Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

221 ar y donfedd ganol 96 ar yr amledd uchel iawn

Vaughan Roderick | 22:18, Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008

Fe wnes i gyfeirio o'r blaen at y ffaith bod y ceiliog wedi canu i ddeffro blog .

Huw Thomas, newyddiadurwr sy'n gweithio'n bennaf i orsafoedd radio masnachol, yw Chanticleer ac mewn mae'n codi pwynt sy'n hynod o bwysig.

Mae llawer o sylw yn cael ei roi'r dyddiau hyn at drafferthion ITV Cymru. Mae'r trafferthion hynny'n ddifrifol. Erbyn y gwanwyn fe fydd ITV yn cyflogi rhyw bedair mil o bobol trwy Gymru a Lloegr. Ugain mlynedd yn ôl roedd HTV Cymru yn unig yn cyflogi dros fil. Pwynt Huw yw bod yr hyn sy'n digwydd i deledu masnachol eisoes wedi digwydd ym myd radio lleol. Mae yn llygaid ei le.

Un o'r llefydd cyntaf i mi weithio oedd gorsaf fasnachol o'r enw CBC/Darlledu Caerdydd. Roedd ganddi ystafell newyddion o ddeg. Roedd y newyddiadurwyr hynny'n cynhyrchu pymtheg bwletin newyddion Saesneg a deg set o benawdau Cymraeg bob dydd. Roedd 'na ddwy raglen newyddion hanner awr yn Saesneg yn ogystal a rhaglen newyddion Cymraeg chwarter awr.

Fe ddysgais i fy nghrefft yno. Nid fi oedd yr unig un. Cychwynnodd Sian Lloyd (y tywydd-wraig) Gareth Charles, Ian Gwyn Hughes ac Eifion Jones (Jonsi) eu gyrfaoedd yno hefyd. Ar yr un pryd draw yn Sain Abertawe roedd Garry Owen a Sian Thomas wrthi yn ceisio dod a thipyn o sens i fyd yr anfarwol Willy Bowen.

Nid hiraethu ydw i yn fan hyn. Mae'r gorsafoedd yma'n bwysig. Mae nhw'n cyrraedd cynulleidfaoedd sylweddol. Mae'r rheiny, ar y cyfan, yn gynulleidfaoedd sy ddim yn gwylio rhaglenni Cymreig y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú nac ITV- nac yn darllen papurau lleol.

I bob pwrpas yr unig newyddion o Gymru y mae'r bobol hynny'n eu derbyn yw'r hyn sydd ar gael ar yr orsaf leol ac ar y cyfan mae safon y gwasanaeth hwnnw yn ddychrynllyd. Nid beirniadu safon y newyddiadura ydw i wrth ddweud hynny ond beirniadu'r strwythur. Mae'r gorsafoedd lleol yn canolbwyntio ar newyddion lleol. Daw newyddion Prydeinig a thramor o Lundain ond does 'na ddim ffynhonnell ar gyfer newyddion sy'n benodol Gymreig. Y cyfan gall Champion, Marcher neu Scarlet ei wneud o safbwynt gwleidyddiaeth Cymreig yw sgwrs ffon a'r aelod cynulliad lleol. Yn amlach na pheidio does dim o'r amser na'r ewyllys i wneud hynny hyd yn oed.

Oes na ateb i'r broblem?

Oes, dwi'n meddwl- os ydy'r ewyllys yn bodoli.

Yr orsaf radio fasnachol fwyaf yng Nghymru, o bell ffordd, yw "" sy'n eiddo i GMG, adain fasnachol yr elusen sy'n berchen ar y Guardian a'r Observer. Mae hi ar gael ym mron pobman yn y De a'r Gorllewin yn barod ac mae'n hynod broffesiynol a phoblogaidd. Mewn gwirionedd hi yw'r unig orsaf fasnachol yng Nghymru sy'n sefyll droed wrth droed a gorsafoedd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú o safbwynt gwariant ar raglenni.

Ar hyn o bryd mae Ofcom yn hysbysebu FM ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, y drwydded FM olaf ym Mhrydain fel mae'n digwydd.

Mae 'na ddau gwmni yn ceisio.

Mae "Radio Glyndŵr" yn cynnig;

A local speech and music station for the North and Mid Wales area, with 24-hour news, information and comment aimed primarily at the 35+ age group, with a predominately Gold and Easy Listening mix of music, regularly reflecting Welsh culture and language.

Mae'n werth nodi y byddai stiwdios "Radio Glyndŵr" yn Lloegr.

Y cwmni arall sy'n cynnig yw GMG/ Real Radio. Pe bai'r cais hwnnw yn llwyddo fe fyddai "Real Radio", i bob pwrpas, yn orsaf genedlaethol fasnachol i Gymru. Yn y cynnig mae GMG yn awgrymu y byddai rhyw chwech awr y dydd o raglenni'r gwasanaeth newydd yn dod o'r Gogledd gyda'r gweddill yn cael eu rhwydweithio o Gaerdydd

Os ydy'r cais yn llwyddiannus (a GMG yw'r ffefryn) oni fyddai'n resymol i Ofcom fynnu bod GMG yn cynnig gwasanaeth newyddion Cymreig i orsafoedd masnachol eraill?

Bydded Goleuni...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.