Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Traed Moch Môn

Vaughan Roderick | 12:47, Dydd Iau, 27 Ionawr 2011

Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth mawr o le pan welais un o swyddogion mwyaf rhadlon a chyfeillgar y Cynulliad yn gwgu fel y diawl y bore 'ma. Nid fe yw'r unig un. Mae sawl swyddog ac aelod cynulliad wedi eu gwylltio gan welliannau munud olaf y Llywodraeth i'r Mesur Llywodraeth Leol - gwelliannau fyddai'n rhoi'r pŵer i'r Llywodraeth orfodi cynghorau i uno.

Fe ddywedais yn y post diwethaf nad oes gan Gynghorwyr Môn lawer o gyfeillion yn y Cynulliad. Fe fyddai rhan fwyaf yn ddigon bodlon weld yr hyn a ddisgrifiodd un aelod fel "Wales' Comedy Council" yn cael ei uno a Gwynedd - yn enwedig gan fod y pwyllgor hwnnw eisoes yn gweithredu ar sail pwyllgorau ardal.

Aelodau Cyngor Môn yn hytrach na'i swyddogion na'i gweithwyr yw'r broblem yn nhyb gwleidyddion y bae ac fe fyddai cael gwared ar y mwyafrif ohonyn nhw yn ddatrysiad i broblem sydd wedi mynd a dod ers degawdau.

Mae'n demtasiwn wrth reswm i unrhyw lywodraeth a mwyafrif mawr drin ei deddfwrfa fel 'tipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn' ond ym marn rhai mae cyflwyno gwelliannau mor hwyr yn y dydd yn ymylu ar fod yn sarhaus ac yn hynod beryglus ar drothwy'r refferendwm. Yng ngeiriau un "fe fyddai hyn yn fel ar fysedd ymgyrch 'na' - pe bai un call yn bodoli."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:38 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Dewi:

    Da chi'n llygaid eich lle ynglyn ar fesur- dwi ddim yn deall pam bod rhaid brysio fo trwy'r Cynulliad. O ni byth yn meddwl swni'n deud hyn. Ond efallai bod y system LCO yn dda, os mai fel hyn fysa'r Cynulliad yn rhedeg- dwy waith mae hyn wedi digwydd. A dwin cyfeirio at y gwelliannau HYRT cyn Mesur Iaith. Ridiculous, a dwin siwr bod True Wales wrth eu bodd!.

    Ynglyn ar Ynys, yn union dim ond ryw 40dyn sydd yn rhoi enw drwg. Mae gweithwyr ar sywddogion yn wych. A fel ddywedais mewn sylw ar y blog dwytha, mae'r gwasaenaethau yn dda.

    Ond be syn waeth ydy petai yna etholiad yfory, roi fet i chi fysa rhan helaeth or cynghorwyr yn cael ei ail-ethol. A dwnim pam!!. Dwi'n cymeryd na all Carl "banio" pob Cynghorwr past and present rhag trio yn yr etholiad.

    Nai ofyn eto, Vaughan.
    Ydych yn meddwl caiff y gwellianau ei basio. Yntau ydy lot or ACau yn ei weld yn an-ddemocrataidd i gael rhywbeth eitha bwysig mor frysiog.

  • 2. Am 13:46 ar 27 Ionawr 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Os oes 'na beleidlais fe fydd y gwelianau'n pasio. Mae 'na fymryn o bosibilrwydd - dim mwy - y gallai'r gwellianau gael eu tynnu yn ol.

  • 3. Am 12:45 ar 28 Ionawr 2011, ysgrifennodd Helen:

    Beth bynnag fo achos sylfaenol y ffrwgwd yn achos Cyngor Môn, byddai'n well cyfaddef yn awr mai camgymeriad dybryd oedd yr ad-drefnu a ddigwyddodd ar lywodraeth leol ym 1996, yn ystod teyrnasiad John Major. David Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac olynydd John Redwood, fu'n gwthio'r newidiadau hynny arnom - newidiadau costus nad oedd fawr o neb yng Nghymru yn awyddus i'w gweld ar y pryd. O ganlyniad, wele 22 o awdurdodau lleol unedol yng Ngymru, yn lle'r 8 sir flaenorol oedd â chynghorau dosbarth o'u mewn. O ganlyniad, roedd angen llenwi swyddi 22 o Gyfarwyddwyr Addysg, 22 o Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ayyb - tasg ddigon anodd mewn gwlad fach fel Cymru. O gofio hynny, dwy ddim yn credu y dylai'r broses o uno awdurdodau lleol stopio gyda Gwynedd a Môn - mae'n bosibl y gallai rhai awdurdodau cymdogol eraill ystyried dilyn y patrwm, gan hepgor, trwy hynny, yr angen am ddyblygu swyddi a welwyd ers 1996.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.