![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi Cyflwyno gwobrau newydd i lyfrau
Yr oedd y Gweinidog Diwylliant a darllenwyr o bob rhan o Gymru yn Aberystwyth ddydd Sadwrn Hydref 1 ar gyfer cyfarfod i gyflwyno gwobrau newydd i lyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Hwn oedd y tro cyntaf i "Wobrau'r Diwydiant Cyhoeddi" gael eu dyfarnu.
Disgrifiodd Alun Pugh, y Gwenidog Diwylliant yn y Cynulliad hwy fel "cydnabyddiaeth o lwyddiant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru."
Arweiniwyd y seremoni i gyflwyno'r gwobrau a luniwyd gan Carwyn Evans, sy'n prysur sefydlu ei hun fel artist, gan Elinor Jones.
Y llyfrau Cymraeg a fu'n fuddugol oedd: Gwerthwr Gorau - Ffuglen: Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn, Gomer.
Gwerthwr Gorau - Barddoniaeth: Hoff Gerddi Nadolig Cymru, gol. Bethan Mair, Gomer.
Gwerthwr Gorau - Heb fod yn Ffuglen: Y Dyn'i Hun, Hywel Gwynfryn, Gwasg Gwynedd.
Gwerthwr Gorau - Plant: Jac y Jwc ar y Fferm, Dylan Williams a Gordon Jones, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Y Llyfr a Fenthycwyd Amlaf o Lyfrgell: Y Dyn yn y Cefn heb Fwst谩sh, Eirug Wyn, Y Lolfa.
Dyfarnwyd gwobrau i lyfrau Saesneg o Gymru o Gymru hefyd: Gwerthwr Gorau - Ffuglen: Sexy Shorts for Summer, gol. Hazel Cushion, Accent Press.
Gwerthwr Gorau - Barddoniaeth: The Hare that Hides Within, gol. Anne Cluysenaar & Norman Schwenk, Parthian.
Gwerthwr Gorau - Heb fod yn Ffuglen: Welsh Valleys' Humour, David Jandrell, Y Lolfa.
Gwerthwr Gorau - Plant: A Wartime Scrapbook, Chris S. Stephens, Pont Books/Gomer.
Y Llyfr a Fenthycwyd Amlaf o Lyfrgell: Sexy Shorts for Summer, gol. Hazel Cushion, Accent Press.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau fod y gwobrau "yn cydnabod y datblygiadau cyffrous diweddar o fewn y fasnach lyfrau yng Nghymru."
Noddwyd y gwobrau gan, Wasanaethau Cyfrifiadurol VISTA, Awdurdod Datblygu Cymru, Western Mail, StrataMatrix a CILIP - cymdeithas llyfrgellwyr - Cymru.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|