Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Doethineb Solomon

Vaughan Roderick | 10:35, Dydd Iau, 18 Mawrth 2010

solomon_judge.jpgYmhlith cynyrchiadau llai amlwg uned wleidyddol Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru mae'n rhaglenni byw o'r Cynadleddau Cymreig. Maen nhw'n sbort i wneud ac mae 'na fwy o bobol yn gwylio na fyddech chi'n meddwl. Dyw'r cynulleidfaoedd ddim cystal â "Cash in the attic" neu "Murder She Wrote" ond mae 'na griw go lew o bobol sy'n dewis treulio'u prynhawniau yn dilyn digwyddiadau yn Venue Cymru, y Brangwyn neu le bynnag.

Mae hanes y darllediadau yma'n ddiddorol. Yn ôl ar ddechrau'r wythdegau fe wnaeth Plaid Cymru gwyno bod y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac S4C yn darlledu'n fyw o gynhadleddau "cenedlaethol" (h.y Prydeinig) y pleidiau eraill ond nid o'i chynhadledd "genedlaethol" hi. O ganlyniad i hynny dechreuwyd darlledu'n fyw o gynhadledd Plaid Cymru.

O fewn byr o dro daeth cwynion gan y pleidiau eraill yn dadlau bod hi'n annheg ein bod ni'n darlledu o un gynhadledd "Gymreig" ond nid o'r lleill.

Hanfod y broblem wrth gwrs oedd bod cynhadledd Plaid Cymru yn un "genedlaethol" ond hefyd yn un "Gymreig". Ar ôl hir drafod cytunwyd ar gyfaddawd. Fe fyddai 'na ddarllediadau o'r cynadleddau "Cymreig" i gyd gan glustnodi cynhadledd wanwyn Plaid Cymru fel ei chynhadledd "Gymreig". Ar yr un pryd fe fyddai na ddarllediadau o'r pedair cynhadledd "genedlaethol" gan gynnwys cynhadledd hydref Plaid Cymru.

Mae'r drefn honno wedi para am ddeng mlynedd ar hugain heb unrhyw gwynion ond mae'n enghraifft o'r fath o artaith resymegol sydd angen er mwyn ceisio sicrhau cydbwysedd gwleidyddol yng Nghymru o fewn gwladwriaeth a chyfundrefn ddarlledu Prydain gyfan.

Mae'n debyg eich bod wedi synhwyro erbyn hyn fy mod am drafod ychydig ar y dadleuon rhwng arweinwyr y pleidiau fydd yn cael eu darlledu rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol. Mae'r trefniadau sydd wedi eu gwneud i gyd yn hysbys ac mae trafodaethau a'r pleidiau'n parhau. Dydw i ddim yn rhan o'r trafodaethau hynny.

Y cyfan ddwedaf i yw hyn. Does 'na ddim ateb "cywir" i'r pethau yma. Chwilio am yr ateb gorau posib mae'r darlledwyr.

Dyw cwynion Plaid Cymru ddim yn ddi-sail. Mae'n ddigon posib dadlau, er enghraifft, nad oes gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol siawns go iawn o fod yn brif weinidog ac y gallai'r penderfyniad i gynnwys Nick Clegg yn y rhaglenni ddylanwadu ar y canlyniad yng Ngheredigion.

Ar y llaw arall a fyddai'n deg torri plaid wnaeth ennill chwe miliwn o bleidleisiau yn 2005 allan o'r ddadl?

Ar ddiwedd y dydd dyw tegwch llwyr a phlesio pawb ddim yn bosib. Yn eu calonnau rwy'n meddwl bod arweinwyr Plaid Cymru yn gwybod hynny. Ar y llaw arall dydw i ddim yn beio nhw am geisio sicrhau'r del gorau posib!

Rwy'n falch bod rhyw Solomon yn rhyw le yn penderfynu'r pethau 'ma! Byswn i ddim yn hoffi gwneud!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.