Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pen y Mwdwl

Vaughan Roderick | 07:54, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007

Mae hi wedi bod yn uchelgais gen i ers blynyddoedd i gyflwyno rhaglen o'r enw "Pen y Mwdwl". Does gen i ddim clem beth fyddai cynnwys y rhaglen ond dw i'n meddwl bod hi'n gythraul o enw da. Yn anffodus does neb yn cytuno a fi! Ta beth, fy mlog i yw hwn a dw i'n cael defnyddio'r teitl o'r diwedd!

Dyma ni felly. Diwedd cyfnod. Diwedd y stori. Mae Blammerbell wedi mynd ac mae'r "tumbleweed" yn chwythu trwy'r anialdir lle'r oedd Chanticleer ac Alun Pugh, Ian Titherington ac Arsembly yn rhannu eu syniadau neu yn yr achos olaf ei sbeit dibwrpas a di-stori.

Coch/gwyrdd amdani felly. Nid nawr yw'r amser i farnu pwy sydd wedi gwneud y penderfyniadau cywir ac mae'n bosib wrth gwrs y bydd na ambell i "dwist" arall yn y stori ryfedd hon. Serch hynny, dw i yn meddwl bod 'na ambell i gasgliad yn bosib.

Yn gyntaf mae rhan helaeth o'r llanast yn deillio o wrthodiad y Blaid Lafur i gyfaddef ei bod hi'n paratoi i glymbleidio yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Fe fydd rhai ohonoch yn cofio i Betsan a finnau ddioddef storm o ddirmyg ac atgasedd gan Lafur yn ystod yr ymgyrch pan awgrymais fod Llafur yn paratoi i siarad â Phlaid Cymru.

Dyma ddywedodd Rhodri; 'This story is rubbish from start to finish. A formal complaint is being made to Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales about their decision to run such a story at such a critical point in the election. We are certainly not going to be knocked off course by baseless media tittle-tattle". Fe wnâi dy atgoffa di o hynny ar steps y cynulliad heddiw, Rhodri. Beth ddigwyddodd i'r gwyn swyddogol yna, gyda llaw?

Y tro nesaf, dw i'n gobeithio, fe fydd hi'n amhosib i unrhyw blaid gelu ei dewisiadau clymbleidiol o'r etholwyr yn ystod yr ymgyrch. Fe ddylai hynny olygu y bydd gwleidyddiaeth Cymru yn fwy aeddfed ac agored o hyn ymlaen. Efallai.

Pwy sydd ar eu hennill a phwy sydd ar eu colled? Wel yr enillwyr mawr,fe dybiwn i, yw'r Ceidwadwyr. Mae'r ffaith ei bod wedi dod mor agos at fod yn rhan o lywodraeth wedi eu hachub o genedlaethau o alltudiaeth wleidyddol . Ni all neb honni bellach fod y blaid yn "amherthnasol" i wleidyddiaeth Gymreig a Chymraeg.

Yn sicr y blaid sydd wedi colli fwyaf yw'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n wynebu dyfodol llwm iawn fel yr ail wrthblaid. Mae 'na gyfnod anodd iawn o'u blaenau a chwestiynau strategol a gwleidyddol anodd ei hateb.

Cyn belled ac mae Llafur a Phlaid Cymru yn y cwestiwn mae'r rheithgor allan. Chi, wrth gwrs, yw'r rheithgor.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:36 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Daran:

    Rwy'n derbyn dy analysis, ond nag yw hi'n byd od lle medrwn dadlau taw'r ennillwyr a'r collwyr mwya yw'r ddau plaid sydd ddim, yn ol y son, ar fin sefydlu llywodraeth hanesyddol?

    Ac ie, mae blogs yn mynd a dod, ond rwy'n tybio bod yr un ma yma am y "long haul" (efallai mor hir ac arweinyddiaeth Mr Blair tybed)...

  • 2. Am 09:28 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae Plaid Cymru wedi ennill yn ddi-gwestiwn - wedi'r cwbl, rydym yn mynd i gyfrannu at y broses o lywodraethu, a hynny mewn clymblaid sy'n ymddangos yn ddigon sefydlog i bara am 4 blynedd, yn hollol wahanol i'r enfys Eidalaidd a ddisgrifias neithiwr. Bydd y Blaid, o ganlyniad, yn uwch ei pharch ac yn mynd yn fwy poblogaidd ymysg y pleidleiswyr. Wedi'r cwbl, os gallwn gyfrannu at lywodraeth lwyddiannus y tro hwn, mae gobaith y gallwn gipio seddau Gorllewin Caerfyrddin/De Penfro a Gogledd Penfro, beth bynnag, erbyn yr etholiadau nesaf a pharhau i rannu grym â Llafur am flynyddoedd i ddod. Felly, oni cheir tro arall yn y gynffon, ymlaen â ni i gyfrannu at lywodraeth wirioneddol radicalaidd a fydd yn creu mwy fyth o 'shifft' oddi wrth aleiniadau'r pleidiau dros y ffin. Ydym, rydym bellach mewn gwlad wahanol sy'n magu gwleidyddiaeth fwy adeefed yn y broses (ochenaid!).

