Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Argraffiadau- Ceredigion

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Llun, 12 Ebrill 2010

Am y tro cyntaf, yn yr etholiad hwn mae gan Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru gohebwyr llawn-amser mewn rhai o'r etholaethau mwyaf diddorol. Fe fydd eu hargraffiadau'n ymddangos ar y blog o bryd i gilydd. Fe wnawn ni gychwyn yng Ngheredigion gydag Owain Clarke.

owain.jpgOs ydych chi am ddianc rhag yr etholiad, dyma gyngor caredig.

Peidiwch drefnu trip glan môr i Geredigion.

Prin yw'r llefydd sy'n fwy dymunol yn heulwen mis Ebrill ond o ran bwrlwm a chyffro etholiadol - does unman yn fy marn i yn gallu cystadlu ag etholaeth y Cardis.

Pan deithiais i yn y car o un pen o'r etholaeth i'r llall wythnos yn ôl - oriau'n unig cyn i Gordon Brown danio gwn yr etholiad - fe gyfrais i hanner dwsin o bosteri ar ochr yr hewl.
Wrth ddychwelyd tridiau yn ddiweddarach fe golles i gownt ar ôl cyrraedd 80!

Ond peidiwch a meddwl taw etholaeth amryliw yw hon. Ar wahan i ambell ddarn o gardfwrdd coch a glas mewn pocedi - yr unig liwiau welwch chi yw gwyrdd ac oren. Dyma'r unig etholaeth ymylol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amddiffyn mwyafrif o 218 pleidlais yn unig. Hon, gyda llaw, yw'r unig etholaeth yng Nghymru a Lloegr lle nad oes gan Lafur na'r Ceidwadwyr obaith caneri o ennill.

Mae'r dadlau ynghylch yr holl bosteri wedi dechrau'n barod. Smo fi moyn eich diflasu chi'n ormodol ond dyma i chi flas o'r cecri.

Plaid Cymru - cyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o ddinistrio coed yn yr etholaeth ar ôl hoelio'u posteri i'r pren.

Y Democratiaid Rhyddfrydol - mynnu ei bod nhw wedi cael caniatâd perchennog pob coeden - a bod ambell ffarmwr yn cwyno bod posteri Plaid wedi ymddangos heb ganiatâd.

Y Ceidwadwyr- galw ar y Cyngor Sir i gael gwared ar tua 20% o'r posteri mae'r Toried yn dadle sy'n anghyfreithlon.

Llafur- cwyno bod dim digon o arian gyda nhw i gystadlu a'r lleill. Yng ngeiriau'r ymgeisydd "does gyda ni ddim coed Llafur yng Ngheredigion... ond mae 'da ni ffens"!

Pwy sydd a'u trwynau ar y blaen? Gwelaf ffens. Eisteddaf arni!

Rhagor gan Owain ar CF99 Nos Fercher.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:18 ar 12 Ebrill 2010, ysgrifennodd DORIS:

    Mae plastro posteri yn arferiad yng Ngheredigion.

    Elystan Morgan ddwedodd nol yn 1970 . . . "Petai gan bob postyn telegraff bleidlais mi fyddai'n gyhaeaf rhedyn arnai." Yn 1974 y cynhaeafwyd Elystan.

  • 2. Am 21:00 ar 12 Ebrill 2010, ysgrifennodd Meurig:

    Y Lib Dems yn mynnu eu bod wedi cael caniatad perchennog pob coeden, myn brain i.
    Perchennog hanner y coed dan sylw yw Cyngor Sir Ceredigion, ac mi gafodd pob plaid gerydd swyddogol i dynnu'r cyfriw bosteri lawr neu gael eu bilio am gost eu dinistrio ddiwedd wythnos diwetha. Mae amryw ffordd yn dechrau edrych yn llai oren erbyn hyn.

  • 3. Am 05:35 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Hon, gyda llaw, yw'r unig etholaeth yng Nghymru a Lloegr lle nad oes gan Lafur na'r Ceidwadwyr obaith caneri o ennill.

    Twt lol botas! Be am ei chymydog Dwyfor Meirion? Be di gobeithion y naill na'r llall acw?

