Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cawl Cennin

Vaughan Roderick | 14:24, Dydd Mercher, 5 Mai 2010

cawl2_203.jpgMae'n bryd i mi bostio un o'r darnau lob-scows yna heb unrhyw thema arbennig ond gydag ambell i lwyaid flasus, gobeithio. Mae croeso i chi adael y swêds yng ngwaelod y bowlen!

Fe fyddwn yn cau open y mwdwl ar yr ymgyrch yng Nghymru ar CF99 am 10 heno. Nia Griffith o'r Blaid Lafur, Alun Ffred Jones o Blaid Cymru, Myrddin Edwards o'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwr Paul Davies yw'r gwesteion.

Mae'r grŵp allbleidiol 'Cymru Gyntaf' wedi cynnal arolwg diddorol o agweddau ymgeiswyr seneddol tuag at gynyddu pwerau'r cynulliad. Mae'r canlyniadau yn.

Diolch i Roger Scully o adran wleidyddiaeth Aber am fy atgoffa am un ystadegyn pwysig sef 37.5%. Dyna oedd canran Llafur o'r bleidlais Gymreig yn 1983, yr isaf ers etholiad 1918. Fel mae Roger yn dweud "os ydy'r arolwg YouGov diweddaraf yn gywir..."

Mae sawl un wedi crybwyll pa mor drwsiadus oedd Huw Irranca, Dafydd Trystan a Ed Townsend ar ddadl Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2 ddydd Llun. Ffordd arall o ddweud nad oedd y Ceidwadwr Simon Hoare wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur yw hynny! Yn wir yng ngeiriau un gwyliwr roedd yn edrych fe pe bai "wedi benthyg dillad garddio Rhodri Morgan". Er tegwch i Simon mae 'na esboniad. Roedd y Ceidwadwr oedd i fod i ymddangos wedi anghofio popeth am y rhaglen ac fe dderbyniodd Simon alwad ar ei ffon symudol prin chwarter awr cyn y darllediad!

Ac yn olaf fe fyddaf yn blogio'n fyw o Stiwdio Un y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú o ddeg o'r gloch nos yfory. Fe fydd Betsan yn gwneud yr un peth o C1 cartref y rhaglen Saesneg. Fel yn 2005 ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú1 y bydd y rhaglen Gymreig gyda rhaglen rwydwaith David Dimbleby ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2. Y tro diwethaf fe ddewisodd y rhan fwyaf o wylwyr raglenni o Gaerdydd yn hytrach na Llundain. Sicrhau'r un patrwm yn ystod yr ymgyrch yw'r dasg nesaf!

Mae croeso i unrhyw un sydd yn bwriadu blogio'n fyw (neu drydar) yn Gymraeg dros nos adael sylwadau ar y post yma i adael i bobol wybod.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:37 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Pob lwc Vaughan.

    Difyr iawn oedd deall fod y mwyafrif wedi gwylio'r darllediad Cymreig y tro dwetha - gobeithio nad anwybodaeth fod DD ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú2 oedd yn gyfrifol am hynny!

    Dwi wir yn meddwl fod pethau wedi dod yn fwy difyr yn ystod y dyddiau dwetha yma - ond tydw i ddim yn mynd i ddarogan ynrhyw beth!

  • 2. Am 15:54 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Adam Jones:

    Gadael Sylwadau ymhle? a phryd fan hyn neu?

  • 3. Am 16:12 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ar y post hwn. Fe wna i hynny'n fwy eglur.

  • 4. Am 17:12 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd garmon:

    a yw'r rhaglenni 'ma ar gael ar y we i'r rheiny ohonon ni sy'n byw dramor - allai ddim diodde sky news drwy'r nos!

  • 5. Am 17:14 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Guto Dafydd:

    Dwi ddim yn gwybod pa mor aml fydda i'n gallu blogio, ond dwi'n gobeithio bod yn trydar yn weddol gyson ar

  • 6. Am 17:55 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Fydda hi hefyd yn blogio'n fyw Vaughan - er mi fydda i'n agor potel o win ar ryw bwynt felly alla i ddim addo sgwennu dim byd call ar ôl tua 1 y bora!

  • 7. Am 20:14 ar 5 Mai 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn meddwl bod y rhaglenni teledu ar gael ar y we heb ddefnyddio dulliau dichellgar. Fe fydd hi'n bosib gwrando ar raglen ganlyniadau Radio Cymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.