Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Diar! (2)

Vaughan Roderick | 07:29, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod arweinwyr y Ceidwadwyr wedi bod yn pryderu am eu hymgeisydd yng Ngorllewin Clwyd, Darren Miller. Dylan Jones-Evans oedd dewis yr arweinyddiaeth i'r sedd a hynny yn rhannol oherwydd daliadau crefyddol a moesol Mr Miller, daliadau gwahanol iawn i'r ddelwedd ryddfrydol y mae David Cameron a Nick Bourne yn ceisio ei chyfleu.

Mae'n ymddangos bod yr hyn yr oedd yr arweinyddiaeth yn ei ofni wedi digwydd. Mewn cyfarfod yn Rhuthun dwi'n deall bod Mr Millar wedi galw am ddysgu Genesis yn gyfochrog â Darwin mewn gwersi gwyddoniaeth cyn mynd ymlaen i fynnu bod gweithredoedd hoyw yn "bechadurus".

I fod yn deg, ychwanegodd Darren fod hel clecs hefyd yn bechod sy'n golygu fy mod i yn rhiw fath o bechadur penna! Dywedodd hefyd nad oedd yn cefnogi discrimineiddio ar unrhyw sail.

Wrth gwrs, mae'n bosib bod safbwyntiau fel 'na yn boblogaidd ymhlith rhai o drigolion y glannau!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:01 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys:

    Mae'n bosib bod safbwyntiau fel hyn wirioneddol yn apelio at y 'core voter' ceidwadol, ac efallai'n dangos nad yw'r blaid cweit yr un fath a sut hoffai rhai ei bortreadu ar ei newydd wedd.

  • 2. Am 10:29 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ie, ond rydym ni gyd yn bechadurus..

  • 3. Am 10:34 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Beth fydd Iain Dale yn dweud !?

    Mae ar ei ffordd i Gaerdydd heddi'..

  • 4. Am 10:53 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Monwysyn:

    'gweithredoedd hoyw yn "bechadurus"' ... ond 'nad [yw'n] cefnogi discrimineiddio ar unrhyw sail'

    ... hmmmmmmmm, a'i fi ydi'r unig un sy'n gweld twll enfawr yn ei ddaldl?

  • 5. Am 15:21 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n siwr fod Alun Pugh yn falch iawn o glywed am y 'gaffe' yma, a Nick Bourne yn gresynu yn fawr na fuasai y Cyng Darren Millar yn ymuno a phlaid anofeddgar fel UKIP neu'r BNP lle hwyrach y buasai yn fwy cartrefol.

  • 6. Am 17:55 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Ceri Evans:

    Dere mlan Vaughan. Pam nid oes gan un newyddiadurwr y dewrder i ofyn Nick Bourne beth mae'n meddwl am y stori. Mae e wedi bodi yn anweladwy heddi. Beth bynnag mae Millar yn dweud heddi, mae pawb yn gwybod fod e'n bigot.

    A mae'n sefyll yn y sedd mwyaf hawdd i'r Toriaid. Rhaid i ni clywed beth mae arweinydd y Toriaid yng Nghymru yn meddwl.

  • 7. Am 00:26 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dere mlan Ceri,mae Nick Bourne yn cadw ei fywyd preifat yn breifat a dwy'n parchu hynny.

  • 8. Am 08:16 ar 28 Ebrill 2007, ysgrifennodd aneurin:

    Nid son am fywyd preifat Nick Bourne ydan ni ond ei safbwynt fel arweinydd plaid sydd a boi gwrth-hoyw (ac felly'n gwrthod elfen ganolog o re-branding "rhyddfrydol" Cameron). Neu dan ni'n gweld y gwirionedd - crafwch Dori a gewch chi bigot.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.