Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Erfyn ar Elfyn

Vaughan Roderick | 19:14, Dydd Mercher, 16 Medi 2009

elfynllwyd226.jpgClod lle mae'n ddyledus! Mae gan Golwg360 wedi ei seilio ar eitem yn y cylchgrawn. Dyma mae'n awgrymu ;

"Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yw'r diweddara' i ddweud ei fod am geisio bod yn Aelod Cynulliad. Mae Elfyn Llwyd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg "nad ydi hi ddim yn amhosib" y bydd yng Nghaerdydd cyn hir - "o fewn dwy neu dair blynedd"

Beth mae hynny'n ei olygu, tybed? Ydy Elfyn a'i lygaid ar Ddwyfor-Meirionnydd? Os felly beth am Dafydd Elis Thomas? Mae Llais Gwynedd am ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth yn ystod yr wythnosau nesaf. Gwilym Euros yw'r dewis amlwg, byswn i'n tybio, ond a fyddai'r grŵp hwnnw yn sefyll yn erbyn Elfyn? Wedi'r cyfan doedd e ddim yn un o ffans mwyaf Cyngor Gwynedd yn ystod yr helynt ysgolion.

Gallai Elfyn wrth gwrs anelu am sedd ar restr y Gogledd. Rwyf wedi nodi o'r blaen nad oes sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill sedd restr yn y rhanbarth honno yn 2011. Ar y llaw does gan Elfyn ddim byd i golli.

Lot o gwestiynau felly. Fe wnawn ni geisio taflu mwy o oleuni ar bethau yfory! Diddorol. Da iawn, Golwg.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:31 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd Dyfrig Jones:

    Trefnodd Barn sesiwn holi yn yr Eisteddfod, rhwng Vaughan Hughes ac Elfyn Llwyd - ac fe soniodd Elfyn am symyd i Gaerdydd bryd hynny. Gresyn na fyddai John Stevenson wedi bod yn gwrando yn fwy astud bryd hynny, neu efallai byddai'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi "sgwpio" Golwg.

  • 2. Am 23:34 ar 16 Medi 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Dyna ydi peltan!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.