Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wythnos bant

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Iau, 9 Awst 2007

Dw i wedi bod i ffwrdd o'r cyfrifiadur am rai dyddiau- sori am hynny. Nid fy mod wedi bod yn unrhyw le egsotig- dim yn y Steddfod hyd yn oed. Ers dechrau'r flwyddyn rwyf wedi addo codi "pergola" yn yr ardd ac roedd hi'n bryd cyflawni'r addewid. Ta beth mae bod yn saer coed yn fwy o sbort na saernïo geiriau ym Mis Awst!

Beth wnes i golli felly? Wel,fe wnaeth rhywun doeddwn i ddim yn nabod o'r Rhondda newid ei blaid ac oherwydd ein bod ni yn nyddiau'r cŵn fe wnaeth y cyfryngau (neu rhai Llundain o leiaf) môr a mynydd o'r peth.

Fe draddododd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddiddorol yn yr Eisteddfod yn galw ar Lafur y cynulliad i bwyso am ragor o arian o Lundain er mwyn cyflawni addewidion "Cymru'n Un". Roedd yr alwad honno yn wleidyddiaeth glyfar iawn yn fy marn i. Mae 'na duedd mewn unrhyw glymblaid i'r pleidiau unigol geisio cymryd y clod am bob llwyddiant a beio'i gilydd am bob methiant. Yr hyn mae Dafydd Wigley yn cynnig i Lafur y Bae yw sefyllfa lle y gellir beio San Steffan am y methiannau. A fydd Rhodri Morgan yn llyncu'r abwyd? Fe gawn weld.

Yr un mor ddiddorol oedd sylwadau ar "" gan yr aelod seneddol Ceidwadol Mark Field. Wrth drafod dyfodol cyfansoddiadol y DU dywedodd hyn

"I would prefer to see the creation of a completely new federal parliament. Four, full, national parliaments in England, Scotland, Wales and Northern Ireland with most of the existing powers of the House of Commons and over them a federal United Kingdom parliament, which would debate defence and foreign affairs, make treaties and administer a cohesion fund for the poorer parts of the UK."

Mae hynny'n mynd llawer ymhellach na pholisi swyddogol ei blaid, wrth gwrs, ac mae'r fath o seneddau cenedlaethol y mae Mr Field yn awgrymu yn llawer mwy pwerus na senedd bresennol Caeredin. Mewn gwirionedd o dan y fath o drefn y mae Mr Field yn awgrymu fe fyddai'r pwerau a fyddai ar ôl ar lefel y DU yn debycach i rai'r Undeb Ewropeaidd neu NATO nac i bwerau cenedl-wladwriaeth.

Dw i wedi dadlau ers tro byd mae'r "cwestiwn Seisnig" fyddai'n gwthio'r broses ddatganoli ymlaen yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae sylwadau Mr. Field yn cadarnhau hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:59 ar 9 Awst 2007, ysgrifennodd huw:

    Beth wnes i golli felly? Wel,fe wnaeth rhywun doeddwn i ddim yn nabod o'r Rhondda newid ei blaid ac oherwydd ein bod ni yn nyddiau'r cŵn fe wnaeth y cyfryngau (neu rhai Llundain o leiaf) môr a mynydd o'r peth.

    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru a'r Toriaid - fel dwy pys mewn plisgyn

  • 2. Am 21:38 ar 9 Awst 2007, ysgrifennodd Andrew:

    Dwi'n cytuno yn llwyr gyda ti Huw. Mae yna amgylchedd gwrth-Blaid Lafur yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru. Yn anwedig Llafur Newydd, neu'r "Brit Nats" - sef pawb yn y blaid Lafur sydd ddim o blaid annibyniaeth i Gymru.

    Mae Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru gyda'r un agenda a Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Ond yn anwedig Plaid Cymru, mae'r ddwy sefydliad yn rhu agos, a does dim scrwtani gan neb. Mae penodiadau Alun Shurmer and Rhuanedd Richards yn dangos hyn.

    Dwi'n credu bod neb sy'n cefnogol o'r blaid Lafur yn gweithio yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru. Ond profwch fi yn anhywir. Os oes rhywun yn y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn fodlon dweud bod nhw yn cefnogi Llafur? Na, doeddwn i ddim yn meddwl bod.

