Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Problemau Pobl Plaid

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

question_mark_203_203x152.gifFe wnes i sgwennu yn gynharach yn yr wythnos ynghylch penderfyniad Peter Black i beidio ymgeisio am sedd etholaeth yn y cynulliad.

Fel mae'n digwydd yr wythnos hon mae nifer o aelodau Plaid Cymru yn wynebu penderfyniadau tebyg wrth i'r enwebiadau gau ar gyfer ymgeiswyr etholaethol. Fe fydd y dewisiadau rhanbarthol yn digwydd yn ddiweddarach.

Yr aelod sy'n wynebu'r dilema fwyaf, dybiwn i, yw Nerys Evans. Fe fyddai sefyll eto ar y rhestr ranbarthol yn golygu bod ei ffawd yn dibynnu ar hap a damwain y fathemateg etholiadol. Ar y llaw arall fe fyddai ceisio am y sedd etholaeth amlwg sef Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro mwy na thebyg yn golygu cystadlu yn erbyn John Dixon. Fe ddaeth e o fewn trwch blewyn i ennill y sedd yn 2007 cyn dioddef canlyniad sâl yn etholiad eleni. Yng ngeiriau un pleidiwr amlwg mae'r ffaith na fyddai John Dixon yn dal dig pe bai'n colli'r enwebiad ond yn gwneud y penderfyniad yn anoddach.

Mae sefyllfa Bethan Jenkins ychydig yn haws, dybiwn i. Castell Nedd yw'r unig etholaeth addawol yn y rhanbarth ac mae'n anodd dychmygu Bethan yn curo Alun Llywelyn am yr enwebiad. Os ydy Alun am sefyll felly rwy'n tybio mai aros ar y rhestr gwnaeth Bethan er na fydd y safle gyntaf wedi clustnodi ar gyfer menyw y tro hwn.

Gellir cymryd y ffaith fod Janet Ryder wedi sefyll yn Ne Clwyd yn yr etholiad cyffredinol fel arwydd ei bod o leiaf yn ystyried newid. Fe fydd llawer yn dibynnu ar fwriadau Dafydd Wigley yn yr achos yma, am wn i. Os ydy Dafydd yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd rhestr mae'n debyg mai fe, nid Janet, fyddai ar y brig. Mewn sefyllfa felly gallai De Clwyd fod yn well bet I Janet er yn gythraul o gambl.

Y tu hwnt i hynny, mae'n annhebyg y gwelwn ni lawer o newid. Mae'n debyg mai anelu am restr Dwyrain De Cymru y bydd Adam Price os nad oes 'na ryw agoriad annisgwyl yn yr etholaethau.

Mae 'na ddau enw arall i wylio allan amdanyn nhw yn y brwydrau etholaethol sef rhai Gareth Jones a Ron Davies. Absenoldeb fyddai'n ddiddorol yn yr achos cyntaf- presenoldeb yn yr ail!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:25 ar 17 Mehefin 2010, ysgrifennodd Tu Fas:

    Mae gennyf wybodaeth weddol bendant sy'n dweud:

    1, Bydd Nerys yn sefyll yng Ngorllewin Caerfyrddin, ni fydd John yn rhoi ei enw ymlaen.
    2, Bydd John Dixon yn debygol o roi ei enw ymlaen i fod ar y rhestr rhanbarthol.
    3, Mae'n debygol iawn, iawn y bydd Ron Davies yn rhoi ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaerffili (os nad yw wedi gwneud yn barod).
    4, Dwi ddim yn siwr am Janet Ryder yn rhoi ei henw ymlaen yn ne Clwyd, ond mae un o wyrion Gwynfor wedi rhoi ei enw ymlaen yn ol y son.

  • 2. Am 16:13 ar 17 Mehefin 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    W...diddorol...

  • 3. Am 17:02 ar 17 Mehefin 2010, ysgrifennodd Tu Fas:

    Wedi clywed nawr mai yn y de ddwyrian bydd Ron yn sefyll o bosib, ac Adam ar restr Canol a Gorllewin Cymru... Risg mawr i Adam Price!

  • 4. Am 17:33 ar 17 Mehefin 2010, ysgrifennodd CaerMeirion:

    Dyna'r draferth gyda dechrau trafod enwebiadau - mae'n creu faciwm newyddion, ac mae'r faciwm hwnnw yn cael ei lenwi gan sibrydion Sieiniaidd. Daw'r gwir allan ymhen dim o dro, yna cawn ddechrau dyfalu go iawn ynghylch y posibiliadau.

  • 5. Am 08:03 ar 18 Mehefin 2010, ysgrifennodd plaidman:

    Hyfryd i wybod bod cystadlu am seddi ym mynd ymlaen yn rhengoedd PC. Mae'n debyg o ddigwydd yn fy ardal i ta beth.

  • 6. Am 08:42 ar 19 Mehefin 2010, ysgrifennodd mici:

    Mae Heledd Fychan wedi cyhoeddi yn Y Ddraig Goch ei bod am sefyll eto ym Maldwyn yn 2011.

  • 7. Am 11:40 ar 20 Mehefin 2010, ysgrifennodd Gwerinwr:

    Mae'n hawdd deall pam y mae cymaint o gyffro a diddordeb yn ymgeiswyr posibl y Blaid ar gyfer etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae ganddi lawer o dalentau ifainc sydd a chyfraniad pwysig i'w wneud. Rwy'n mawr obeithio y bydd Nerys Evans yn dewis ymladd sedd etholaethol gan ei bod yn seren. Er bod gennyf barch mawr i John Dixon, rwy'n credu y dylai sefyll o'r neilltu y tro hwn a gadael i Nerys roi cynnig arni yn Ngorllewin Caerfyrddin. Byddai ganddi siawns dda o ennill.

    Ond un gair o rybudd. Rhaid i'r Blaid ofalu fod Dafydd Wigley ar ben rhestr ranbarthol y Gogledd a bod Adam Price ar ben rhestr y De-ddwyrain. Byddai methu a chael y ddau hyn yn y Cynulliad ar adeg mor dyngedfennol yn ystod y cam nesaf yn hanes datganoli yn ddim llai na thrychineb i Gymru.

  • 8. Am 17:56 ar 22 Mehefin 2010, ysgrifennodd Heledd Fychan:

    Mici - pennawd camarweiniol i fy erthygl yn y Ddraig Goch, wnes i ddim datgan hynny a dydw i ddim yn rhedeg ym Maldwyn eto. Mi fyddai yn rhoi fy enw ymlaen ar gyfer rhestr y Gogledd. Mae'n debygol o fod yn eithaf brwydr ac rwyf yn edrych ymlaen at y sialens!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.