Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri Croesau

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Os ydych chi'n mentro i'r Bae yn ystod y dyddiau nesaf fe welwch ddau bafiliwn dros dro yn sefyll ar blatfform o sgaffaldiau. Nid cofeb fyrhoedlog i'r diweddar Jane Russell yw'r par hwn - er bod 'na rhy olwg fronnegol yn eu cylch - ond stiwdios dros dro'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ar gyfer rhaglenni canlyniadau Dydd Gwener. Rwy'n meddwl mai yn yr un ar y dde y bydd Dewi Llwyd a finnau.

Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú a, than yn ddiweddar, ITV, wastad wedi gwario'n hael ar raglenni canlyniadau gan wybod eu bod yn denu cynulleidfa sy'n frwdfrydig os nad yw hi bob tro yn fawr. Mae cymryd rhan ynddyn nhw'n sbort hefyd i bobol fel fi sy'n dwlu clebran ynghylch gwleidyddiaeth am oriau, Mae 'na foddhad hefyd mewn bod ymhlith y cyntaf i glywed sibrydion o'r canolfannau cyfri.

Yn yr oes gyfrifiadurol hon mae cyfrinachedd y cownt yn prysur ddiflannu ac mae'n debyg y bydd rhan helaeth o'r canlyniadau Ddydd Gwener yn ymddangos cyn gynted neu'n gynt ar Twitter nac ar ein rhaglen ni. Ta beth am hynny rwy'n gobeithio y gwnewch chi wylio.

Fe fydd y siabang yn cychwyn am 10.30 y bore.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:55 ar 1 Mawrth 2011, ysgrifennodd Kelv:

    Vaughan, oes 'na arolwg barn Dydd Gŵyl Dewi gan y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú eleni, neu rywbeth arall cyn y refferendwm?

  • 2. Am 16:11 ar 1 Mawrth 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae ICM yn cynnal arolwg i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ynghylch nifer o bynciau ar hyn o bryd. Oherwydd y refferendwm cyhoeddir y canlyniadau Ddydd Gwener.

  • 3. Am 23:27 ar 1 Mawrth 2011, ysgrifennodd Henri:

    Mi oedd gan Y Byd ar Bedwar bol piniwn da iawn nos Lun. Mi faswn yn taeru na chlywais air amdano ar y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú. A oedd amheuaeth fod sail ansicir iddo?

  • 4. Am 02:06 ar 2 Mawrth 2011, ysgrifennodd Gareth:

    A fydd modd i wylwyr tramor wylio'r cyfri? Naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg?

  • 5. Am 14:07 ar 2 Mawrth 2011, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gareth, fe fydd y rhaglen Gymraeg ar gael yn fyw ar Clic ar safle S4C.

    Henri, Doedd dim byd o gwbwl yn bos ar arolwg Y Byd ar Bedwar er bod y canlyniadau wedi eu cyflwyno mewn modd ychydig yn wahanol i'r arfer - gan bwyslwisio canranau ymysg y rhai oedd yn bwriadu pleidleisio yn hytrach na'r sampl gyfan. Dydw i ddim yn sicr faint yn union o sylw gafodd yr arolwg ar y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - fe gafodd peth.

  • 6. Am 15:20 ar 2 Mawrth 2011, ysgrifennodd Haydn:

    Unrhyw sylw, Vaughan, pryd bydd y canlyniad cynta'n cael ei gyhoeddi?

  • 7. Am 15:29 ar 2 Mawrth 2011, ysgrifennodd Neilyn:

    Sex sells! Newydd weld llun o'r ddau bafiliwn ar flog Betsan. Edrych mymryn yn fwy Madonna-aidd na Jane Russell efallai?

    Edrych ymlaen at y cyfri ar y teledu, ac yn fwy byth at ganlyniad positif go iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.