Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bydded eich ie yn ie...

Vaughan Roderick | 12:59, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

gemaugeiriau.jpg Mae 'na rym mewn geiriau. Mae newid ambell i air yn gallu newid y ffordd y mae dyn yn meddwl am bethau neu'r ffordd y mae pethau'n cael eu gweld. Dyma i chi ddwy enghraifft o'm myd bach i.

Rhyw bymtheg mlynedd yn ôl penderfynodd Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru roi'r gorau i ddefnyddio'r term "principality" wrth gyfeirio at Gymru. "Gwlad" oedd Cymru yn y Gymraeg ac fe benderfynwyd mai "country" ddylai hi fod yn Saesneg.

Roedd 'na sawl rheswm dros y newid. Roedd y term yn hen-ffasiwn braidd ac yn un oedd yn amhoblogaidd ymhlith carfan o wylwyr a gwrandawyr. Yn ogystal roedd ambell i bedant, fel fi, yn mynnu bod galw Cymru yn "principality" yn ffeithiol anghywir gan mai dim ond hanner hen siroedd Cymru oedd yn rhan o'r dywysogaeth yn y lle cyntaf. Ta beth, erbyn hyn mae'r term "principality" mwy neu lai wedi diflannu ar lafar gwlad hefyd.

Roedd 'na adeg pan oedd carfan o'r di-gymraeg yn gwadu bod Cymru'n wlad o gwbl. Dyw'r ddadl honno ddim yn cael ei chlywed bellach. Wedi'r cyfan, os nad yw Cymru yn "principality" a chan fod neb yn honni ei bod hi'n "region" nac yn "province" beth arall ond "country" sydd ar ôl?

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach penderfynwyd hepgor y term "England and Wales" hefyd. Roedd ein rhesymeg yn ddigon syml. Gan ein bod yn darlledu i Gymru, Cymru ddylai ddod yn gyntaf. Roedd y term "Wales and England" yn swnio'n rhyfedd ar y naw i ddechrau ond mae wedi ennill ei blwyf erbyn hyn. Mae'r newid wedi cael effaith, yn fy marn i, ar y ffordd y mae pobol yn gweld y berthynas rhwng y ddwy wlad gan awgrymu ei bod hi'n un gyfartal, nad rhyw ôl-nodyn eilradd i Loegr yw Cymru.

Mae rhai o'n gwleidyddion yn deall cymaint yw grym geiriau. Meddyliwch am effaith arddel yr enw "New Labour" neu'r triciau mae Plaid Cymru wedi cyflawni gyda'u "Party of Wales" a "Plaid". Mae hyd yn oed y dasg fach syml o ychwanegu'r gair "Welsh" o flaen "Conservatives" wedi hela neges pur effeithiol at yr etholwyr.

Yn y cyfamser mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru/Welsh Liberal Democrats wedi glynu at eu Llanfairpwllgwyngyll o enw a'u alphabetty spaghetty o logo. Leighton Andrews sydd ar fai. Pan unodd y Rhyddfrydwyr a'r SDP y "Democratiaid" oedd yr enw i fod. Araith danbaid gan Leighton oedd gyfrifol am ychwanegu'r ansoddair. Ydw Leighton, rwy'n cofio.

Ta beth fe wnes i awgrymu wrth Kirsty Williams beth amser yn ôl y dylai'r blaid Gymreig ystyried newid ei henw. Mae'r un presennol yn glogyrnaidd a gweddol ddiystyr ac fe fyddai cael enw gwahanol i'r blaid ffederal yn tanlinellu fod gan y blaid Gymreig ei hawliau, hanes a chymeriad unigryw ei hun.

Pa enw dylai'r blaid ei harddel? Wel byswn i'n argymell dilyn cyngor Iago (5.12) "Bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn nage" hynny yw galwch eich hun yr hyn ydych chi. Yn yr achos yma mae hynny'n golygu "Rhyddfrydwyr Cymru/ Welsh Liberals".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:02 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Roedd 'na adeg pan oedd carfan o'r di-gymraeg yn gwadu bod Cymru'n wlad o gwbl. Dyw'r ddadl honno ddim yn cael ei chlywed bellach"

    ...Heblaw ar flog Betsan wrth gwrs !!!

  • 2. Am 14:21 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd SianSleiBach:

    Rhyddfrydol eu barn? Megis hyn:

    Gormesol ddywedwn i.

  • 3. Am 14:31 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Does neb yn honni taw 'region' yw Cymru? Nag yn defnyddio'r hen 'Brincipality'? Mae'n amlwg dy fod ti wedi gwneud penderfyniad call i beidio a darllen y sylwadau ar flog Betsan, felly!

    Eto i gyd, mae'n ffaith taw ychydig iawn sydd erbyn hyn yn defnyddio'r ieithwedd Ymeradraethol / Fictorianaidd tu fas i'r Blog..

    Diddorol, o ystyried pwer geiriau, yw llwyddiant DET (Rhaid taw fe oedd e! Am wleidydd craf, ta beth 'ych chi'n meddwl am ei syniadau!) i arddel yr enw 'Senedd' ar siambr y Cynulliad. Diddorol bydd gwylio unrhyw ddatblygiadau pellach yn enw'r Cynulliad dros y blynyddoedd a ddaw...

  • 4. Am 18:22 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd dai7900:

    Os wyt ti'n edrych ar flog Betsan Powys...fe wele di bod y di Gymraeg sydd yn gwadu bod Cymru'n genedl yn bodoli ac yn swynllyd o hyd

  • 5. Am 20:45 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd Deio:

    A elli di cael gair gyda Phil Stell a Roy Noble gan fod y ddau wedi bod wrthi'n defnyddio'r term cyfoglyd 'na yn y misoedd diwethaf. Diolch. ;-)

  • 6. Am 21:26 ar 20 Awst 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae pobol yn cael eu hatgoffa o bryd i gilydd ond fe wna i gael gair!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.