Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wythnos yng Nghymru na fu

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Llun, 21 Medi 2009

200px-Islwyn_Ffowc_Elis.jpgDoes dim dwywaith yn fy meddwl i mae'r nofel fwyaf dylanwadol yn hanes gwleidyddol Cymru yw "" llyfr sydd yn bropaganda effeithiol oherwydd ei fod yn gythraul o stori dda ac yn waith llenyddol go iawn. Mae cymhellion gwleidyddol y llyfr yn amlwg o'r ffaith mai Plaid Cymru wnaeth ei gyhoeddi yn 1957. Ei werth llenyddol a'i stori afaelgar sy'n gyfrifol am y ffaith ei fod dal mewn print dros hanner canrif yn ddiweddarach.

Yr hyn sy'n rhyfedd am "Wythnos yng Nghymru Fydd" yw nad oes neb bron yn cofio Iwtopia'r Gymru Rydd y mae Ifan Powell yn glanio ynddi ar ei daith gyntaf i'r dyfodol. Yr hyn sy'n aros yn y cof yw cymdeithas hunllefus "Western England" sy'n cael ei phortreadu mewn ychydig o benodau byrion ar ddiwedd y llyfr.

Gallwn fod yn weddol sicr y bydd Cymru 2033 yn debycach i fyd Mair Llywarch nac un hen wraig y Bala. Mae hynny oherwydd yr hyn ddigwyddodd ar Fedi 18fed 1997 pan bleidleisiodd Cymru o drwch blewyn o blaid datganoli. Ond beth pe bai'r bleidlais ychydig yn wahanol a'r cynnig wedi ei drechu o ychydig filoedd? Sut le fyddai Cymru heddiw? Dydw i ddim yn meddu ar ddychymyg na dawn lenyddol Islwyn Ffowc ond dwi'n fodlon rhoi cynnig arni!

Rhodri.gifYn gyntaf yn lle ymddeol a'i le yn y llyfrau hanes yn ddiogel fe fyddai Rhodri Morgan wedi treulio degawd ar feinciau cefn San Steffan. Mae'n bosib y byddai wedi ei ddyrchafu'n gadeirydd pwyllgor ond pobol fel Alun Michael a Paul Murphy byddai'n llywodraethu Cymru o Barc Cathays. Heb fandad annibynnol mae'n debyg y byddai eu polisïau yn ddigon tebyg i rai Lloegr. Dim presgripsiynau am ddim, dim cyfnod cychwynnol a dim dwr coch claear. Yn eu lle cytundebau PFI, academis a "foundation hospitals".

triban_logo200.jpgO safbwynt y pleidiau eraill mae'n debyg y byddai Plaid Cymru yn perthyn i'r cyrion. Gyda'r syniad o ddatblygiad cyfansoddiadol "cam wrth gam" wedi methu mae'n debyg y byddai'r blaid yn cyflwyno neges mwy digyfaddawd gyda fawr ddim apêl y tu allan i lond dwrn o etholaethau. Mae'n ddigon posib hefyd y byddai 'na lawer mwy o dor-cyfraith gwleidyddol gan fudiadau iaith ac o bosib fe fyddai grwpiau terfysg wedi ymddangos fel gwnaeth ddigwydd yn sgil refferendwm 1979.

ceidwadwyr.jpgOnd nid Plaid Cymru fyddai'r unig blaid ar ei chefn. Heb beiriant cynnal bywyd y Cynulliad fe fyddai wedi bod yn llawer mwy anodd i'r Ceidwadwyr ail-adeiladu yn sgil trychineb colli pob sedd yng Nghymru yn 1997. Mae'n ddigon posib felly mai plaid y cyrion fyddai'r Ceidwadwyr hefyd. Yn sicr mae'n anodd credu y gallai plaid oedd heb ei gymreigio apelio i'r un graddau a mae'r Ceidwadwyr yn gwneud ar hyn o bryd.

Mae'n bosib wrth gwrs y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llenwi'r gwagle gwleidyddol gan ddatblygu i fod yn brif wrthblaid Cymru. Ta beth am hynny, mae'n anodd osgoi'r casgliad mai canlyniad pleidlais "na" yn 1997 fyddai parhad yr hegemoni Llafur yng Nghymru am ddegawdau.

Yn hynny o beth mae'n bosib dadlau mai buddugoliaeth Medi 1997 oedd y peth gwaethaf i ddigwydd i Lafur yng Nghymru yn ei holl hanes.

Gyda llaw gan ein bod ni'n siarad am ffrwyth dychymyg dyna yn union yw cred rhai o aelodau Plaid Cymru mai Rhodri Glyn Thomas oedd ffynhonnell y stori ynghylch Adam Price ddydd Gwener.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:04 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Rhagorol Vaughan - pob tri mis ti'n cyhoeddi rhywbeth deche wyddost...

  • 2. Am 13:31 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Ta beth am hynny, mae'n anodd osgoi'r casgliad mai canlyniad pleidlais "na" yn 1997 fyddai parhad yr hegemoni Llafur yng Nghymru am ddegawdau."

    Er bod y syniad yn ddeniadol mae'n osgoi ffenomenon cyn bwysiced. Mae unrhyw ddadansoddiad ar ddirywiad hegemoni Llafur sy'n osgoi effaith tranc y diwydiant glofaol yn anghyflawn os nad yn wallus.

  • 3. Am 13:49 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn sicr mae hynny'n wir. Gweler y post "Cwmgors, Daren a Garth Tonmawr" yn ol ym Mis Mehefin lle rwy'n trafod yr union beth. Serch hynny rwy'n meddwl bod datganoli wedi cyflymu'r broses yn aruthrol

  • 4. Am 14:18 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd dai7900:

    Cytuno, ond mae'r syniadau a welir a blog Betsan Powys yn agosach at y fersiwn dystopaidd o Gymru.

  • 5. Am 14:53 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n cymryd mai sylwadau yn hytrach na syniadau wyt ti'n eu golygu. Rwy'n cadw draw o'r fan dywyll honno!

  • 6. Am 15:12 ar 21 Medi 2009, ysgrifennodd Hendre:

    Ond heb ddatganoli tybed a fydden ni wedi gweld mwy o Lafuriaeth Blaenau Gwent, a Ron Davies yn arwain Plaid Lafur Annibynnol Cymru?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.