  • 4. Am 09:01 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Elin:

    Falle nad hwn yw'r lle i wneud y sylw yma, ond wedi'r cwbl post am Geredigion yw hwn. On i'n methu credu pan wylies i Wales Today o Aberaeron neithiwr. A oedd UNRHYW un o'r rhai holwyd yn y clwb hwylio yn gynrychioliadol o'r etholaeth? Heblaw am adnabod y tai amryliw allen i feddwl bo fi'n gwylio rhaglen o rywle fel Southampton.

  • 5. Am 09:27 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt teg. Roedd y gair "cystadeuol" wedi ei adael allan. Mae gan y DR seddi diogel hefyd, wrth gwrs.

  • 6. Am 09:40 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Elystan:

    Nage 219 o fwyafrif sydd gan Mark Williams, nid 218? Sori i hollti blew....

  • 7. Am 13:06 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd David Walters:

    Pan glywais i byddai Wales Today yn y "Yacht Club" yn Aberaeron, dyna'n union aeth drwy fy meddwl i. Does bosib bod 'na groesdoriad o bobl i'w cael yn fanna.

  • 8. Am 16:23 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Fe awgrymwn fod rhai ohonoch yng Ngheredigion yn gwneud cwyn swyddogol. Saeson yw 35-40% o etholwyr Ceredigion, ac mae'n deg fod eu llais yn cael ei glywed. Ond fe fyddwn yn tybio fod y ganran o Saeson a gyfwelwyd ddoe yn Aberaeron yn llawer, llawer uwch na hynny. A oedd pob un ohonynt yn breswylydd yng Nghymru? Aeth hynny trwy fy meddwl i hefyd.

    Dylai fod gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ryw fath o ymrywmiad statudol i gydraddoldeb a gwrth-hiliaeth yn hytrach na landio mewn etholaethau amlethnig, ymylol tu hwnt fel Ceredigion a chyfweld un rhan o'r gymuned yn unig, ac yna ddarlledu eu barn am "pension pots" ac ati am hanner awr ar deledu prime time. Beth ar wyneb daear oedd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn meddwl eu bod yn ei wneud?

    Dwi wedi sylwi fod agwedd y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú trwy gyfrwng y Saesneg yn hollol drefedigaethol o ran cyfweld pobl mewn ardaloedd Cymraeg. Bob tro mae rhyw vox pop neu'i gilydd yn cael ei wneud mewn cymunedau Cymraeg, mae nifer y Saeson sy'n cael eu cyfweld yn llawer, llawer uwch na nifer y Saeson sy'n preswylio yn y gymdogaeth. Unwaith eto, ble mae'r polisi cydraddoldeb? On'd oes gan newyddiadurwyr ryw ffurflenni gwrth-hiliaeth i'w llenwi? Yn mynd i Bwllheli heddiw, 80% yn Gymry, 20% yn Saeson - felly cyfweld 3 neu 4 Cymro, ac 1 Sais. 50% o'r boblogaeth yn ferched, 50% yn Saeson - felly cyfweld 2 ddyn a 2 ddynes. Dydi o ddim yn anodd!

  • 9. Am 21:09 ar 13 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae'n rhaid i mi gytuno hefo Simon yn fan hyn. Welais i mo'r rhaglen neithiwr, ond dwi wedi sylwi ar y tueddiad ers tro byd. Oes yna ganllawiau? Neu a oes yna agenda?

  • 10. Am 10:57 ar 19 Ebrill 2010, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Mae Seimon yn iawn, rwy'n siwr fod egni a pleidlais gref newydd y Dem Rhyddion yng Ngheredigion, er 2001 dyweder, yn bennaf wedi dod yn sgil gwladychwyr Seisnig sydd wedi ymddeol i Geredigion ac felly ddim yn ystyried pleidleisio i'r Blaid.

    Mae'n debyg bod hyn yn dod yn ffactor gynyddol yn Ynys Môn hefyd.

    Tybed mewn deg mlynedd a fydd hefyd yn dechrau effeithio ar y bleidlais ym Meirionydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.