Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Post Prynhawn

Vaughan Roderick | 17:29, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

yup.jpgMae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur! Rhyw bost wrth fynd heibio yw hwn felly i grynhoi ambell i stori.

Brwydr y taflenni oedd hanfod yr ymgiprys heddiw gyda'r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llafur o balu celwyddau ar y taflenni. Rhagor am hynny ar flog David a chewch ddarganfod pam y mae'r Democratiaid wedi bod yn chwarae doctyrs a nyrsys ar flog Betsan.

Cewch glywed Betsan a finnau'r cloriannu'r ymgyrch trwy wrando ar y podlediad sydd hefyd yn cynnwys rhifyn yr wythnos o "Dau o'r Bae". Paul Davies, Dafydd Trystan Mark Cole a Nia Griffith yw'r gwesteion.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:15 ar 24 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Cwestiwn sydd gennyf. Oes modd gael gwybodaeth am ddulliau samplo'r arolygon barn. Oes canllaw ar beth sydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol ac anerbyniol i'w gyhoeddi /ail adrodd ar y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. Efallai mai cyd-digwyddiad yw hyn ond mae llawer o'r arolygon barn sy'n cael eu comisiynu gan y wasg Doriaddd yn rhoi pleidlais uwch i'r Toriaid - maent fel arfer rhwng 1-3% yn uwch na'r arolgyon eraill. Gan bod margin of error o 3-5% maent o fewn ffiniau ond mae'n ddiddorol. Byddwn yn hoffi dadansoddi rhai o'r dulliau samplo.

  • 2. Am 09:03 ar 25 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yn cyhoeddi manylion y dechneg, y sampl ac yn bwysicaf oll y "weighting" (hy y broses o gymhwyso yr ystadegau crau er mwyn adlewyrchu yr etholwyr yn eu cyfanrwydd) ar eu gwefannau. Mae 'na ambell i gwmni sy ddim ac mae'r rheini yn tueddu cael eu diystyru. Mae canllawiau'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ar ein gwefan- yn rhywle! Y gwefan gorau y gwn i amdano am ddadansoddi anoracaidd yw "UK Polling Report" Mae 'na stwff da hefyd ar y gwefan Americanaidd

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.