Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hilariws

Vaughan Roderick | 13:36, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

"Mewn addysg, mae'r Blaid yn addo haneru cyfraddau anllythrnenedd i blant sy'n gadael yr ysgol gynradd yng Nghymru erbyn 2016 a dileu'r broblem bron yn gyfan gwbl erbyn 2020. Mae'r Blaid yn addo bod yn llawdrwm ar safonau gwael mewn addysg ac ymdrin â thangyllido ysgolion." -

Datganiad Newyddion Plaid Cymru.

Sut mae delio ac anllythrennedd swyddogion y wasg, tybed?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:11 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Harold Street:

    Wel, os Å·ch chi am wneud sbort am wallau sillafu pobl eraill, fe allech chi o leai sillafu "ag" yn gywir!

    "Sut mae delio ac anllythrennedd swyddogion y wasg, tybed?"

    Neu oeddech chi'n ceisio bod yn eironig mewn rhyw fodd sydd wedi mynd dros fy nhen i?

  • 2. Am 14:16 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Aled:

    Mae anllythrnenedd (!) yn broblem yn bobman, wsti? Yn enwedig pan bydd dyn ond yn dewis paratoi cyfieithiad o'r Saesneg (nid fersiwn Cymraeg go iawn, felly).

    Efallai y ceir sillafu perffaith yn y dogfennau hyn, ond Saesneg yw'r iaith o hyd, er gwaethaf y geiriau Cymraeg.

  • 3. Am 14:57 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd Dai Tomos:

    Plîs, plîs, plîs Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú, allech chi adrodd rhai polisïau o'r maniffesto yn hytrach na phethau dibwys fel hyn?

  • 4. Am 15:27 ar 12 Ebrill 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    Baswn i'n pleidleisio i unrhyw blaid fyddai'n cael gwared ar ddyblu 'n' ac 'r'!

    Casom wared ar ddyblu 't' ac 'm' heb unrhyw drafferth, felly pam sefyll gyda dyblu'r ddwy lythyren yma?

  • 5. Am 18:26 ar 15 Ebrill 2011, ysgrifennodd James Llotrog:

    Ac felly y rhoddwyd prawf ar . :-)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.