  • 3. Am 15:13 ar 10 Awst 2007, ysgrifennodd Helen 'Ddirgel':

    Mi dybiwn mai eithriad yw Mark Field, ac y byddai'r rhan fwyaf o dorïaid yn anghytuno'n chwyrn ag unrhyw syniadau a fyddai'n golygu mwy fyth o lacio ar y gafael sydd gan San Steffan ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a Chernyw, o bosib, yn y dyfodol). Ar y llaw arall, mewn Senedd Seisnig ffederal, heb y gwledydd ymylol, pwy fyddai'n debygol o reoli'n gyson â mwyafrif digon parchus??? Rydym i gyd yn gwybod yr ateb i hynny! Ys gwn i, yn wir, a fyddai'r torïaid, yn enwedig pe baent yn rhagweld eu cwymp fel plaid Brydeinig, yn mentro ar hyd y llwybr hwnnw - llwybr a fyddai i bob pwrpas yn gwarantu grym iddynt? Cawn weld! Pe bai'r torïaid yn mynd am ddatganoli er mwyn cadw grym yn Lloegr, beth fyddai ymateb y Blaid Lafur, wn i? A thybed faint o Bleidwyr a gâi eu hudo, dros dro beth bynnag, i feddwl yn neis am y torïaid?

    Mwyaf y meddylaf am y mater, mwyaf y byddaf yn credu bod gwleidyddiaeth a gwyddbwyll yn ddau anifail hynod o debyg i'w gilydd ..... mae symudiad i un cyfeiriad gan un ochr yn annog math penodol o symudiad gan yr ochr arall, neu mae symudiad arbennig ar ran un ochr yn arwain, yn y pen draw, at drychineb.

    Mae aelod amlwg o Blaid Cymru yng Nghaernarfon newydd adael y Blaid hefyd, yn ôl y sôn, am ei fod yn gwerthwynebu'r glymblaid Goch-wyrdd, ond mae mwy na hynny yn y stori honno ..... Taw biau hi, rwy'n credu!

  • 4. Am 17:15 ar 10 Awst 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Huw ac Andrew, Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn ddigon mawr ac yn ddigon hyll i ammdiffyn ei hun! Ond gan fod Andrew wedi gosod her mi wnai geisio ei ateb. Dyw newyddiadurwyr cyfredol y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú sydd yn ddarlledu ddim yn cael datgelu eu safbwyntiau gwleidyddol. Mae un o ohebwyr Wales Today ar hyn o bryd yn absennol o'r sgrin ar ol iddo ymgeisio am yr enwebiad Llafur yng Ngorllewin Abertawe.
    Roedd yr ymgeisydd Llafur ym Mlaenau Gwent, Owen Smith yn aelod o uned wleidyddol Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru ac yn uwch-gynhyrchydd Good Morning Wales. Mae SPAD Rhodri Morgan Jo Kiernan yn gyn-gyflwynydd newyddion i Radio Wales. Ymhlith eraill sydd wedi gweithio i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú (yn Llundain yn ogystal a Chymru) mae Eluned Morgan ASE, Chris Bryant AS, Ann Clwyd AS a Leighton Andrews AC. Ydy hynny'n ddigon?

  • 5. Am 09:17 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Da iawn Vaughan. Dim ond raid i'r Blaid Lafur golli ychydig o'i 'hegemoni' yng Nghymru a mae nhw yn beio pawb arall. Mae'n amser iddynt sylweddoli fod y rhod yn troi yn ei herbyn. Mae'r math yma o bwysau ar y wasg yn ddim byd newydd - mae golygydd Barn wedi cael gair yn ei glust gan AC Llafur am arian cyhoeddus mae Barn yn ei dderbyn a bod nhw ddim yn hoff o gynnwys Barn.
    Mae'n amser sefyll i fyny i'r bobol annemocrataidd yma.

  • 6. Am 12:18 ar 11 Awst 2007, ysgrifennodd andrew:

    OK, so mae na rhyw haner dwsin o bobl cefnogol o Llafur erioed wedi gweithio i Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru. Tydi Chris, Eluned Leighton ac Ann Clwyd ddim yn cyfri. - Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn Llundain odden nhw yn gweithio i. dwi'n shiarad am Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales/Cymru.

    Does gen ai ddim problem hefo staff Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cefnogi plaidiau eraill ond iddyn nhw cadw hynnu yn ddistaw. On pwynt fi ydi bod Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales yn dod o safpwynt di-Blaid Lafur. Mae hyn ym amwlg drwy estudio holl rhagelni gwelidyddol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.