Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ble ti'n myned glas y dorlan?

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Mawrth, 11 Medi 2012

Sut byddai Sarjant Ifan Pugh yn ymateb i'r syniad o ethol gwleidyddion fel Comisiynwyr Heddlu, dywedwch? Rhoi slap i Gordon a'i heglu hi am y dafarn, dybiwn i.

Erbyn hyn mae'n anodd canfod unrhyw un sy'n frwdfrydig o blaid y syniad. Yn ôl ambell i Geidwadwr fe fyddai'r syniad mwy na thebyg wedi ei ollwng yn dawel pe bai gan David Cameron fwyafrif. Roedd y ffaith bod y polisi wedi ei gynnwys yn y cytundeb clymblaid yn rhwystr i ambell i Syr Wmffra fyddai wedi cael gair tawel yn y clustiau iawn mewn amgylchiadau arferol.

Reit, dyna ddigon o gyfresi comedi'r ganrif ddiwethaf!

Fe fydd yr etholiadau yn digwydd ym mis Tachwedd ac fe ddylai'r cardiau a phapurau pleidleisio bod yn ddwyieithog os ydy pobol Whitehall yn tynnu eu bysedd allan.

Mae'r ffaith ei bod hi wedi cymryd rhybudd gan y Comisiwn Etholiadol i gael nhw wneud hynny yn adrodd cyfrolau.

Dyma'r diweddaraf gan y Swyddfa Gartref.

"Home Office officials are working urgently to try to ensure legislation is in place to allow bilingual forms in Wales."

Hyd yn oed os ydy'r Swyddfa Gartref yn sortio'r smonach yna allan - fe fydd y papurau pleidleisio'n bethau rhyfedd. Fe fydd blodyn Plaid Cymru a deryn y Democratiaid Rhyddfrydol yn absennol o'r papurau i ddechrau. Nid bod y naill blaid na'r llall yn boicotio'r etholiad fel y cyfryw. Y disgrifiad mwyaf addas o'u hagwedd yw "pam ddylen ni?"

Fe fydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn sefyll. Serch hynny ar ôl clywed disgrifiad gan un Geidwadwr ynghylch y ffordd y gwnaeth y blaid ei fegian yn aflwyddiannus i sefyll rwy'n casglu bod yr union blaid oedd mor frwd dros Gomisiynwyr yn ei chael hi'n anodd darbwyllo pobol addas i sefyll mewn ambell ardal.

Dyw Llafur ddim wedi wynebu'r un broblem. Er bod y blaid wedi gwrthwynebu'r syniad o Gomisiynwyr Etholedig mae'r hen bennau yn gweld cyfle gwleidyddol. Yn yr hinsawdd bresennol fe ddylai Llafur ennill y mwyafrif o swyddi a thrwy hynny rheolaeth ar .

Fe fydd gan Gadeirydd y Gymdeithas honno bulpud gwych i ymosod ar y Llywodraeth ar faterion cyfraith a threfn. Gellir disgwyl ei glywed a'i weld ar "Today a "Newsnight" byth a hefyd a bydd Comisiynwyr Llafur eraill yn gwneud y colbio ar eu cyfryngau lleol.

Y gwir amdani yw bod y Torïaid mwy na thebyg wedi creu cythraul o bastwn a'i roi yn nwylo eu gwrthwynebwr.

Y cwestiwn mawr nawr yw faint o bobol fydd yn trafferthu i droi allan i bleidleisio yn nhywyllwch Tachwedd. Dim llawer, dybiwn i. Rwy'n ddigon hen i gofio'r dyddiau pan oedd pobol Cymru yn gorfod pleidleisio bob saith mlynedd ynghylch agor tafarnau ar y Sul. Yn yr ardaloedd oedd eisoes yn 'wlyb' roedd y niferoedd oedd yn pleidleisio yn chwerthinllyd o fach. Mae rhyw gof gen i fod llai na deg y cant wedi bwrw eu pleidlais yng Nghasnewydd yn y bleidlais olaf yn y ddinas honno.

Dydw i ddim yn disgwyl ffigyrau llawer uwch y tro yma - a beth mae hynny'n dweud am bolisi oedd wedi ei lunio i gynyddu atebolrwydd yr heddlu?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:19 ar 11 Medi 2012, ysgrifennodd Harold Street:

    "Publicity stunt" yw'r ffws yma ynghylch ffurflenni Cymraeg, ifa? Does gan neb ifflyn o ddiddordeb mewn comisiynwyr heddlu nac mewn etholiad i'w dewis nhw, felly mae'r Swyddfa Gartref yn desperet i gael unryw sylw o gwbl i'r peth!

  • 2. Am 12:01 ar 12 Medi 2012, ysgrifennodd FiDafydd:

    Ar fater ychydig yn wahanol. Doeddwn i ddim gartre neithiwr, felly welais i mo'r bwletinau newyddion, ond eisiau gwybod oeddwn i a gafodd y protestiadau yng Nghatalwnia sylw o gwbl? Ac os cawson nhw sylw, faint yn union?

    Diolch

  • 3. Am 15:05 ar 12 Medi 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    wnes i ddim gweld rhaglenni neithiwr ond rwy'n casglu o Drydar na chafodd yr orymdaith sylw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.