Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Etholiadau Cyngor

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 26 Hydref 2007

Dim ond un isetholiad Cyngor oedd yng Nghymru ddoe a hwnnw yn ward Stansty (sef ardal Plas Coch) yn Wrecsam. Mae'n bosib mai ffactorau lleol oedd yn gyfrifol ond cafwyd gogwydd sylweddol iawn o'r Democratiaid Rhyddfrydol i Lafur.

Llafur; 370
Dem. Rhydd.; 271
Ceid.; 50
Plaid Cymru 45.


( 2004; Dem. Rhydd.; 365, Llafur 134, Cymru Ymlaen; 123).

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:08 ar 26 Hydref 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mi fydd y canlyniad yma yn dipyn o sioc i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd gan mae Bruce Roberts oedd ei hymgeisydd. Mae Bruce wedi bod yn amlwg iawn yn sefyll fel ymgeisydd yn etholiad y cynulliad ac mi fuaswn i wedi disgwyl iddo ennill y sedd. Dydy y canlyniad yma ddim yn edrych yn addawol iawn i ddyfodol y glymblaid Rh Dem sydd yn arwain Cyngor Wrecsam ar ol etholiadau mis Mai.

  • 2. Am 11:37 ar 27 Hydref 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Yn dda i weld Plaid Cymru yn sefyll er y canlyniad siomedig.

  • 3. Am 12:59 ar 29 Hydref 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae'n ymddangos, felly, fod Cymru Ymlaen wedi mynd â'i phen iddi, a rhywfaint o'r bleidlais a gafodd wedi'i hollti rhwng Llafur a Phlaid Cymru!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.