ti'n iawn bydd Ron yn debygol o gael mwy na 3,000. Un peth sy'n sicr mae Caerffili'n sedd agosach na mae llawer yn credu ac yn llawer agosach na seddi eraill yn y cymoedd ble mae brwdr rhwng Plaid a Llafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.