Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Croeso Christine

Vaughan Roderick | 13:56, Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2009

croeso.jpgMae gan Betsan bwynt da iawn ar ei blog ynghylch nifer yr aelodau cynulliad Llafur sy'n bwriadu ymddeol yn 2011. Gyda chyhoeddiad Andrew Davies mae'r cyfanswm bellach yn wyth, bron i draean yr aelodau presennol. Mae gan bob un ohonyn nhw eu rhesymau personol dros fynd ond mae'n anodd credu nad yw nifer yr ymddeoliadau hefyd yn dweud rhywbeth am gyflwr morâl o fewn y blaid.

Diddorol yw nodi nad yw'r un aelod o Blaid Cymru na'r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu gadael yn 2011 hyd yma er bod Alun Cairns a Janet Ryder yn ceisio am seddi seneddol.

Yn ogystal â phesimistiaeth mae 'na reswm arall am y nifer uchel o ymddeoliadau Llafur sydd eisoes wedi eu cyhoeddi. Dyw'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ddim wedi dechrau dewis ymgeiswyr cynulliad eto. Does dim pwysau ar aelodau fel Gareth Jones neu Brinle Williams i wneud penderfyniad felly.

Mae Llafur ar y llaw arall wrthi'n dewis yn barod. Mae plaid leol Andrew Davies yng Ngorllewin Abertawe, er enghraifft, yn cynnal cynhadledd ddewis ym Mis Ionawr. Un o'r rhesymau am y dewisiadau cynnar yw bod aelodau cynulliad am sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu cystadleuaeth gan gyn aelodau seneddol. Clywais fod un aelod cynulliad wedi dweud hyn am yr aelod seneddol sy'n cynrychioli'r un etholaeth "os ydy e'n colli ei sedd e dyw e ddim yn cael fy un i"!

Tra bod llwyth o aelodau cynulliad Lllafur am dorri allan o'r senedd mae'n ymddangos bod ambell i gyn-aelod yn ceisio torri yn ôl i mewn!

Yn ôl sibrydion y cyn aelod cynulliad Christine Gwyther yw'r ceffyl blaen i sefyll dros Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol. Does dim gobaith cath gan Lafur i ennill y sedd tro nesaf. Mae'n anodd osgoi'r casgliad felly mai adeiladu cefnogaeth o fewn y blaid yn y gobaith o gael lle ar restr y Gorllewin a'r Canolbarth y mae Christine. Wedi'r cyfan gydag Alun Davies wedi ei heglu hi am Flaenau Gwent mae 'na fwy o obaith iddi ddychwelyd fel aelod rhestr nac fel aelod etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:15 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd hedd:

    Yn Nwyrain neu Orllewin Caerfyrddin mae Christine yn golygu sefyll?

  • 2. Am 21:29 ar 3 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Mae Nick Ainger yn sefyll eto yn y Gorllewin- neu o leiaf dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.