Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hanner Pei

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2010

Llanast. Does dim gair arall i ddisgrifio cynhadledd newyddion y Ceidwadwyr y bore 'ma wrth i'r blaid drafod un o gonglfeini ei maniffesto ar gyfer flwyddyn nesaf sef yr addewid i "ddiogelu" y gyllideb iechyd dros y pedair blynedd nesaf.

Fe ddown i at yr addewid hwnnw yn y man ond fe gafwyd tamaid i aros pryd ar gychwyn y gynhadledd wrth i Nick Ramsay gyflwyno datganiad ynghylch cost cynnal swyddfeydd tramor Llywodraeth y Cynulliad.

Gair i gall. Os ydych chi eisiau i bobol gymryd datganiad o ddifri dyw e ddim yn syniad da i gychwyn eich sylwadau trwy ddewud "...bit of an old chestnut this. It's that time of year again. Ignore the last sentence. I was in a bad mood when I wrote it."

Mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau wrth i'r drafodaeth droi at yr addewid iechyd. Dyw newyddiadurwyr y Bae ddim yn hela mewn pac yn aml ac mi ydyn ni ond yn tueddu gwneud hynny ar ôl oglau gwaed. Mae 'na arogl felly ynghylch addewid y Ceidwadwyr.

Gofynnwyd sawl cwestiwn ac fe gafwyd sawl ateb. P'un ai oedd yr atebion hynny'n ddigonol sy'n fater arall.

Problem gyntaf y Ceidwadwyr yw ei bod wedi gwneud eu haddewid ynghylch diogelu'r gyllideb iechyd, sy'n ddeugain y cant o gyllideb y llywodraeth, cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth ynghylch eu cynlluniau mewn meysydd eraill. Mae'r blaid yn derbyn bod diogelu 40% o'r gyllideb yn golygu toriadau llym yng ngweddill y gwariant ond dydyn nhw ddim yn fodlon manylu ynghylch y toriadau hynny.

Yn lle hynny ceir addewid y bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi rhywbryd a chwynion nad oes gan y blaid 'lwyth o weision sifil' i weithio pethau allan are eu rhan. Mae hynny'n ddigon gwir, wrth gwrs, ond os nad yw'r manylion wedi eu gweithio allan sut gebyst y mae'r blaid yn gwybod bod diogelu'r gyllideb iechyd yn bosib a hynny heb fod ar draul gwasanaethau a chynlluniau hanfodol eraill?

Yr ail broblem i'r blaid yw natur yr addewid. Nid addo rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd ein pobol mae'r Ceidwadwyr ond addo diogelu cyllideb un adran o'r Llywodraeth. 'Seilo' gwariant yr adran iechyd sy'n cael ei hamddiffyn nid y gwasanaeth. Er mwyn amddiffyn y gyllideb honno mae'n bosib y gellid torri gwariant y cynllun "adfer a gofal", er enghraifft, cynllun nad yw'n cael ei ariannu o'r gyllideb iechyd.

Beth yw'r cynllun "adfer a gofal"? Prosiect sydd wedi ei anelu at sicrhau bod pobol oedrannus yn cael aros yn eu cartrefi ac yn derbyn gofal yno. Fe fyddai ei dorri yn ychwanegu'n syth ac yn sylweddol at y nifer o bobol fyddai'n hawlio gofal yn ein hysbytai. Hynny yw, fe fyddai trin y gyllideb iechyd fel buwch sanctaidd wedi ychwanegu'n uniongyrchol at y straen ar yr union gyllideb honno.

Nawr, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig. Efallai bod 'na atebion iddyn nhw. Efallai ddim. Ar hyn o bryd mae'n anodd osgoi'r casgliad mae cacen wedi hanner ei bobi yw addewid y Ceidwadwyr - cacen y mae newyddiadurwyr o leiaf yn cael hi'n anodd iawn ei llyncu!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:18 ar 9 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Dwi yn cymryd mai'r un peth yw adfer a gofal a "galluogi". Yr hyn sydd yn arwyddocaol yw bod y gwariant yma yn cael ei ystyried yn gonglfaen i'r ymdrech i leihau dibyniaeth tymor hir ar wasanaethau ac i gynhorthwyo ymdrechion i ymateb i'r her demograffig ac i arbed arian. Mae rhai arbenigwyr yn honi mai dyma'r unig ffordd all iechyd a gwasanaethau cymdeithasol weithredu i'r dyfodol.

    Byddai tori yn mynd yn erbyn y llanw enghraifft o arbediad tymor byr yn arwain at gostau tymor hir ?

  • 2. Am 00:10 ar 10 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Croeso nol, Vaughan! Fe fwynheais y llun ohonot ti ar y llinell biced tu allan i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú oedd ar y wefan newyddion ddydd Gwener.

    Ar nodyn gwahanol, rwy'n siomedig iawn ynglyn ag amharodrwydd parhaus Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Llundain i amddiffyn eu penderfyniad cywilyddus i herwgipio teledu Cymraeg.

    Roedd y rali S4C ddydd Sadwrn yn ardderchog - hyd at 2,000 yn bresennol. Ond ar Y Byd ar Bedwar, unwaith eto fe glywsom ni fod Syr Michael Lyons a Mark Thompson wedi gwrthod cynnal cyfweliadau ar y pwnc.

    Sut fod modd i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú gyfiawnhau hyn?

  • 3. Am 20:12 ar 10 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Dewi:

    Gan eich bod yn siarad am Tori's....

    Beth yw eich barn chi Vaughan (neu'r "bwci") ar siawns ail-etholi Mohammad Ashgar (neu Oscar..... ac wrth gwrs cadw swydd ei ferch!!

  • 4. Am 20:17 ar 10 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Buaswn i'n tybio y gallai hi dod yn agos iawn rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol am y sedd olaf yn y rhanbarth y tro nesaf... ond mae llawer yn dibynnu ar ganlyniadau etholaeth ym Mynwy a Chaerffili.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.