Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blwyddyn newydd arall

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2008

Dyma ni felly . Mae pawb yn ôl yn y Bae ar ôl ein gwyliau hurt o hir.

Diolch i Betsan am ein difyrru 'da troeon trwstan Peter Hain wythnos ddiwethaf. Fe fydd 'na gyfle i ddweud rhywbeth am hynny yn y man. Gobeithio y gwnaethoch chi fwynhau'r podlediadau dros y Nadolig a'r Calan. Fe fydd na bodlediad newydd Ddydd Gwener ac wrth gwrs mae'r rhaglenni gwleidyddol yn dychwelyd yn eu slotiau arferol yr wythnos hon

Ond yr eitem gyntaf ar y fwydlen heddiw yw cynhadledd newyddion ar y cyd gyda Rhodri ac Ieuan. Bydd hon yn sbort. Ydy Ieuan yn cytuno ac Elfyn ynghylch dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol? Fe gawn weld. Y prynhawn 'ma fe gawn ni'r fersiwn ddiweddaraf o'r gyllideb gydag ambell i newid. Ar ôl ein problemau gyda'r fersiwn wreiddiol dw i ddim yn addo gallu dadansoddi'r cyfan yn syth!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:51 ar 16 Ionawr 2008, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    Da iawn. Dwi wedi colli'ch podlediad dros y gwyliau. Yma ym Mrwsel, mae'r gwleidyddion wedi bod yn brysur ers wythnos a hanner...

  • 2. Am 11:26 ar 18 Ionawr 2008, ysgrifennodd Alun Thomas:

    VAUGHN

    croeso nol Wedi dy golli dros y dolig. meddwl dy fod wedi gorffen blogio!!

    Ie 4 wythnos o wyliau mwy a ni athrawon

    OND
    Ble mae'r cyswllt wedi mynd o dudalen newyddion Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Heb hwnnw mae'n gwneud pethau'n anoddach i gael gafael a thi!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.