Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dilyn yr arth...

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Logo_Plant_Mewn_Angen_1985.pngDydw i ddim yn credu bod y peth wedi 'sgwennu lawr ond mae 'na ryw fath o reol yn y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú bod yn rhaid i bawb wneud rhywbeth dros "Plant Mewn Angen" neu o leiaf crybwyll y peth.

Dyw hynny ddim yn hawdd i mi. Mae gen i falais personol yn erbyn yr arth byth ers i benwythnos yr apêl gyd-fynd a chwymp Margaret Thatcher yn 1990. Y rhaglen fwyaf trychinebus i mi gymryd rhan ynddi erioed oedd un ar S4C y penwythnos hwnnw. Trafod y sefyllfa wleidyddol oeddwn i ond yr arth oedd y flaenoriaeth i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac roedd y twmffat melyn wedi bachu'r holl adnoddau. Cwymp un o ffigyrau mawr yr ugeinfed ganrif? Beth oedd hynny i gymharu â dyn yn ymdrochi mewn cwstard yn Abergeirw?

Sut mae trafod Pudsey heb ffrwydro? Beth am edrych ar etholaeth Pudsey yn Swydd Efrog sedd y mae'r Ceidwadwr o Fôn, Stuart Andrew yn gobeithio ei hennill?

Mae gan Stuart siawns go dda mewn gwirionedd. Gogwydd o 5.45% sydd ei hangen ar bapur ond rwy'n tybio bod y sedd yn fwy addawol na hynny mewn gwirionedd gan ei bod yn "sedd Geidwadol naturiol" tan 1997.

Os ydy Stuart yn llwyddo fe fydd e'n aelod o glwb bach dethol o siaradwyr Cymraeg sydd wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru yn San Steffan. Roedd rhai o rheiny yn Gymry naturiol fel (South Ayrshire) a (Cannock) tra bod eraill fel (Berwick) ac (Wolverhampton a Down South) wedi dysgu'r iaith.

Roedd ambell i wleidydd annisgwyl hefyd a rhywfaint o Gymraeg. Fe wnâi ddim enwi'r aelod Cymreig anffodus wnaeth ddysgu bodyn deall Cymraeg ar ôl cyfeirio ati dan ei anadl fel "hen ast wirion"!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:10 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Tomos Livingstone:

    Paid anghofio'r cyn-DJ penfelen Michael Fabricant (Lichfield) sy' wedi dysgu'r iaith hefyd.

  • 2. Am 12:45 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Reit - faint o aelodau seneddol Cymraeg eu hiaith tu fas i Cymru sy wedi bod erioed? Cwis o'r diwedd...

  • 3. Am 13:01 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd dewi:

    Gwilym Lloyd George tra'n aelod yn Newcastle

  • 4. Am 13:02 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Oedd gan Merlyn Rees unrhyw Gymraeg?

  • 5. Am 13:48 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dwi ddim yn siwr am Merlin rees. Mae Peter Thomas (Hendon) yn dod i'r cof

  • 6. Am 14:22 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Ydw i'n iawn i feddwl bod yr aelod a sarhaodd y Fonesig Elaine wedi cyfeirio at y digwyddiad yn un o'i gyfrol o hunanfywgraffiadau??

  • 7. Am 14:38 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Bosib iawn! Dydw i ddim am eu hail-ddarllen nhw!

  • 8. Am 14:54 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ydy Billy Hughes yn cyfri?

  • 9. Am 19:27 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    £10 i Blant mewn Angen os wnei di ddatgelu'r enw !!

  • 10. Am 19:36 ar 19 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gofynna i'r Hogyn- mae'n weddol amlwg o'i sylw! Dydw i ddim yn sicr fy mod wedi cael y rheg yn gwbl gywir!

  • 11. Am 08:34 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n meddwl mai rhywbeth hyd y llinellau "be uffar mae hon yn siarad am" oedd y llinell yn hytrach nag "hen ast wirion" - ond dwinna chwaith ddim am ail-ddarllen jyst er mwyn ffendio allan!

  • 12. Am 09:20 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd rhys:

    Ma Pudsey bron mor ddrwg a'r syniad bydd hala 3 punt y mis i'r NSPCC yn rhoi pen ar cam drin blant..

    Rhys

  • 13. Am 23:18 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes angen i mi Ddal Ati i chwilio felly ?

  • 14. Am 14:31 ar 21 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Oce, fe wna i ildio. Dafydd Wigley oedd yr AS

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.