Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y dyddiau olaf

Vaughan Roderick | 09:37, Dydd Llun, 3 Mai 2010

bucker_bbc_203.jpgMae un diwrnod yn llifo i'r nesaf yn ystod ymgyrch etholiad.

Gwnes i ddim sylwi mai Calan Mai oedd dydd Sadwrn a dim ond nawr rwy'n sylweddoli bod heddiw yn ŵyl y banc. Dyw'r rheiny ddim yn bodoli i mi yn ystod ymgyrch! Fel prawf o hynny rwy'n cyd-gadeirio dadl pedair plaid ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2 y prynhawn yma am 2.15. Hon yw'r ail o ddwy ddadl a'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2. Yr economi yw'r thema y tro hwn. Y cyfansoddiad oedd thema'r gyntaf. Gellir gweld honna yn fan hyn.

Yr unig hoe fach i mi gymryd yn ystod y dyddiau diwethaf oedd gwylio Abertawe yn boddi wrth y lan yn y bencampwriaeth. Dydw i ddim yn o feibion y Vetch ond dydw i ddim yn un o gefnogwyr cibddall Caerdydd chwaith. Roeddwn i'n gobeithio gweld y ddau dîm yn cyrraedd gemau'r ail gyfle ac ar ôl profiadau'r adar gleision y llynedd rwy'n gallu deall pa mor sâl i'w stumogau y mae cefnogwyr y Swans.

Ofni profiad tebyg o syrthio wrth y naid olaf mae'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd dybiwn i. Croesi bysedd a gobeithio am y gorau mae'r ddwy blaid arall.

Dyma gyfnod pan mae'r "play book" gwleidyddol i'w gweld ar ei fwyaf amlwg. Yn achos pleidiau sy'n gymharol hyderus edrych yn gwbl hyderus yw'r cyngor arferol. Dyna oedd Nick Clegg yn ceisio gwneud gyda'i honiad ynghylch "ras dau geffyl". Heddiw mae David Cameron wrthi yn y gan gyhoeddi y bydd e'n enwi ei gabinet ddydd Gwener a bod yr aelodau eisoes wedi derbyn rhestr o flaenoriaethau.

Mae'r ffin rhwng hyder, sy'n llesol i blaid, a "hubris", sy'n gallu bod yn ddamniol, yn aneglur weithiau. Amser a ddengys ar ba ochor i'r ffin y mae datganiadau'r ddau arweinydd.

A fydd honiadau Nick Clegg yn ymddangos yr un mor chwerthinllyd â honiadau'r Cynghrair ynghylch "torri mold gwleidyddiaeth Prydain"? A fydd "rhestr flaenoriaethau" David Cameron yn ennyn yr un ymateb a bloeddio Neil Kinnock yn rali Sheffield? Fe gawn weld.

Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth nodi bod y Times, sy'n cefnogi'r Ceidwadwyr, wedi newid y pennawd ar ei dudalen flaen rhwng rhifynnau'r bore 'ma. Yn ôl y "Cameron risks backlash with early talk of victory" oedd y pennawd yn y rhifynnau cynnar. "Cameron outlines plans for first days in power" sydd yn y rhifynnau hwyr.

A beth gall Llafur wneud yn ystod y dyddiau olaf yma? Y dacteg draddodiadol yw codi cythraul o fwgan gan honni mai dim ond hyn a hyn o oriau sydd ar ôl i osgoi trychineb.

"24 hours to save the Union" oedd cri John Major wrth lanio yn ei hofrennydd ar Ynys Môn. "Pedair awr ar hugain i achub y bunt" oedd cri William Hague. A fydd Llafur yn ceisio gwneud rhywbeth tebyg? Efallai.

Cofiwch, gwnaeth y dacteg fawr o les i Major na Hague a hyd y gwelaf i mae'r Undeb a'r bunt yma o hyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.