Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffeithiau

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

cardiffbus2032.jpgDyma ddwy ffaith i chi.

1. Mae grŵp swyddogol sy'n rhoi cyngor arbenigol i lywodraeth y cynulliad ar drafnidiaeth wedi arghymell cael gwared ar y polisi o roi pasys bysiau am ddim i bob bensiynwr. Mae hynny'n ffaith.

2. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb trwy ddweud hyn "Rydyn ni wedi nodi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael gwared ar gynllun llwyddiannus a phoblogaidd ... Does dim cynllun i newid y rheolau sy'n pennu pwy yw'r bobl sy'n elwa ar y cynllun". Mae hynny hefyd yn ffaith.

Mae Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi cyhoeddi ar sail y ffeithiau uchod.

Argwefan y Llywodraeth ceir ymateb swyddogol i'r stori. Mae'r datganiad ond wedi ei gyhoeddi yn Saesneg. Mae'n ymddangos ar y wefan Gymraeg yn yr iaith fain sy'n arwydd o frys, efallai. Ta beth, dyma fe.

Putting the record straight

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales has been running a story this morning [Wednesday] about plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme. We also informed the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú that there were no plans to change the entitlement

Iawn. Gadewch i ni drafod y ffeithiau er mwyn sicrhau bod y record yn gwbwl gywir.

Efallai y gall rhywun o Lywodraeth y Cynulliad esbonio lle yn union y mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi honnu bod yna "plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme" ?

Oes 'na unrhyw beth sy'n ffeithiol anghywir neu sy'n rhoi cam-argraff yn stori'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú? Hyd y gwela i, nac oes.

Ydy datganiad y Llywodraeth ar y llaw arall yn ffeithiol gywir ynghylch stori'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú? Nac ydy, yn fy marn bersonol i.

Diweddariad;

Mae'r datganiad wedi ei newid. Dyma mae'n ei ddweud erbyn hyn.

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales has been running a story this morning [Wednesday] which may have raised concerns about the future of the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme.

Dydw i ddim yn un i glochdar ond...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:22 ar 5 Awst 2009, ysgrifennodd Rhys:

    Dw i ddim yn siwr beth i'w wneud o'r polisi, ar un llaw, mae'n un holl wyrdd gan annog defnydd o'r bysiau, a thra roeddwn yn gweithio yn y cymoedd, roeddwn yn siarad a rhai pobl oed pensiwn a oedd yn mynd i rhywle gwahanol pob dydd am dro bach - ac yn siwr o fod yn gwario ar fwyd, siopa ayyb.

    Ond mae fy rhieni a pherthnasau yn byw yng nghefn gwlad, a byddai rhaid i ambell un ohonynt gerdded sawl milltir i'r arhosfan bws agosaf, a hyd yn oed wedi cyrraedd arhosfan bws tydy'r gwasaneth ddim yn un cyflawn iawn wedyn.

    Mae'n ymddangos nad ydy'r manteision yr un fath i bawb. Sut yn union mae'n cael ei ariannu yng Nghymru?

    Mae'n ymddangos bod y sutem ariannu yn Lloegr yn cosbi'r mannau sydd a'r cysylltiadau bysiau gorau (mannau 'hub') ond sydd ddim efallai'n gweld y manteision o gael pobl gwario'n lleol. Roedd erthygl yn y Guardian dydd Sadwrn yn sôn sut roedd Cyngor Tref Preston yn gorfod dod o hyd i arbedion o £1m+ gan bod pobl yn newid bysiau yn y dref i gyrraedd llefydd fel Blackpool.

    Ble bynnag mae person yn dechrau pob siwrnai sy'n gorfod talu. Ydy o'n wahanol yng Nghymru?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.