Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llithro ar y dec

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Gwener, 22 Hydref 2010

Rwy'n ymwybodol nad wyf wedi blogio rhyw lawer yr wythnos hon. Prysurdeb yw'r rheswm pennaf ond mae 'na elfen o 'beidio tyfu tato yn eich baw eich hun' pan ddaw hi at S4C!


Mae gen i ambell i beth i ychwanegu at y drafodaeth honno ond rwy'n gwneud fy ngorau glas i 'sgwennu'r sylw yma mewn ffordd gwbwl ffeithiol a niwtral.

Yn gyntaf mae pobol yn llygaid ei lle wrth amau mai penderfyniad munud olaf oedd hwn. Rwyf yn gwybod hyd sicrwydd mai'r bwriad wythnos ddiwethaf oedd cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r Sianel. Mae gan yr Ysgrifennydd Treftadaeth yr hawl i orchymyn ymchwiliad o'r fath. Yn wir cafwyd ymchwiliad tebyg yn y nawdegau, un yr oedd S4C ar y pryd yn ystyried yn hynod o ddefnyddiol. Y bwriad oedd na fyddai 'na unrhyw newid yn strwythur y sianel cyn i'r ymchwiliad cael ei gwblhau ac y byddai S4C yn derbyn sicrwydd o'i chyllid am y pedair blynedd nesaf - er y byddai'r cyllid hwnnw rhyw 20-25% yn llai nac mae'n derbyn eleni.

Roedd y del yma'n ganlyniad i lobio cryf gan rai o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru ac yn llawer gwell na rhai o'r opsiynau eraill oedd dan ystyriaeth. Roedd cael gwared â'r sianel yn gyfan gwbl yn un o'r posibiliadau hynny.

Fe newidiodd pethau dechrau'r wythnos hon. Ni fedraf fod yn gwbl sicr o hyn ond mae sawl ffynhonnell wedi awgrymu mae'r penderfyniad i ddelio a lefel y drwydded deledu eleni yn hytrach nac aros am flwyddyn arall ynghyd a rhwystredigaeth ynghylch agwedd Awdurdod S4C oedd yn gyfrifol am y newid. Mae'r rwystredigaeth honno yn amlwg yn y gwahaniaeth yn nhôn a manylder y llythyrau a ddanfonwyd i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac S4C.

Yr ail beth sy'n amlwg yw mai o'r DCMS ac nid y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú y daeth yr awgrym y gallai'r Gorfforaeth ysgwyddo'r baich o ariannu'r Sianel. Mae'n ddigon teg i ddweud, dwi'n meddwl, bod S4C a'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi chwarae ambell i em wleidyddol ar hyd y blynyddoedd. Dyw hi ddim yn ymddangos i mi bod hynny'n wir yn yr achos yma

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:45 ar 22 Hydref 2010, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    Mae arna i ofn bod dy tweet di neithiwr yn mynd braidd tu hwnt i 'ffeithiau'.

    Dyma fo: "@vaughanroderick Rhyfeddu bod Eifion yn fwy o news na dyfodol S4C. Mae'n dweud y cyfan."

    Pwy wir fyddai'n credu bod ymateb effemeral i ymadawiad Jonsi o fwy op bwys i'r rhan fwyaf o bobol na'r hyn sy'n cael ei drafod am S4C? Un ai ti ddim yn deall natur trafodaethau aml-haenog ac ar y pryd Twitter, neu ti'n dod i gasgliadau amheus wedi eu seilio ar farn braidd yn ddi-sail nad oes ots gan bobol am ddyfodol S4C dan law y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú.

    Dwi'n credu bod pawb yn gwybod bod diffygion yn ymateb Awdurdod S4C i ddigwyddiadau'r misoedd diwethaf, a bod angen arolwg llwyr o weithgareddau'r sianel, ond mae hwn yn dir gwahanol rwan.

    Ac o ran yr honiad bod dim gem wleidyddol rhwng y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ac S4C...mae'r naratif sy'n dod gan y gorfforaeth o 'achub' y gwasanaeth yn gwrth-ddweud hynny mae arna i ofn.

    Does dim achubiaeth gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn y del presennol, spin yw hynny. Dim ond ansicrwydd ariannol, golygyddol a strwythurol a thraflynciad sefydliad cwbl Gymraeg mewn i gorfforaeth Brydeinig.

