Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y "Greatest". Am un noson yn unig.

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2009

2869661509_9ee0cca280.jpg

Dyma gwestiwn cwis bach i chi. Pwy sy'n rhedeg Cymru ar hyn o bryd?

Nid Rhodri Morgan. Mae fe wedi mynd. Nid Carwyn Jones ychwaith. Mae'n rhaid iddo fe ddisgwyl sêl bendith y Frenhines.

Mae gweinidogion Llywodraeth Rhodri yn parhau yn eu swyddi ond pwy sydd wrth y llyw? Pwy sydd yn y sedd fawr? Credwch neu beidio am y tro cyntaf yn ei hanes y "blaid fach" sydd mewn grym. Ieuan yw'r "Greatest"!

Nawr, efallai y bydd hynny'n dod gwen i wyneb Ieuan. Rwy'n tybio y bydd 'na wen hyd yn oed yn fwy ar wyneb Glyn Davies wrth ddarllen y stori yn y Daily Mail.

"Passengers on board a luxurious cruise ship were shocked to find Lib Dem Lembit Opik joining them at a time when Parliament was sitting... the MP for Montgomeryshire... has just got back from a trip around the Canary Islands on board Cunard's second largest ship, the Queen Victoria... Opik, 44, was given a free six-day trip, worth around £3,000, in exchange for giving two lectures to the 2,000-odd passengers."

Ond pam mae teithwyr yn talu cymaint i glywed safbwyntiau Lembit? Wedi'r cyfan, mae'n bosib eu canfod am ychydig geiniogau'n unig ar dudalennau'r Sbort!

I ddod a gwen i wyneb pawb fe fydd Elinor Burnham yn canu carol i ni ar CF99 heno. Cofich wylio! Fe fydd Cunard yn ei bachu hi o fewn byr o dro!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:31 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd ho ho!:

    ha! o lle ma'r llun 'na'n dod, vaughan??

    ma'n galw am gapshon competishon do's bosib??

    "the most recognized and loved man that ever lived ... meets muhammad ali"

  • 2. Am 17:33 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Sion:

    Am yr ail waith mae'r Blaid fach wrth y llyw dwi'n meddwl ia? Onid Ieuan oedd y bos pan oedd Rhodri'n sal ar ol yr holl straen o drio darbwyllo Hain a'i debyg am fanteision dod a'r Nashis i fewn i Lywodraeth Cymru?

  • 3. Am 20:01 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Rhywbeth arall i Ieuan bendroni ar ol ei gyfnod byr fel arweinydd y Cynulliad.
    Deall o ddarllen blog Betsan fod Trefor Jones wedi sefyll i lawr fel ymgeisydd y ceidwadwyr ym Mon. Dwi ddim yn saff beth fydd goblygiadau hyn a phwy fydd yn elwa ? Fe fydd lot yn dibynnu ar ymgeisyddiaeth neu beidio Peter Rogers fe dybiaf ? Mae yn anodd darogan ond mae Mon yn driw i aelodau sefydledig felly fe allai fod o gymorth i Albert Owen. Diddorol.

  • 4. Am 20:02 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fel mae'n digwydd doedd Llywodraeth Cymru'n un ddim eto wedi ei ffurfio'n swyddogol yn ystod y cyfnod (gweddol byr) yr oedd Rhodri allan ohoni. Jane Hutt oedd wrth y llyw ond am rhyw reswm does neb byth yn credu hynny!

  • 5. Am 20:04 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cafodd y llun ei dynnu yn ystod ymweliad IWJ a Chwpan Ryder yn Georgia (UDA). Roedd Ieuan yn ceisio perswadio Alis i sefyll fel ymgeisydd rhestr..neu rywbeth!

  • 6. Am 20:49 ar 9 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Mae Ieuan yn edrych yn gawr yn y llun yna ond un bach yw e ond te fe? Rhaid bod y cawr - Ali wedi dirwyio'n gorfforol. Trueni mawr.

  • 7. Am 10:09 ar 10 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Gwerinwr o Gymro:

    A dweud y gwir, Vaughan, roeddwn yn credu fod gan Elinor Burnham lais swynol, ac roedd yn berfformiad graenus ganddi. Da iawn hi. Mae cael gwleidydd i ganu carol ar ddiwedd rhaglen trafod materion gwleidyddol Cymreig yn dangos ein bod ni'n genedl gwbl wahanol i'r Saeson. Rydym yn debycach i'r Gwyddelod yn hyn o beth. Onid yw'r Taoiseach, Brian Cowan, yntau hefyd yn gantor, ac yn hoff o daro nodyn weithiau?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.