Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion

Vaughan Roderick | 18:56, Dydd Sul, 29 Ebrill 2007

Un o fanteision blogio yw bod dyn yn cael rhannu sibrydion. Dwi ddim yn honni am eiliad bod rhain i gyd yn wir neu yn gywir ond dyma rai o'r sibrydion sydd wedi cyraedd ein clustiau heddiw.

Dwi'n clywed o sawl cyfeiriad bod Llafur wedi penderfynu canolbwyntio ei hymdrechion yn y Gorllewin ar sedd Preseli Penfro ar draul Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Gallai hynny olygu bod bois a merched Llafur yn hyderus ynglyn â chadw sedd y De neu eu bod yn derbyn eu bod am ei cholli. Tybiaf mae'r ail esboniad yw'r agosa' at y gwir...os ydy'r sibrydion yn gywir wrth gwrs!

Mae na sawl un yn y pleidiau eraill yn honni bod Plaid Cymru wedi gor-chwarae ei llaw ynglyn ac ysbytai'r Gogledd gyda phobol leol yn eu cyhuddo o "hi-jacio" eu hymgyrchoedd.

"Hat tip" i am sylwi ar yr erthygl yn y New Statesman ynglyn â John Marek. Dwi'n clywed bod Llafur llawer yn llai hyderus ynglyn â Wrecsam nac oedden nhw ar ddechrau'r ymgyrch.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:10 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aled:

    Hoffwn i clywed beth sydd gan y bwci i ddweud am Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro!
    Tybed beth yw'r ods?

  • 2. Am 14:23 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Fe gei di wybod. Dwy wedi gofyn i Karl eu llunio!

  • 3. Am 14:54 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aled:

    Diolch i ti Vaughan

  • 4. Am 17:11 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Ac hefyd Llanelli?

  • 5. Am 20:18 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Digon yw digon Hedd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.