  • 3. Am 10:50 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Mae Llafur wedi bod yn rheoli yng Nghymru ers cyn cof ar ryw lefel neu gilydd - ac edrych ar y llanast sy'n bodoli. Maen't wedi bod yn rheoli yn y cynulliad yn gwbwl ddi-fflach am bron i ddegawd. Mae pobl Cymru wedi rhoi iddynt y canlyniad gwaethaf mewn etholiad ers dechrau'r ganrif ddiwethaf. A'r wythnos hon, mae arolwg barn wedi dangos fod dros 40% o'r boblogaeth yn cefnogi'r Enfys. O weld y cefndir yma, rwy'n credu fod eisie darllen dy ben wrth i ti ochneidio'n ddi-ddiwedd wrth feddwl am Blaid Cymru'n cynnig cefnogaeth i'r Blaid Lafur.

  • 4. Am 11:28 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Rwy'n dal i fynnu y byddai enfys yn rhy ansefydlog ac, yn ôl pob tebyg, yn gwthio etholiadau Cynulliadol cynnar, sef y peth olaf y mae trwch y boblogaeth ei eisiau - o gofio'n niferoedd isel a aeth i bleidleisio y tro diwethaf. Pe bai, dyweder, rhyw 25% yn unig o'r etholwyr yn mentro allan i bleidleisio o gwbl, yna fyddai pa ganlyniad bynnag a ddeilliai o'r ymarfer hwnnw'n chwerthinllyd.

  • 5. Am 12:14 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Mae bod yn 'Cockle-stall' assistants yn chwerthinllyd hefyd pan gafwyd cyfle i'w redeg. Ha ha.

  • 6. Am 18:29 ar 27 Mehefin 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Dw i'n amau dim Helen. Er fod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth y naill glymblaid fel y llall, nid oedd oes sefydlog i'r cytundeb oedd yn gynnwys y Rhydd-Dem gan ei bod yn rhwym o ail hystyried ei blaenoriaethau etholiadol wedi etholiadau'r awdurdodau lleol blwyddyn nesaf. Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at glymblaid o 26 yn wynebu 26 gyda'r Rhydd-dem yn penderfynu rhwng y ddwy ochr fesul pwnc.
    Erys fodd bynnag perygl yn y cytundeb gyda'r Blaid Lafur am yr un rheswm - sef y bydd y Rhydd-Dem ar gael wedi Mai nesaf petae gwrth Gymru'r Blaid Lafur yn cael y llaw uchaf. Fel y mae bydd clymblaid o 40 yn medru fforddio 5 yn strancio ond doedd dim gobaith i 32 gyda 2 yn strancio.
    Os y bydd trwch y Blaid Lafur yn driw i gynnwys ac ysbryd y ddogfen yna mae yna obaith am gyfnod sefydlog am y dair blynedd nesaf. Credaf mae gor ddweud yw y bydd y cytundeb hwn yn gosod trefn am ugain yn yr un modd yr oedd yn or-ddweud bod y cytundeb arall am wneud hynny.
    Mae datganiadau diweddar Ken Hopkins (a'm rhyfeddodd) a Leighton Andrews yn rhoi gobaith imi, ond mae llawer o waith a brwydrau o'n blaen.
    Gyda llaw dwi'n mawr edmygu y ffordd y bu i'r Geidwadwyr Cymreig ymddwyn yn ystod yr holl broses. Nid wyf erioed wedi gweld paham y dylai plaid sydd yn ceisio canfod man priodol iddi ei hunan a datblygu polisiau sydd yn gweddu i'r canol-dde yng Nghymru gael ei llarpio am y ffordd y mae'r erchyllbeth Doriaidd Brydeinig wedi ymddwyn mewn oes blaenorol. Wedi'r cyfan mae pob llywodraeth yn San Steffan ers canrifoedd wedi cam-lywodraethu Cymru, Cernyw, Iwerddon a'r Alban fel ei gilydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.