Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Batiad Cyntaf

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Iau, 18 Chwefror 2010

Bant a ni felly. Mae'n bryd i ni hel ein paciau ar gyfer yr ail o'r cynadleddau gwanwyn er nad oes rhaid i ni fynd yn bell iawn y tro hwn.

Diawch, mae cynhadleddau'n cael eu cynnal mewn llefydd swanc y dyddiau hyn! Dyna ni yn Theatr y Grand i'r Democratiaid Rhyddfrydol bythefnos yn ôl a Stadiwm Swalec sy'n croesawi Plaid Cymru'r penwythnos yma. Mae'n ymddangos bod y dyddiau pan oedd y pleidiau'n mentro i lefydd fel Bedwas, Tymbl neu Glydach wedi hen darfod!

Mae pawb yn y byd gwleidyddol ar bigau drain wrth gwrs yn disgwyl yr etholiad cyffredinol ac mae 'na un arwydd bach o obaith i Lafur heddiw. Mewn isetholiad cyngor ym Mhen-y-bont llwyddodd Llafur i gipio sedd yn ward Pendre o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Saith pleidlais yn unig oedd y mwyafrif Llafur- union yr un mwyafrif ac un y Democratiaid Rhyddfrydol y tro diwethaf!

Mae'r canlyniad yn golygu bod Llafur bellach ac union hanner y seddi ar Gyngor Pen-y-bont- un o ddim ond tri chyngor y mae'r blaid yn ei harwain yng Nghymru. Mae'n werth nodi bod ward Pendre yn etholaeth Peny-y-bont ei hun sedd lle mae gan y Ceidwadwyr obeithion. Fe fydd yn rhaid i'r Toriaid wneud yn well er mwyn ei chipio!

Dyma'r canlyniad llawn;

Llafur 200, Dem Rhydd 193, Ann 68, Ceid. 60, Plaid Cymru 25.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:57 ar 19 Chwefror 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    A ydw i'n iawn i synhwyro nad ydi popeth yn edrych cweit mor addawol i'r Toriaid erbyn hyn? Tydw i ddim yn honni fod pethau wedi mynd oddi ar y rêls yn llwyr, ond does dim rhyw fomentwm o'u plaid i'w deimlo bellach. Ac mae'r drefn yn mynd i'w gwneud hi'n anodd iawn iddyn nhw gael mwyafrif beth bynnag. Yn bersonol, dwi'n tueddu i feddwl fod George Osbourne yn faen am wddw Cameron.

    Ella fod Ieuan Wyn yn llygad ei le...

  • 2. Am 06:30 ar 20 Chwefror 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Wedi bod yn dilyn canlyniadau lleol dros y misoedd. Mae yna newid o blaid Llafur wedi digwydd yn ddiwedar:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.