    Gobeithio y daw torf i'r Rali ar y 6ed o Dachwedd i ddangos hynny i ti.

  • 2. Am 20:54 ar 23 Hydref 2010, ysgrifennodd Cedwyn Aled:

    Dwi'n siwr bod Rhodri ap Dyfrig yn gywir i ddisgryfio S4C fel 'sefydliad cwbl Gymraeg', ond bydde fe'n anodd i ddisgrifio S4C fel sefydliad cwbwl Gymreig oherwydd mae'r arian i gyd wedi dod o goffre llywodraeth Prydain.

    Wedd y 'sgrifen ar y mur i S4C o'r amser daeth datganoli i Gymru. Wedd e 'mond yn gwneud sens o dan yr hen drefn 'Prydeinig'.

    Y syndod yw nath S4C para mor hir, 11 mlynedd, ar ol sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

  • 3. Am 15:33 ar 24 Hydref 2010, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    O ran bod y 'sgrifen ar y mur, dwi'n credu bod Cedwyn Aled yn berffaith gywir i ddweud hyn, ac mi allai S4C fod wedi gwneud llawer iawn mwy i helpu eu hachos. 2004 oedd yr gan Roger Laughton, ac os dwi'n gywir, mae'r Ddeddf yn nodi bod adolygiad i fod bob 4 mlynedd o leia.

    Pam na chafwyd un yn 2008? Gallai hynny fod wedi amlygu gwendidau, rhoi lle i'r cyhoedd, diwydiant a gwleidyddion i fwydo mewn i strategaeth a rhoi S4C mewn lle llawer, llawer cryfach ddwy flynedd yn ddiweddarach. Beth sy'n amlwg ydi bod amseru'r ffradach mewnol yn S4C bod yn niweidiol iawn a'i fod yn awgrymu'n gryf bod angen capteiniad newydd ar y llong. Does dim modd iddi ddianc o'i inertia sefydliadol fel arall yn fy marn i.

    Dydw i ddim yn wrthwynebus i edrych ar ffyrdd amgen o ariannu S4C allai fod yn gyfuniad o arian trwydded (top slice llwyr, wedi'i warchod dros gyfnod fel Siartr y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, heb ymyrraeth Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú), llywodraeth Prydain ac arian Cynulliad. Yn sicr mae lle i ehangu briff S4C i amgyffred cynhyrchu ar gyfer maesydd sydd ddim o reidrwydd yn deledu (addysg, iechyd, lleol) allai ddod a ffrydiau arian pellach mewn. Mae dadl bod Google ac ati wedi tynnu arian hybsysebion allan o'r farchnad gyfryngau mewn gwledydd y tu allan i'r UDA, felly y dylen nhw gael eu trethu ar hysbysebion ar-lein i ariannu PSB. Model felly mae Sarkozy yn edrych arni yn Ffrainc i lenwi bylchau yn y gyllideb. Wn i ddim os yw hwn yn adas yma, ond rhaid edrych ar bob opsiwn.

    Mae llawer ffordd o gael Wil i'w wely, a byddai'n gwneud lles i edrych ar fodelau eraill yr UE sydd wedi eu nodi yn yr gan yr Observatoire Clyweledol Ewropeaidd ym mis Gorffennaf eleni.

    Ond drwy wneud dêl cefn amlen, mae'r Toriaid a'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú wedi anwybyddu barn Cymru yn ei gyfanrwydd yn y drofaeth o ddyfodol *ein* gwasanaethau darlledu. A does dim amser na gobaith ganddon ni i hyd yn oed ystyried be rydyn *ni'n* credu yw'r ffordd fwyaf addas i ddelio a dyfodol ariannol ein cyfryngau.

    Ysywaeth, rydyn ni yn y sefyllfa hon nawr, ac mae'r dull y mae darlledu Cymraeg (a Chymreig o estyniad) yn cael ei drin yn hynod drahaus. Cymaint felly ei fod yn glatsien i ddatganoli ei hun yn fy marn i. Son am sodro ni yn ein lle. Os nad ydi hwn yn reailty check am gael rhagor o bwerau i Gymru a hynny, wn i ddim beth sydd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.