Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gornest y gleision

Vaughan Roderick | 13:25, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011

Mae'n hawdd anghofio weithiau bod y ras i arwain Ceidwadwyr y Cynulliad yn digwydd o gwbwl. Mae'r ddau ymgeisydd wedi bod yn ddigon parod i ymddangos gyda'i gilydd ac i ddadlau ar raglenni teledu ond go brin y gellir honni bod yr ornest wedi tanio dychymyg y genedl.

Mae'n bosib nad yw hi hyd yn oed wedi tanio dychymyg aelodau blaid. Yn ôl un ffynhonnell dim ond pymtheg o bobol oedd yn yr "hustings" rhanbarthol yn Aberystwyth. Cofiwch, gallai'r ffynhonnell fod yn anghywir. Deuddeg oedd yno yn ôl ffynhonnell arall ac mae Tomos Livingstone wedi clywed mai naw sy'n gywir - gan gynnwys un sbei o blaid arall.

Rhan o'r broblem yw bod y ddau ymgeisydd yn tueddu defnyddio cod wrth ddadlau. Yn arwynebol felly, mae'n ymddangos weithiau mai'r unig beth sy'n gwahaniaethu'r ddau yw eu statws priodasol!

Mewn gwirionedd mae pwyslais cyson Andrew RT Davies ar y ffaith ei fod yn "ddyn teulu" yn ddadlennol. Wedi'r cyfan yn yr oes hon pwy ar y ddaear sy'n credu bod bodolaeth gwraig a phlant yn gymhwyster angenrheidiol ar gyfer swydd?

Nifer o aelodau'r Blaid Geidwadol yw'r ateb i'r cwestiwn yna. Yr hyn mae Andrew yn gwneud trwy bwysleisio ei deulu ar bob cyfle posib yw danfon neges ei fod yn berson - ac yn Dori - traddodiadol. Os ydych chi'n credu bod y blaid yn San Steffan yn rhyddfrydol braidd a'r blaid yn y Bae yn giwed o genedlaetholwyr Andrew yw'r dyn i chi.

Ble mae hynny'n gadael Nick Ramsay felly? Wel, fel ymgeisydd y rheiny sy'n credu bod yn rhaid i'r broses o foderneiddio a Chymreigio'r blaid barhau ac na fyddai hynny'n digwydd pe bai Andrew yn eu harwain. Portreadir Nick Ramsay fel olynydd naturiol i Nick Bourne yn absenoldeb Jonathan Morgan. Gallai'r dacteg honno weithio er ei bod hi'n werth nodi wrth fynd heibio mai colli oedd hanes y moderneiddwyr yn yr unig etholiad blaenorol sef hwnnw rhwng Nick Bourne a Rod Richards.

Pwy sy'n debyg o ennill felly? Gyda'i gefndir amaethyddol ac ar ôl treulio misoedd yn ymgyrchu ar lawr gwlad Andrew heb os oedd y ffefryn clir ar ddechrau'r ras. Ond yn ôl y son mae Nick wedi profi ei hun yn wleidydd llawer mwy abl a seriws nac oedd rhai'n credu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl rhai gallai Nick hyd yn oed ennill pleidleisiau'r mwyafrif o'r rheiny sydd wedi mynychu'r dadleuon a sesiynau llai ffurfiol. Ond a fyddai hynny'n ddigon? Go brin a barnu o "hustings" Aberystwyth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.