Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Duncan Borrowman J'ACCUSE!

Vaughan Roderick | 07:52, Dydd Sul, 6 Mai 2007

Prin fod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gallu cuddio eu siom y penwythnos hwn ar ôl dychwelyd chwe aelod i'r cynulliad am y trydydd tro yn olynol. Aeth yr holl waeth yna'n ofer. Rhannwyd dwy filiwn a hanner o daflenni heb, mae'n ymddangos, fawr o effaith.

Ond dyma i chi ffaith ddiddorol fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol llawer yn well ar y bleidlais gyntaf na'r ail. Derbyniodd y blaid 14.8% o'r pleidleisiau etholaethol o gymharu â 11.7% o'r pleidleisiau rhanbarthol. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy ffigwr yn sylweddol fwy nac i un o'r pleidiau eraill. Wrth edrych ar etholaethau unigol mae'r gwahaniaeth yn ysgytwol. Y Torïaid, er enghraifft enillodd y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed.

Wrth gwrs, ac eithrio mewn llond dwrn o etholaethau, y bleidlais ranbarthol oedd yn bwysig i'r blaid. Beth felly aeth o le? Wel y gwir plaen, anhygoel, anghredadwy yw bod y blaid wedi targedu'r bleidlais anghywir.

Dwy'n siŵr eich bod chi'n cofio'r holl ffwdan am y siartiau a dyfyniadau ar daflenni'r Blaid yn mynnu fod "hwn yn ras dau geffyl" neu " dim ond ni all guro plaid X yn fan hyn". Beth oedd y rheiny yn gwneud mewn gwirionedd?. Wel gwahodd pobol i fwrw pleidlais dactegol mewn ras amherthnasol gan ei gadael i wneud beth a fynnont 'da'i hail bleidlais- y bleidlais oedd yn cyfri.

Pwy oedd yn gyfrifol am y blwmer strategol yma? Mae'n bryd i ni gwrdd â Duncan Borrowman.

Pwy yw Duncan Borrowman? Wel, Democrat Rhyddfrydol sydd am fod yn Faer Llundain. Ar ei ei hun mae'n dweud hyn;

"I have lived in London all my life - South East London and North West London - and have worked across the capital. I would represent the party across ALL of London"

A beth sydd a wnelo Duncan Borrowman a Chymru? Ar ei cawn ddysgu;

"Obviously I didn't want to post what exactly I had been doing for Wales recently, just that I was "busy" doing stuff for their elections. Well today the printers phoned to say the last of the 102 variants of Election Address literature I had been involved in for the Welsh Assembly elections were on their way to Royal Mail. They have been falling through doors for weeks now - addressed items, unaddressed items, enveloped items, full colour items, two colour items. You name it. Getting the designs (by me), text, checking localised text stays "on message", Welsh translations, proofing etc done has been a huge task for a total of 2.23 million items dropping through doors."

Ie, Duncan Borrowman oedd yn gyfrifol am yr holl daflenni yna, yr holl siartiau a dyfyniadau. Ai Duncan Borrowman
oedd yn gyfrifol am dargedi'r bleidlais anghywir? Ife Duncan Borrowman, y gŵr o'r blaid sy ymgyrchu dros gynrychiolaeth gyfrannol oedd y gŵr wnaeth fethu deall sut mae ymgyrchu mewn etholiad cynrychiolaeth gyfrannol? Duncan Borrowman J'accuse!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:33 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd ianjamesjohnson:

    Post ddiddorol iawn a digon eironig. Diffyg dealltwriaeth y cynllun etholiadol oedd camgymeriad y Doriaid a'r Rhyddfrydwyr ar nos Iau - a'r reswm cipiodd Plaid Cymru seddi.

