Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Troeon Trwstan Torfaen

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 5 Mehefin 2008

Fe gafwyd ateb yn y pen draw i'r cwestiwn "sawl c sydd yng Cric(c)ieth?" ond hyd yma ni ddatryswyd pos yr un mor anodd sef sawl sillaf sydd yn y gair "Nationalist"? Pedair yw'r ateb cywir am wn i ond ers degawdau mae rhai gwleidyddion Llafur wedi dwli ar hwpo sillafau ychwanegol i mewn i'r gair wrth ymosod ar Blaid Cymru. Mae'n bosib clywed y malais a'r dirmyg yn diferu o enau Irene James neu Lynne Neagle, dyweder, wrth i'r "nash-o-na-li-is-ts" ddod o dan eu llach.

Mae gwrthod defnyddio enw cywir plaid yn hen dric mewn gwleidyddiaeth. Wedi'r cyfan term maleisus gwrthwynebwyr y Ceidwadwyr oedd "Tori" yn ôl yn oes Victoria. Mae'n debyg bod cyfeiriadau cyson Godron Brown at y "Liberal Party" a'r un cymhelliad sarhaus. Llywydd y cynulliad yw'r unig berson sy'n gallu esbonio ei gyfeiriadau unigryw at y "Rhyddfrydwyr Democrataidd" ond dw i'n amau mai rhyw esboniad gramadegol dwys sy'n gyfrifol yn hytrach nac unrhyw awydd i ddirmygu'r blaid.

Ta beth, i fynd yn ôl at Lynne Neagle a'r "nash-o-na-li-is-ts" mae'n anodd gor-ddweud ynghylch dirmyg aelod Torfaen tuag at Blaid Cymru. Hi oedd yr aelod cynulliad Llafur cyntaf i wrthwynebu cytundeb Cymru'n Un yn gyhoeddus. Dyma oedd ganddi i ddweud flwyddyn yn ôl.

"One of the many fears harboured by those of us in the Labour Party who oppose the One Wales document, centres on where this coalition is taking us long term - as a party and as a country.The facts as I see them in the One Wales document point to a fundamental and detrimental change in direction for Welsh politics. They are not facts I can ignore."

Google yw fy ffrind. Beth am fynd yn bellach yn ôl- i siambr y cynulliad yn 2004?

Lynne Neagle; Plaid Cymru asks not what devolution can do for Wales, but what it can do for Plaid Cymru. Defeated, yet hell-bent on separatism, it sees devolution as a step towards an independent Wales... Perhaps Plaid Cymru would like to state which hospital wards it would close, which teachers it would sack, and which social services it would axe to pay for independence? The bill for its constitutional obsession would not be presented to Ieuan Wyn Jones--it would be presented to the poor across Wales.

Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn ôll hen chwedl Harold Wilson. Yn sicr mae blwyddyn yn oes.

Yn yr etholiadau diweddar collodd Llafur ei mwyafrif ar gyngor Torfaen ac roedd hi'n ymddangos y byddai grŵp o'r enw "clymblaid pobol Torfaen" yn cymryd yr awenau. Rhyw gymysgedd digon rhyfedd o Dorïaid, aelodau annibynnol, Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau Llais y Bobol oedd y glymblaid honno ac mae'n amlwg bod y syniad o'r Ceidwadwyr hyd yn oed yn rhannu grym yn Nhorfaen yn wrthyn i gynghorwyr Llafur Torfaen. Cymaint felly nes iddynt droi at eu hunig achubiaeth posib. A phwy oedd a'r gallu i'w hachub? Wel neb llai na'r "nash-o-na-li-is-ts" melltigedig.

Mae 'na ryw eironi hynod yn y ffaith bod Llafur wedi gorfod cyrraedd cytundeb a Phlaid Cymru er mwyn cadw grym yn iard gefn Lynne Neagle- a hynny am yr un rhesymau wnaeth arwain at y glymblaid yn y cynulliad- yr union glymblaid y bu Lynne yn clochdar yn eu herbyn. O am fod yn bry ar wal yn y CLP!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:41 ar 5 Mehefin 2008, ysgrifennodd Helen :

    Dyma rywle arall, felly, y mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur wedi sylweddoli bod ganddynt fwy o dir cyffredin na chyfuniad o'r pleidiau eraill. Buasai unrhyw glymblaid eang yn Nhorfaen yn debygol o gwympo cyn diwedd y tymor oherwydd gwahaniaethau rhyw sylfaenol - yr union ddadl a oedd gen i (oes yn ôl) yn erbyn llywodraeth glymblaid enfys yn y Cynulliad.

  • 2. Am 13:35 ar 6 Mehefin 2008, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    Helo. Ble mae'r podlediad? Dwi ddim yn deall pam nad oes podlediad gwleidyddol jyst am fod ein aelodau seneddol yn cael gwyliau eraill. Mae 'na wastad digon o bodlediadau am rygbi a peldroed. Mae'n annheg! Dafydd

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.