Poeni am bleidlais
Cefais fy synnu y bore ma wrth gyrraedd y gwaith. Nid gan y datblygiadau gwleidyddol diweddara- dw i y tu hwnt i syndod cyn belled ac mae'r rheiny yn y cwestiwn- ond gan sylwadau dau o'm cydweithwyr ynglŷn â'r posibilrwydd o refferendwm.
Roedd y ddau yn gwbwl argyhoeddedig nad oedd modd yn y byd y byddai etholwyr Cymru yn cefnogi cynyddu pwerau'r cynulliad mewn pleidlais -hynny er gwaetha'r ffaith bod pob un arolwg barn yn awgrymu'r gwrthwyneb. Yr un yw'r gri gan nifer o aelodau seneddol ac mae Peter Hain wedi dweud hynny ar goedd droeon.
Beth yw'r sail i'r gred hon? Yn sicr mae profiadau 1979 a 1997 yn rhan ohoni. Yn y ddau refferendwm roedd y bleidlais negyddol llawer yn fwy na phroffwydoliaethau'r polau piniwn. Yn fwy cyffredinol mae'n deg i ddweud bod hi'n gythreulig o anodd i lywodraethau ennill pleidleisiau sydd yn aml yn cael eu defnyddio gan yr etholwyr i roi cic i ba bynnag plaid neu bleidiau sydd mewn grym.
Am y rheswm hynny byswn yn disgwyl y byddai unrhyw gytundeb rhwng Llafur a Phlaid yn cynnwys rhyw fath o "get out clause" i alluogi i lywodraeth Coch/Gwyrdd ohirio'r bleidlais os nad oedd hi'n bosib ei hennill.
Yn bersonol dw i ddim yn rhannu barn fy nghydweithwyr a'r aelodau seneddol. Yn gyntaf roedd cost cynulliad yn ffactor allweddol yn 1979 a 1997.
Arf fwyaf effeithiol Neil Kinnock yn '79 oedd y ddadl bod prynu peirannau arennau yn bwysicach na chreu "siop siarad" yng Nghaerdydd. Roedd yr un fath o ddadl yn thema gyson i Nick Bourne, Tim Williams a Betty Bowen yn '97. Ni fydd y ddadl honno'n berthnasol y tro nesaf gan fod y cynulliad eisoes yn bodoli. Y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yw pa set o wleidyddion ddylai deddfu ynglÅ·n ag ysbytai ac ysgolion Cymru- y trigain aelod Cymreig yn y cynulliad neu'r chwe chant o wleidyddion Prydeinig yn San Steffan?
Mewn cyfnod lle mae'r canran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ar gynnydd a'r diddordeb yn etholiadau San Steffan yn pylu dw i'n meddwl bod hi'n fwyfwy amlwg pa gorff etholedig sy fwyaf perthnasol i'w bywydau yng ngolwg etholwyr Cymru.
SylwadauAnfon sylw
Gobeithio dy fod yn iawn, Vaughan, wrth ddarogan mai cynyddu a wnaiff y bleidlais mewn etholiadau Cynulliadol, a hynny, o bosib, ar draul y diddordeb mewn etholiadau seneddol Prydeinig.
Mae'n wir fod yr hinsawdd yn wahanol ym 1979, a bod N Kinnock wedi llwyddo i hel bwganod ar y pryd ynglyn â'r gost (ymysg pethau eraill, o gofio mor wrth-Gymreig oedd ei agwedd ar y pryd). Yn sicr, credaf fod llai o wrth-Gymreictod rhonc yn bodoli bellach yr ochr hyn i Glawdd Offa, a hefyd fod mwyfwy o bobl yn sylweddoli gwerth y Cynulliad, o leiaf wrth ddod â pheirianwaith penderfyniadau o bwys yn nes yn ddaearyddol at y bobl y mae'n eu gwasanaethu.
Yn achos costau moel, credaf y gall nifer helaeth (er nad pawb) osod costau mewn cyd-destun, h.y. y gost o greu'r Cynulliad wrth ochr y gost o ddarparu swyddfeydd newydd i ASau San Steffan, a hefyd cost Trident (gwarthus) wrth ochr costau ysbytai (a hynny er mai canran fechan o gyfanswm gwariant y llywodraeth Brydeinig ar amddiffyn yw Trident). Mae pob dim yn gymharol .......
Adroddiad Richard amdani felly, am y tro, a llawer mwy i ddilyn!
Sbot-on fel arfer, Vaughan.
"Mewn cyfnod lle mae'r canran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r cynulliad ar gynnydd a'r diddordeb yn etholiadau San Steffan yn pylu dw i'n meddwl bod hi'n fwyfwy amlwg pa gorff etholedig sy fwyaf perthnasol i'w bywydau yng ngolwg etholwyr Cymru."
Ie, ond ma symudiad "fwyfwy" yn cymryd amser i wireddu. Er bod mwy o bobl Cymru yn deall cyfrifoldebau'r Cynulliad erbyn hyn, roedd canran eitha sylweddol o hyd yn gweld hi'n amherthnasol ar y stepen drws yn ystod yr etholiad.
