Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw mewn gobaith

Vaughan Roderick | 12:51, Dydd Mawrth, 6 Ebrill 2010

_45181419_-5.jpgAm wn i mae optimistiaeth yn hanfodol i unrhyw un sy'n ymhel a gwleidyddiaeth. Os nad ydych chi'n un o'r creaduriaid prin hynny sy'n credu bod "gweithio dros yr achos" yn wobr ynddi ei hun mae'n rhaid credu mewn buddugoliaeth. Os nid yn fama, yn rhywle. Os nid y tro hwn, y tro nesaf.

Mae angen cyplysu'r optimistiaeth a realiti wrth gwrs. Does dim byd yn fwy sicr o gael eu chwalu 'na gobeithion di-sail.

Fe wnaeth ffrind i mi yn Awstralia, sy'n hen ben ar wleidydda, fathu'r term "first-time candidate syndrome" i ddisgrifio'r ffaith bod ymgeiswyr sy'n sefyll am y tro cyntaf bron yn ddieithriad yn argyhoeddedig eu bod am ennill erbyn diwrnod yr etholiad.

Roedd fy nghyfaill yn mynd allan o'i ffordd i sicrhau bod traed yr ymgeiswyr hynny'n dychwelyd i'r ddaear. Roedd angen byrstio swigen gobeithion yr ymgeisydd tro cyntaf neu fe fyddai fe neu hi fyth bythoedd yn dychwelyd am ail ymdrech.

Sut mae barnu'r geiriau yma o eiddo Kirsty Williams, felly?

"Each election, the Liberal Democrats gain more and more ground. In the last election, 1 in 4 people voted Liberal Democrat in Britain. If that increases to 1 in 3, the Lib Dems can lead the next government and we will deliver the change that works for Wales."

Rwy'n cymryd mai at etholiadau seneddol y mae Kirsty'n cyfeirio. Wedi'r cyfan dyw plaid y 6-6-6 ddim wedi ennill llawer o dir yn y Cynulliad!

Am wn i mae'r honiad y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol arwain y llywodraeth pe bai'r blaid yn ennill traean o'r pleidleisiau yn gywir ond oes unrhyw un yn digwyl i hynny ddigwydd mewn gwirionedd?

Mae un o ddau beth yn gallu digwydd gyda datganiadau fel yr un yma. Naill ai mae pobol yn gwrthod eu credu gan danseilio hygrededd y gwleidydd perthnasol neu mae pobol yn llyncu'r peth gan olygu bod hyd yn oed canlyniad clodwiw yn ymddangos yn siomedig.

Mae angen cyffroi'r trwps, wrth gwrs ond gallai gosod amcanion na ellir eu cyflawni brofi'n ffolineb.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:36 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Hmmm - un bersonol credaf bo presenoldeb y Rhydd. Dems yn y dadlau ar y teledu yn ffactor arbennig o bwysig. Os nad yw Clegg yn gwned rhywbeth gwirion rwy'n darogan hwb o 5% neu fwy iddynt.....dyna sy'n tanlinellu anhegrwydd amdenoldeb y Blaid o'r dadlau....

  • 2. Am 14:38 ar 6 Ebrill 2010, ysgrifennodd Huw:

    Mae'r cynyddiad o 1 o 4 i 1 o 3 yn debycach i raddfa logariddm. Nid gwahaniaeth o un, ond ffactor o ddeg!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.