  • 2. Am 12:54 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd Dogfael:

    Diolch byth eich bod yn dal i flogio. Mae hwn yn bostiad diddorol iawn. Fel rhywun sy'n byw yn etholaeth Ceredigion fe gefais fwy na fy siâr o gynnyrch Duncan Borrowman, er nad oeddwn yn gwybod hynny hyd nes ichi agor fy llygaid. Roedd rhai o'r taflenni yn gruptig iawn hefyd. Roedd derbyn mwy o lenyddiaeth am yr aelod seneddol na'r ymgeisydd yn siŵr o fod yn benbleth i rai. Does dim modd chwaith y buasai neb yn credu fod cynghorydd sir o Dalgarth ym Mhowys yn ymladdwr yn erbyn torcyfraith a thoriadau yn y gwasanaeth iechyd yng Ngheredigion, ond dyna oedd un o'r negeseuon ar y taflenni ar gyfer yr etholiad rhanbarthol. Dwi'n credu hefyd bod ffigurau'r bleidlais ranbarthol yng Ngheredigion yn adlewyrchu'ch dadansoddiad chi o'r hyn a ddigwyddodd. Ond mae'n rhaid taw un o'r rhesymau dros hyn oedd bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi targedu etholiad rhanbarthol yn drwm iawn yn etholiad 2003 a bod hynny heb dalu ffordd iddyn nhw chwaith. Felly beth roedden nhw i'w wneud?

  • 3. Am 20:40 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd Duncan Borrowman:

    The Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú had far higher standards of journalism than this when I worked there. For a start it used to check it's facts before publishing.

  • 4. Am 21:33 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd meurig:

    Pwy wnaeth y 'Welsh translations, proofing etc' ysgwn i. Roedd eu ymdrechion yn hyn o beth yn sigledig a dweud y lleia (er, ddim cynddrwg a'r Blaid Lafur).

  • 5. Am 22:44 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mae hyn yn hynod ddigri a dweud y gwir - ac mae 6 aelod yn wobr difrifol o sal am 2.23 miliwn pamffled.

    Mae'n bosibl dadlau mai'r lleiafswm posibl o seddi i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ydi 5 aelod - un ar gyfer pob rhanbarth. Yr unig beth mae German wedi ei roi iddynt am dair etholiad yn olynnol ydi un sedd mwy na'r lleiafswm posibl.

  • 6. Am 23:44 ar 6 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Duncan,enwa un peth sy'n ffeithiol anghywir?

    Duncan. Name one thing in this post that is incorrect before you dare to go into a "it was better in my day" huff

  • 7. Am 15:05 ar 7 Mai 2007, ysgrifennodd Duncan Borrowman:

    I am relying on the translation at

    "a Lib Dem who wants to be the Mayor of London"

    Wrong. I am a candidate in the party's internal selection for the London Assembly top-up list. Not the Mayor, and have no desire to be mayoral candidate.

    "Was then Duncan Borrowman, the man from the party which is campaigning for PR, the man who failed to understand how to campaign in a PR election? Duncan Borrowman J'accuse!"

    As I explain on my own blog:

    "The fact is that the Liberal Democrats are a democratic and devolved party. The welsh took the strategic decisions for Wales. The welsh drafted the words (yes I did play with them a bit). I designed the leaflets, arranged the print contracts, personally "hand finished" about a quarter of them, checked the words coming from constituencies did not conflict with the messages that the WELSH HAD DECIDED, and generally made sure that the ground war ran as smoothly as possible."

    You could have emailed me to check your facts first before publication (or indeed virtually any welsh Lib Dem election agent). One of the basics of journalism, to check your facts.

  • 8. Am 17:35 ar 7 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Duncan, Rwyt ti'n gwbwl iawn am dy ymgeisyddiaeth yn Llundain a dwy'n hapus i ymddiheuro.

    Duncan. I stand corrected about your London candidacy and I'm happy to set the record straight.

  • 9. Am 18:15 ar 7 Mai 2007, ysgrifennodd Gwerfyl Jones:

    A yw'r canlyniadau yr etholiadau rhanbarthol yn y gwahanol etholaethau ar gael rywle?

  • 10. Am 18:22 ar 7 Mai 2007, ysgrifennodd Duncan Borrowman:

    But you are not prepared to correct your other factual errors I see.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.