Ffactor mawr i gofio wrth gwrs yw bod y Blaid Ceidwadol (neu rhan fwyaf ohoni) o blaid mwy o bwerau nawr. Mae na rhyw 20% o etholwyr Cymru'n pleidleisio iddyn nhw erbyn hyn, ac ni fydd y blaid honno yn arwain y garfan Na tro nesa. So dylai hynny helpu'r maths hefyd.
Mae'r ddwy flynnedd 1979 a 1997 yn dal yn fyw yn y cof... ac yn fwgan i unrhyw refferendwm yn y dyfodol.
Beth os y byddwn yn colli'r refferendwm ??? Beth wedyn? Bydd yn 20 mlynedd eto cyn gawn senedd go iawn. Rwyf yn credu y ddylau'r ddwy blaid cael ryw fath o get out clause os nad yw'r rhagolygon yn edrych yn dda. Dyna pam mae ymbarel yn gallu fod yn rhyfedd o handi ar adegau!!!
Fe wnaiff y Blaid Lafur ynrhywbeth i ddal mlaen at bwer, ac fe wnawn nhw addo ynrhywbeth i Blaid Cymru er mwyn cael cytundeb a chlymblaid, yn enwedig pan nad oes ganddyn nhw ddim byd i'w golli. Dydy hi ddim yn sicir o gwbl mai ie fyddai canlyiad refferendwm, na chwaith y byddai cefnogaeth lwyr gan y Blaid yma nag yn Llundain. Rhaid peidio anghofio hanes. Cofiwch fod refferendwm '97 ar gefn ton o optimistiaeth anhygoel ar ol buddugoliaeth Lafur yn San Steffan, ac hefyd yn sgil refferendwm yr Alban wythnos ynghynt. A dim ond wedyn o drwch blewyn ennillwyd hi. Roedd refferendwm '79 ar y llaw arall tuag at ddiwedd cyfnod llywodraeth Lafur, a oedd wedi troi'n hynod amhoblogaidd, ac fe drodd yn bleidlais brotest. Mae'r gymhariaeth yn arswydys o agos. Beth yw pris refferendwm a chanlyniad amheus nawr, yn hytrach nag un a chanlyniad sicir fory? Gobeithio fod Plaid Cymru'n graff iawn cyn derbyn addewidion y Blaid Lafur.
Bum yn trafod gyda'm cymrodyr yn y gweithle heddiw. Yr ydym yn unfarn yn tybio mae'r dewis mwyaf poblogaidd ymhlith y gweithwyr byddai dileu'r Cynulliad yn gyfangwbl, yna naill difaterwch hollol neu pwerau deddfu llawn, ac yn lleiaf poblogaidd naill ai y drefn fel ag yr oedd neu'r drefn presennol.
Nodwn bod ein cyd-weithwyr yn gyffredinol yn rhyfeddol o wrth-Gymraeg a gwrth-Gymru. Gweinidogion Plaid Cymru yw'r bwgan mwyaf i llawer ohonynt nid Gweinidogion o Geidwadwyr.
Mae nifer o'm cyd-weithwyr yn gwrthod derbyn bod bodolaeth y Cynulliad wedi gwella pethau. Prin yw'r newydd am Gymru y mae nifer yn ei weld na'i glywed. Nid yw gwybodaeth na rheswm yn ystyriaeth. Mae ofn yn elfen, ofn y Cymry Cymraeg yn enwedig.
Mae angen cofio bod yna garfan sydd yn elyniaethus i'r Cynulliad o hyd am eu bod yn elyniaethus i rhan parhaol i'r Blaid Lafur mewn llywodraeth. Nid yw tystiolaeth Ceidwadwyr y Cynulliad yn mennu dim arnynt.
Diddorol gweld y gwahaniaethau barn ar beth fyddai canlyniad tebygol refferendwm ar hawliau deddfu i'r Cynulliad. Mae rhesymeg yn safbwyntiau'r ddwy ochr - y rhai sy'n credu y byddai'r bleidlais yn cael ei hennill, a'r rhai sy'n credu y byddai mewn perygl o gael ei cholli. Felly, fedra i na neb arall ddim honni gwybod pwy sy'n iawn.
A dyna ydi'r pwynt hollbwysig. Does neb ohonon ni'n gwybod i sicrwydd beth fyddai rhagolygon refferendwm o'r fath ar hyn o bryd. Dyna pam y byddai'n ffolineb ac yn wir yn anghyfrifoldeb o'r radd flaenaf ar ran Plaid Cymru petai hi'n rhuthro am addewid am refferendwm fel rheswm dros gynnal llywodraeth Lafur.
Gallai, mi allai refferendwm o'r fath roi'r ateb yr ydan ni ei eisio. Ond un peth y gallwn fod yn sicr ohono ydi y byddai pleidlais 'Na' yn dinistrio'r broses ddatganoli'n llwyr ac yn ergyd difrifol i dwf Cymru fel cenedl. Gyda'r broses ddatganoli'n symud yn raddol yn ei blaen, pa ddiben rhuthro at gymryd cam a fyddai'n cario'r risg o roi stop llwyr ar y broses? Onid y peth pwysicaf oll yn y dyddiau cynhyrfus yma yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi'n bod ni'n cadw'n traed ar y ddaear?