Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Glas y Dorlan

Vaughan Roderick | 10:36, Dydd Mawrth, 30 Awst 2011

Wel fe gadwodd Sir Benfro fi i fynd wythnos ddiwethaf - mae'r wythnos hon, os unrhyw beth, yn edrych yn dawelach. Gallwn i ddweud wrthoch pwy sydd wedi ennill cytundeb arlwyo'r Cynulliad ond er bod cryn ddiddordeb ym mrechdanau Ysbyty Gwynedd mae'n debyg bod rhai TÅ· Hywel yn llai dadleuol!

Beth am gymryd cipolwg felly ar etholiadau fydd yn digwydd gwanwyn nesaf - nid yr etholiadau lleol ond y rheiny i ethol Comisiynwyr i heddluoedd Cymru. Er nad yw'r ddeddfwriaeth eto wedi cyrraedd y llyfr statud yn San Steffan ac er bod 'na beth llusgo traed o du Llywodraeth Cymru fe fyddai angen trychineb neu wyrth (eich dewis chi) i rwystro'r etholiadau rhag digwydd.

Hyd y gwelaf i does na fawr o frwdfrydedd yng Nghymru ynghylch naill ai'r syniad na'r etholiadau ond yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd yn rhaid i'r pleidiau feddwl ynghylch ymgeiswyr ac ymgyrchoedd. Wedi'r cyfan fe fydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal yr un pryd a gallai perfformiad plaid yn etholiad yr heddlu effeithio ar ganlyniadau'r rheiny.

Does fawr o amheuaeth yn fy meddwl i mai Llafur fydd yn ennill yr etholiadau i ddewis Comisiynwyr Heddlu'r De a Heddlu Gwent. Gallasai "personoliaeth" mawr yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol achosi trafferth ond does dim ymgeisydd amlwg allai efelychu campau Ray 'Robocop' Mallon yn Middlesbrough neu H'angus y mwnci yn Hartlepool yn etholiadau maerol Lloegr.

Fe fydd yr etholiadau yn Nyfed-Powys a'r Gogledd llawer yn fwy cystadleuol fe dybiwn i. Mae'n debyg y bydd y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac o bosib ymgeisydd annibynnol yn cwffio i oruchwylio'r llu deheuol a Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn brwydro'n galed dros swydd y Gogledd.

Fe fydd yr etholiadau hyn yn defnyddio fersiwn cyfyngedig o'r bleidlais amgen - un lle mae etholwyr yn cael nodi eu hail ddewis yn ogystal â'u dewis cyntaf. Cyrraedd y rownd olaf yw'r gamp gyntaf mewn etholiadau o'r fath ac mae etholiadau maerol Lloegr wedi awgrymu bod personoliaeth a phroffil cyhoeddus yr ymgeisydd yn allweddol i hynny.

Fe fyddai'n gwneud synnwyr i'r pleidiau ledaeni eu rhwydi'n eang felly wrth ddewis ymgeiswyr gan feddwl y tu hwnt i'r giwed arferol o wleidyddion. Ble mae Richard Brunstrom y dyddiau hyn, dywedwch?


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:35 ar 30 Awst 2011, ysgrifennodd dewi:

    O naaaaa! Etholiad ARALL!?

  • 2. Am 13:02 ar 2 Medi 2011, ysgrifennodd Nangogi:

    Doeddwn i ddim wedi ystyried y byddai'r etholiadau hyn mor agored 'wleidyddol' - naifrwydd ar fy rhan i, mae'n siwr!

    Ac mae'r 'Supplementary Vote' yn hen system trwsgwl - bydd gofyn i bobl geisio dyfalu pwy fydd y ddau sy'n mynd i'r rownd derfynol - neu mi fydd yr ail bleidlais yn gwbl ddiwerth; mae'r Bleidlais Amgen yn well na hon!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.